blog

sut rhai yw pobl ifanc mewn gofal mewn gwirionedd?

Os ydych chi’n ystyried dod yn ofalwr maeth, oni bai eich bod yn gweithio mewn ysgolion neu fod gennych brofiad personol o fod mewn gofal eich hun, efallai na fyddwch yn cwrdd â phlentyn mewn gofal nes iddo gyrraedd stepen eich drws.

Gallai hyn fod yn fyd newydd i chi.

Ac efallai eich bod yn poeni am “ei gael yn anghywir”.

Gofynnon ni i rywun sydd wedi treulio llawer o amser gyda phobl ifanc mewn gofal am gyngor i ofalwyr maeth newydd.

mae Amy yn dweud wrthym am ei phrofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn gofal

Rydw i wedi gweithio gyda phlant erioed. O’r meithrin i ysgolion; gan ymdrin â gwrth-fwlio a diffyg hunan-barch. Mewn ysgolion uwchradd, byddwn  i bob amser yn ymdrin â’r ymddygiadau anoddach ac yn rheoli ymddygiad.

Byddwn i’n gweld plant yn dod drwy’r system ofal yn methu darllen nac ysgrifennu.

Wedyn roeddwn i’n fam gartref ac yna ces i swydd yn sinema Colliseum – ond roedd hynny’n ddiflas. Roeddwn i’n gweld eisiau gweithio gyda phlant.

Yn fwy diweddar rydw i wedi bod yn gweithio mewn cartref preswyl i blant fel gweithiwr allweddol. Rydw i yno wrth iddyn nhw gyrraedd ac yn eu cefnogi drwy bopeth, fel byddai mam neu dad yn ei wneud.

Teenage girl with long hair walking, wearing a light blue jumper

canfyddiad o bobl ifanc

Mae’r canfyddiad o bobl ifanc yn drafferthus. Mae gan y cyhoedd ganfyddiad negyddol o bobl ifanc mewn cymdeithas yn gyffredinol. Eu bod yn anghwrtais, yn fandaleiddio ac yn difetha ein cymunedau.

Ac mae cynnwys y ffaith bod person ifanc yn derbyn gofal yn gwaethygu’r canfyddiad negyddol hwnnw. Does ganddyn nhw ddim ffiniau na chanlyniadau, maen nhw’n mynd i ymddwyn fel hwliganiaid a difetha pethau i blant eraill.

Dydw i ddim yn dweud bod pob person ifanc mewn gofal yn berffaith.

Rydw i wedi cael un plentyn a gafodd ei ddal â chyllell yn gyhoeddus ac un arall a oedd bob amser yn rhedeg i ffwrdd ac roedd yn rhaid i mi ffonio’r Heddlu i roi gwybod iddyn nhw ei fod ar goll. Gallwch chi ddeall pam y gall y cyhoedd fod â’r canfyddiad hwn, oherwydd mae rhai yn ymddwyn fel bydden nhw’n ei ragweld.

Ond nid dyna’r achos i bob un.

Mae llawer mwy o’r plant rydw i wedi gofalu amdanyn nhw wedi bod llawn ofn.

sut mae pobl ifanc yn ymddwyn wrth gyrraedd gofal am y tro cyntaf?

Maen nhw wedi cael taith hir yn y car. Maen nhw wedi bod yn eistedd yng nghar eu gweithiwr cymdeithasol, yn gwrthod yn llwyr, heb wybod beth sydd y tu ôl i’r drws, heb adnabod neb yno na faint o amser maen nhw’n mynd i fod yno.

Maen nhw wedi cyrraedd tŷ rhyfedd, mae’n frawychus. Maen nhw wedi dod yn syth o’r ysgol i dŷ dieithriaid.

Maen nhw’n llawn ofn, beth yn y byd sy’n digwydd.

Ac mae disgwyliad, pan fydd y gweithiwr cymdeithasol yn dweud “Maen nhw’n wych, maen nhw’n bobl hyfryd ac maen nhw’n mynd i ofalu amdanoch chi,” y dylai’r plentyn eich credu.

Ond roedd eu rhieni i fod i’w caru a gofalu amdanyn nhw – ac eto maen nhw wedi bod trwy drawma a chamdriniaeth.

Mae hynny’n ddisgwyliad enfawr i’w roi ar blentyn, i gredu ei fod yn mynd i fod yn iawn.

Roeddwn i’n gofalu am 3 brawd/chwaer a phan gyrhaeddon nhw yn gyntaf, roedd ganddyn nhw ychydig o agwedd wael gan ddweud “allwch chi ddim fy nghloi i mewn” ond gyda rhywfaint o feithrin gan staff, fe wnaethon nhw ddeall sut brofiad oedd derbyn gofal, yn y ffordd iawn. Roedden nhw’n teimlo’r cariad a’r gefnogaeth oddi wrthym. Ac wedyn doedden nhw ddim eisiau gadael.

Canlyniad hyn serch hynny yw eu bod yn sylweddoli

“dyma beth ddylwn i fod wedi ei brofi gan fy mam fy hun”

Maen nhw wedi drysu am beth ddylen nhw fod wedi’i gael, y mae plant eraill wedi’i gael, ond nad ydyn nhw erioed wedi’i gael.

y wers gyntaf a ddysgais

Pan ddechreuais weithio ym maes preswyl, dywedodd rhywun “bydd yn fam iddyn nhw, dyna’r cyfan sydd ei angen”. Yr holl bethau y byddech chi’n eu gwneud i’ch plant eich hun, gwnewch hynny iddyn nhw.

Hawdd. Ar ôl bod yn fam gartref am 11 mlynedd, gallwn i wneud hynny.

Cymerais hynny yn llythrennol.

Ceisiais eu trin fel fy mhlant fy hun, gan geisio bod yn fam.

“Dim pwdin nes i chi fwyta’ch llysiau.” Byddwn i’n ei ddweud.

Ond doedden nhw ddim yn gallu prosesu’r gair “na”.

Doedden nhw ddim erioed wedi clywed na.

Roedd rhieni wedi gadael iddyn nhw wneud beth bynnag roedden nhw ei eisiau, er mwyn cael bywyd hawdd.

Gwnes i wrthdaro ag un plentyn yr oeddwn i’n gofalu amdano.

Roedd yn rhaid i mi gymryd cam yn ôl, doedd hyn ddim yn gweithio. Roedd yn rhaid i mi drio rhywbeth arall. Roeddwn i’n fodlon gwneud unrhyw beth i wneud iddo deimlo’n ddiogel yn ei gartref.

Felly, yn hytrach na defnyddio’r gair “na” yn llym, dechreuais aralleirio.

“Gallwch chi gael hynny, ond beth am wneud hyn yn gyntaf”

Roedd hyn yn gyfle mawr i ddysgu.

Mae’n rhaid i chi gofio eu bod yn dod o drawma. Y cyfan mae angen ei wneud yw eu derbyn, eu cefnogi a’u helpu i lywio bywyd a’i holl gyfnewidiadau. A bod yn gyson.

ofn bwyd

Rydych am eisiau iddyn nhw fod â lle diogel lle nad oes angen iddyn nhw fod ag ofn o ble mae eu bwyd yn dod.

Ces i rai plant yn chwilio yn biniau am fwyd dros ben.

Er bod cynllun prydau bwyd, bydden ni’n dweud wrthyn nhw pryd byddai byrbrydau ac roedden nhw’n gwybod ble roedd y bwyd yn cael ei storio. Bydden nhw’n dal i fwyta cymaint o fwyd â phosibl, gan eu bod wedi arfer â pheidio â gwybod pryd roedd y pryd bwyd nesaf.

Bydden nhw’n gorffen un Pot Noodle, ac yna dechrau’r ail un ar unwaith.

Yn hytrach na dweud “na” i’r ail Pot Noodle, byddwn i’n dweud ‘gadewch i ni ddod o hyd i rywbeth arall sy’n mynd i’ch llenwi ychydig yn fwy’.

sensitif i eiriau

Mae iaith yn bwysig, gall y plant fod yn sensitif iawn i eiriau. Byddwn i’n ymarfer geiriau yn fy mhen i wneud yn siŵr nad oedd beth roeddwn i’n ei ddweud yn mynd i gael ei gamddeall. Gall fod yn flinedig, yn amau eich hun. Ond ar ôl meithrin perthynas, mae’n haws, maen nhw’n dod i adnabod eich personoliaeth a’ch synnwyr digrifwch.

profiadau cyntaf, ar oedran hŷn

Gydag Aberaeron dim ond yn 20 munud i ffwrdd neu Ynys y Barri dim ond yn daith trên i ffwrdd, roedd y ffaith nad oedd rhai o’n pobl ifanc lleol erioed wedi bod i’r traeth yn anhygoel i mi. Rhywbeth rydyn ni wedi’i gymryd yn ganiataol yn llwyr. A’u hwynebau bach, wrth fynd i’r traeth am y tro cyntaf, yn 10 oed.

Boy on beach at aberavon looking out to swansea bay

Cafodd bachgen arall ei wahodd i ymuno â gêm o bêl-droed gyda bechgyn lleol, ond byddai dim ond yn cicio’r bêl yn erbyn y wal. Doedd e ddim yn gwybod sut i ymuno. Doedd e ddim yn gwybod sut i chwarae na rhannu. Roedd yn rhaid iddyn nhw egluro eich bod yn cicio’r bêl i berson arall a byddai’r bêl yn cael ei chicio’n ôl i chi.

Gwyliais un plentyn yn rhoi cynnig ar afocado am y tro cyntaf. Doedd e ddim yn hoff o hwnna.

Gwnaethon ni ddarganfod nad oedd un bachgen yn gwybod sut i ddringo wal. Felly gwnaethon ni ddangos iddo. Er efallai na fydd y gweithiwr cymdeithasol yn diolch i ni am hynny mewn blynyddoedd i ddod. Doedd hi ddim yn uchel, ni fyddai’n brifo ei hun. Roedden ni’n meddwl y dylai pob plentyn wybod sut i ddringo coeden neu wal, oherwydd mae hynny’n normal.

Roedd bachgen arall yn ysu am sgwter – roedd un gan ei ffrindiau i gyd yn yr ysgol. Gwnaethon ni anfon neges yn gofyn a oedd gan unrhyw un sgwter y gallai ei roi. Cawson ni ein boddi â chynigion. Cawsom ni hyd yn oed un newydd mewn bocs. Roedd e wrth ei fodd. Ond pan agorodd y sgwter, byddai’n ei wthio, gan gerdded wrth ei ochr. “Mae hynny’n dda,” medden ni, “ond beth am i ni ddangos i chi sut i roi un droed arno, a gwthio ymlaen?”

Roedd e’n meddwl fy mod i’n dwp.

Yn y diwedd, gwnaeth e ddysgu beth i’w wneud ac roedd e wrth ei fodd.

awgrymiadau ar gyfer ymdrin â’r cwestiynau anodd

Peidiwch â bod ofn gofyn i’r plentyn beth mae ei eisiau.

Hyd yn oed os na allwch ei roi iddo neu os nad ydych yn gwybod yr ateb.

Gofynnwch.

Gallwch chi ddweud “Rydyn ni’n mynd i gael sgwrs gyda’ch gweithiwr cymdeithasol yr wythnos nesaf, galli di ofyn bryd hynny, neu os nad wyt ti eisiau gofyn, efallai gallaf i ofyn y cwestiwn i ti a rhoi gwybod i ti beth mae’n ei ddweud.”

Os yw’n dymuno siarad am mam neu dad, mae hynny’n iawn hefyd.

Bydd plant hŷn fel arfer yn gwybod y rhesymau pam maen nhw mewn gofal, nid ydyn nhw’n dwp. Ond maen nhw’n dal i’w colli. 

Gallwch chi gynnig siarad am y peth. Fel arfer yr ateb yw na, dydyn nhw ddim eisiau ail-fyw’r cyfan.

Felly beth arall gallwch chi ei wneud? 

Mae blwch atgofion yn gweithio’n dda ar gyfer yr adegau hynny pan fydd angen yr agosatrwydd hwnnw arnyn nhw. Rhywbeth braf i edrych yn ôl arno. Llun. Mae’n anodd iawn pan does ganddyn nhw ddim byd. Rydyn ni hyd yn oed wedi plannu coeden, felly os ydyn nhw eisiau teimlo cysylltiad, gallan nhw eistedd wrth y goeden a meddwl amdanyn nhw.

Rydw i’n gofyn iddyn nhw am yr amser mwyaf doniol maen nhw’n ei gofio gartref, bydd rhannau da o’u bywyd.

Rydw i’n hoffi gwenu arnyn nhw.

Gall fod yn anodd iddyn nhw ddod o hyd i’w gwên eu hunain, felly rydw i’n ceisio creu un gyda nhw, pan nad oes unrhyw beth ganddyn nhw.

teenage girls on a bench

peidiwch â chymryd pethau’n bersonol

Byddwn i’n gofyn i blant beth oedd eu hoff brydau bwyd. Wedyn gobeithio eu bod yn bwyta bwydydd rydych chi’n gwybod y byddan nhw’n eu hoffi ac yn gwneud iddyn nhw deimlo bod croeso iddyn nhw.

Gofynnodd bachgen am lasagne.

Gwnes i ei goginio iddo. Edrychodd arno a’i wthio o gwmpas y plât.

Ble mae’r pys?, gofynnodd. Pys? Mewn lasagne?

Ydych chi eisiau imi goginio pys i chi a’u rhoi ar yr ochr?

Na, byddai fy mam-gu’n rhoi pys yn ei lasagne.

Yn hytrach na dweud bod hynny’n anghywir, dydych chi ddim yn rhoi pys mewn lasagne – efallai ei fod yn swnio’n wirion ond mae’n bwysig iddyn nhw – mae’n ymwneud â gwerthfawrogi hynny a pheidio â’i ddiystyru.

Dydych chi ddim yn gwybod y stori gefndir i hynny. Efallai mai dyma’r unig bryd poeth a gafodd y plentyn mewn amser hir iawn, a’i fam-gu wnaeth y pryd iddo.

Dydy’r pryd yna ddim yn golygu cael bwyd yn unig; mae’n symbol o gariad, derbyniad, anwyldeb ac efallai eu hunig atgof da.

Ac os nad ydyn nhw’n hoffi’ch rysáit lasagne, heb y pys, peidiwch â’i gymryd yn bersonol.

beth allwch chi ei gynnig i blant a phobl ifanc mewn gofal?

Efallai bod darllen blog Amy wedi gwneud i chi sylweddoli faint allwch chi ei gynnig i berson ifanc. Pethau syml fel dangos iddyn nhw sut i ddringo wal neu reidio sgwter. Dim ond eistedd wrth eu hymyl ar eu dyddiau anodd, coginio eu hoff bryd o fwyd neu fynd â nhw i’r traeth.

Siaradwch â’ch tîm maethu lleol am beth sydd gennych i’w gynnig.

Mwy o flogiau

10 reswm i faethu plentyn yn ei arddegau

Maethu fel gofalwr-gwrywaidd-sengl

Ellen a paul sut y mae maethu pob ifanc yn eu harddegau wedi cyfoethogin bywydau

Stori Mandy a Neil

Maethu pobl ifanc yn eu harddegau stori Gerry a Miriam

Stori Liz a Joe

Story Time

Stories From Our Carers