blog

sut i groesawu plentyn maeth i’ch cartref, a ffarwelio

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Elliot a Mel, pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn Voices From Care Cymru.
O sut i groesawu plentyn maeth i’ch cartref a gwneud i blentyn maeth deimlo bod croeso iddo, i ffarwelio â phlentyn maeth, yma, maen nhw’n rhannu eu hawgrymiadau ar gyfer gofalwyr maeth.

dweud helo wrth blentyn maeth

Mae Elliot yn rhannu eu cyngor ar sut i groesawu plentyn maeth i’ch cartref.

cyflwynwch eich hun i’r plentyn

Os yw’n bosibl, gellid dangos lluniau diweddar i blentyn cyn iddo gyrraedd, fel ei fod yn gwybod beth i’w ddisgwyl y tu ôl i’r drws ffrynt. Yn Maethu Cymru, gall pob gofalwr maeth ddiweddaru ei wybodaeth groeso ar-lein cyn i blentyn gyrraedd.

dangoswch nhw i’w “lle nhw” e.e. eu hystafell wely

Mae angen iddyn nhw wybod mai dyma eu lle nhw, ac y byddant yn ddiogel.

dangoswch iddyn nhw ble mae’r gegin a’r ystafell ymolchi

Efallai fydd plant yn poeni am helpu eu hunain i ddiod neu a oes angen iddyn nhw ofyn. Efallai y byddan nhw’n poeni am ddeffro’r teulu trwy fynd i’r tŷ bach yng nghanol y nos neu anghofio pa ddrws ydyw.

gadewch iddyn nhw ymlacio cyn mynd trwy reolau a ffiniau’r tŷ

Cadwch bethau’n syml yn y cyflwyniadau cyntaf. Cadwch at y pethau sylfaenol; ystafell wely, ystafell ymolchi a’r gegin.

Lady and two girls in a kitchen

amser gwely

I blentyn bach, cynigiwch ddarllen llyfr iddo cyn mynd i’r gwely.

I blentyn hŷn rhowch ddiod boeth am fod hyn yn gallu ei helpu i ymlacio.

cawod a bath

Gofynnwch a ydyn nhw eisiau cawod. Os nad ydyn nhw eisiau, anogwch ond peidiwch gwthio’r peth. Gall deimlo’n frawychus dadwisgo yng nghartref dieithryn.

hoff fwydydd

Os byddwch yn cwrdd â’r plentyn cyn iddo symud i mewn, gofynnwch iddo am ei hoff fwyd a cheisiwch ei brynu ar ei gyfer. Os nad yw’n iach, does dim gwahaniaeth am un noson. Mae’n gysur.

dinner table

hoff liw

Os ydych chi’n cwrdd â’r plentyn cyn iddo symud i mewn, gofynnwch iddo ei hoff liw ac efallai cael dillad gwely iddo yn y lliw hwnnw.

ffonau symudol

Ar gyfer plentyn hŷn, oni nodir yn benodol gan y gweithiwr cymdeithasol sy’n ei ollwng, peidiwch â mynd â dyfeisiau oddi wrtho am yr ychydig nosweithiau cyntaf.

curwch y drws os bydd ei angen arnoch

Dangoswch i’r plentyn lle gall ddod o hyd i chi yn ystod y nos a’i atgoffa i guro a byddwch yn dod at y drws.

cwestiynau

Peidiwch â gofyn cwestiynau treiddgar fel “pam wyt ti mewn gofal?” neu “pam ges di dy symud?”

pwy yw pwy

Cadwch rwymwr neu ffolder wrth law gyda manylion cyswllt i chi ac aelodau uniongyrchol o’r teulu maeth, yn ogystal â lluniau ohonoch chi a’ch teulu.

Family at front door of house

ymwelwyr

Lle bo’n bosibl, ceisiwch osgoi cael aelodau o’r teulu neu ymwelwyr eraill o gwmpas am y dyddiau cyntaf.

arian poced

Mae’n iawn rhoi arian poced i’ch plentyn maeth, ond cadwch y swm yn deg ac yn realistig.

sut i ffarwelio â phlentyn maeth!

Mae rôl gofalwr maeth yn garreg gamu tuag at ddyfodol cadarnhaol; p’un a yw’n pontio o ofal maeth yn ôl gartref neu’n symud i ofalwr maeth hirdymor.
Er y gall ffarwelio â phlentyn maeth a dod â lleoliad gofal maeth i ben fod yn anodd, yn aml, mae’n bosibl cadw mewn cysylltiad hefyd.


Pan fydd plentyn maeth yn gadael eich cartref, yn ddelfrydol gellir cynllunio hyn yn ofalus gan ddefnyddio cynllun pontio gofal maeth. Ond, rydym yn gwybod y gall newidiadau anochel ddigwydd ar fyr rybudd hefyd.


Felly, sut ydych chi’n dweud wrth blentyn maeth ei fod yn symud?


Mae Mel bellach yn rhannu eu cyngor am ffarwelio â phlentyn maeth.

Lady and 3 girls at front door to house

nid eu bai nhw a deall pam

Gwnewch yn siŵr bod y plentyn yn gwybod nad ei fai e yw’r ffaith ei fod yn gorfod symud lleoliad neu ddychwelyd gartref, a bod unrhyw deimladau am hyn yn ddilys. Gwnewch yn siŵr ei fod yn gyfforddus, a’i fod yn deall pam y gwneir y penderfyniadau hyn.
Byddwn yn argymell cynnwys y plentyn wrth wneud y penderfyniadau hyn a sicrhau bod y sgyrsiau hyn yn briodol ar gyfer lefel ei ddealltwriaeth. Bydd hyn yn ei helpu i ffynnu yn y dyfodol.

eiddo

Gwnewch yn siŵr bod holl eiddo’r plentyn yn mynd gydag ef, gan gynnwys unrhyw eitemau rydych chi wedi’u prynu. Mae hyn yn bwysig oherwydd dylai pob plentyn allu teimlo bod yr eiddo sy’n bwysig iddyn nhw yr un mor bwysig i’r gofalwr.
Hyd yn oed os yw’r pethau hyn yn edrych wedi torri neu’n aflêr, mae gan y pethau lleiaf ystyr i’r plant hyn ac mae angen cydnabod hynny. Dywedodd un person ifanc wrthym fod cymryd y dillad gwely o’i leoliad diwethaf wedi ei helpu i deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus ac yn cael gofal.

bagiau

Gwnewch yn siŵr bod eiddo’r plentyn wedi eu pacio mewn bagiau priodol fel bag dyffl neu gês. Mae hyn yn bwysig oherwydd ni ddylai unrhyw blentyn orfod pacio ei eiddo mewn bagiau du. Ni ddylent fyth deimlo embaras pan fyddant yn symud oherwydd y ffordd y mae eu heiddo wedi’i bacio.
Meddyliwch am y peth… pan fyddwch yn taflu pethau allan am nad ydyn nhw o ddefnydd a’ch bod chi’n eu hystyried yn sbwriel, rydych chi’n rhoi’r rhain mewn bag du, bag ailgylchu, neu fag archfarchnad cyn eu rhoi yn y bin.
Felly, dwi’n gofyn i chi, ydych chi’n meddwl ei bod hi’n briodol gofyn i blentyn neu berson ifanc roi popeth sy’n bwysig iddyn nhw mewn bag sbwriel?

amser i brosesu’r symud

Rhowch amser i’r plentyn neu’r person ifanc brosesu’r symud a, lle bo’n bosibl, cael ymweliadau yng nghartref y gofalwr maeth newydd.
Mae hyn yn bwysig oherwydd dylai pob plentyn wybod bod ei deimladau’n ddilys a’i fod yn cael ei glywed. Dylent gael cyfle i baratoi ar gyfer eu cartref newydd a dysgu am eu teulu newydd.
Rydym bob amser yn cael gwybod i beidio siarad â dieithriaid ac am berygl dieithriaid, ond rydym ni bobl ifanc sy’n cael ein rhoi yn y system ofal yn cael gwybod bod yn rhaid i ni fyw gyda dieithriaid. Mae disgwyl i ni ymddiried ynddyn nhw a dweud stori ein bywyd cyfan wrthyn nhw yn syth ar ôl cwrdd â nhw.
Gallwch helpu plentyn neu berson ifanc i baratoi ar gyfer ei gam nesaf drwy ateb ei gwestiynau a gwrando ar ei bryderon. Gallwch roi gwybodaeth iddyn nhw ynghylch ble maen nhw’n symud.

Lady and girl at front door

cadw mewn cysylltiad

Byddwch yn barod i gadw mewn cysylltiad neu iddyn nhw gysylltu â chi yn y dyfodol, os yn bosibl. Mae hyn yn bwysig oherwydd efallai fydd y plentyn yn teimlo ei fod yn gallu ymddiried ynoch chi.
Rydym yn gwybod bod llawer o bobl ifanc â dim perthnasoedd cryf, iach. Felly, trwy barhau â pherthynas gadarnhaol, gall hyn helpu eu datblygiad yn y dyfodol.
Mae addysgu plant a phobl ifanc i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol, a’u helpu i ddysgu gosod ffiniau fel plentyn yn eu helpu i wneud hyn fel oedolion. Gall hyn atal perthnasoedd afiach yn y dyfodol.

cwtshys ac atgofion

Rhowch gwtsh a rhannwch atgofion gyda’r plentyn o’i amser gyda chi oherwydd mae’n bwysig i’r plentyn deimlo ei fod yn cael ei garu ac yn cael gofal. Dylai’r plentyn wybod bod y teulu wedi mwynhau eu hamser gydag ef ac yn dal i feddwl amdano. Mae hyn yn ychwanegu at ein hatgofion ac yn ein helpu i ddatblygu hunaniaeth gadarnhaol i ni ein hunain. Meddyliwch am ysgrifennu hyn i lawr mewn dyddiadur atgofion hyd yn oed.
Peidiwch ag anghofio eich bod yn datblygu straeon bywyd y plant hyn ac yn cyfrannu at bwy fydd y plentyn hwnnw yn y dyfodol.

Young girl sat at a table with orange juice


ydych chi’n barod i ddweud helo?

Os hoffech ddysgu mwy am Voices From Care Cymru neu’n teimlo y gallech gynnig croeso cynnes i blentyn a dod yn garreg gamu tuag at ddyfodol gwell, cysylltwch â’ch tîm Maethu Cymru lleol heddiw.

Voices from Care Cymru

awdur yr erthygl

Voices from Care Cymru

proffil awdur

Story Time

Stories From Our Carers