blog

pa mor HEN mae’n rhaid i chi fod i faethu? (oes terfyn oedran?)

I fod yn ofalwr maeth yn y DU, bydd y rhan fwyaf o wasanaethau maethu yn gofyn i chi fod dros 21 oed, ond nid ydych chi byth yn rhy hen i faethu. Nid oes terfyn oedran uchaf i fod yn ofalwr maeth yn y DU.

beth yw’r oedran gorau i ddechrau maethu?

Yr oedran gorau i ddechrau maethu yw… pryd bynnag y byddwch chi’n barod.

Mae angen i chi fod mewn sefyllfa i gynnig lle, sefydlogrwydd, diogelwch, amser a chariad.

I rai teuluoedd, mae hyn yn golygu aros nes bod eich plant eich hun wedi tyfu i fyny, pan fydd ystafell wely sbâr ar gael a bod gennych amser ac egni i’w roi i berson ifanc arall.

I rai gofalwyr maeth, mae’n ymwneud â chynnig yr hyn y gallwch chi, ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith.

Gall maethu dyfu a newid gyda chi. Y cam pwysicaf yw’r un cyntaf.

Gwyliwch ein cyfres o fideos, “nawr yw’r amser”, gyda gofalwyr maeth yn rhannu pryd dechreuon nhw faethu

beth yw oedran y rhan fwyaf o ofalwyr maeth?

Mewn arolwg yn 2022 o wasanaethau maethu 5 awdurdod lleol yng Nghymru:

  • Roedd y rhan fwyaf o ofalwyr maeth (38%) rhwng 45 a 54 oed.
  • Roedd traean rhwng 55 a 64 oed.
  • Roedd yna ofalwyr maeth hefyd, er nad oedd cymaint, a oedd yn 21-34 oed, 35-44 oed a 65+ oed.

Ym Maethu Cymru, mae ein gofalwr maeth hynaf yn ei wythdegau a’n hieuengaf yn ei 20au.

Mae croeso i bobl o bob oedran – byddwn yn dod o hyd i’r math iawn o faethu i chi.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Ond pa mor hen yw rhy hen i ddechrau maethu? A yw’n wir nad oes terfyn oedran?

Gallwch ddechrau maethu yn eich chwedegau fel Jenny.

Yn ofalwr maeth yn Sir y Fflint yng Ngogledd Cymru, dechreuodd Jenny faethu yn 66 oed wedi iddi ymddeol o weithio mewn ysgolion fel ymgynghorydd gyrfaoedd.

Mae Jenny, sydd nawr yn 71 oed, wedi bod yn ofalwr maeth ers dros 5 mlynedd, gan ofalu am blant o bob oedran rhwng 9 a 18 oed.

Stori Jenny

Beth oedd yn fy mhoeni i am faethu yn fy oedran i oedd derbyn cyfrifoldeb am blentyn ifanc. Doeddwn i ddim yn siŵr y byddwn i yma i’w gweld nhw’n dod yn oedolyn. Mae hynny’n ymrwymiad mawr. Doeddwn i ddim yn siŵr pa mor hir y byddwn i’n ffit.

Ond mae cael plentyn o gwmpas yn eich cadw’n heini. Mae hyfforddiant yn cadw eich meddwl yn weithgar ac yn rhoi trefn i chi. Mae’n hawdd creu trefn sy’n seiliedig ar amseroedd bwyd, yn enwedig pan fyddwch chi ar eich pen eich hun.

6 mantais i fod yn ofalwr maeth hŷn

Mae Jenny’n teimlo bod llawer o fanteision i fod yn ofalwr maeth hŷn a sut gall ei hoedran fod yn fantais yn aml.

1 mwy o brofiad a sgiliau gwahanol fel gofalwr maeth hŷn

Fel person hŷn mae gyda chi fwy o brofiad, rydych chi wedi delio gyda mwy o bobl ac wedi cael bywyd hir i ennill llawer o wybodaeth.

Dwi wedi darllen llawer o lyfrau.

Mae gen i sgiliau pobi a gwnïo i’w dysgu.

Roedd un ferch ifanc yr oeddwn yn ei maethu, a fyddai’n ymweld â fi ar benwythnosau, wrth ei bodd yn pobi cacennau gyda fi. Mae pizzas cartref yn drît rheolaidd hefyd.

2 ychydig mwy croengaled yn fy chwedegau

Dwi’n gallu delio gydag amrywiaeth o blant, rhoi fy sylw iddyn nhw, heb gymryd dim byd rhy bersonol.

Mae bod yn hŷn yn ei gwneud hi’n haws deall plant nad ydyn nhw’n bondio gyda fi neu’n dychwelyd cariad tuag ataf yn gyflym.

3 ffigwr mam-gu i blant maeth

Gallwch fod yn ffigwr rhiant neu fam-gu iddyn nhw.

Mae pobl yn meddwl fy mod i’n fam-gu i lawer o’r plant sy’n dod i aros gyda fi. Ac maen nhw’n eitha’ hoffi hynny. Oherwydd dwi’n edrych fel y gallwn i fod yn fam-gu iddyn nhw.

Mae’n berthynas gyfforddus i’w chael gyda phlentyn, ac mewn rhai ffyrdd, yn haws na’u bod nhw’n eich gweld fel rhiant.

Gofynnodd y plant yn y stryd i un plentyn a oeddwn i’n fam-gu iddo, a dywedodd ie. Roedd yn teimlo ei fod yn cael ei dderbyn gan y plant yn y gymdogaeth, mae’n normal ymweld â’ch mam-gu. Roedd yn gwenu pan ddywedodd wrtha i.

4 wedi profi’r cyfan

Yn fy oedran i, mae’n debyg fy mod i’n fwy goddefgar.

Gall eich profiad bywyd eich helpu i ddelio â’r sefyllfaoedd y mae’r plant hyn wedi dod ohonynt ac yn delio â nhw. Fel colled a galar.

Mae’n gallu bod yn fantais eich bod chi wedi gwneud pethau a gweld pethau.

5 llawer o amser rhydd yn ystod fy ymddeoliad

Pan fyddwch chi wedi ymddeol, gallwch chi fod yno pan fyddan nhw eich angen chi.

Dwi yno iddyn nhw yn ystod y dydd.

Gallwch chi gymryd yr amser i fynd i’r parc ar ddiwrnod braf. Gallaf i fod yno ar gyfer eu dramâu ysgol.

Ac os oes problemau yn yr ysgol, gallwch chi fod yno i godi’r darnau.

6 peidio â cheisio cymryd lle eu rhiant

Gan fy mod yn hŷn, yn fwy profiadol ac wedi arfer delio â phobl, dwi wedi gweld fy mod i hefyd yn gallu gwneud mwy gyda’u rhieni.

Daeth un bachgen i’m gofal, o fewn wythnos roedd e nôl gartref lle roedd e i fod, ond rhan o hynny oedd fy sgyrsiau i gyda’i fam ac fe gawson ni ganlyniad hapus.

Ar adegau eraill, dwi’n dod o hyd i rieni nad ydw i mor gyfforddus â nhw, ond dwi’n ddigon hen i beidio â dangos hynny. Dwi’n eu trin nhw gyda chwrteisi fel nad yw’n achosi mwy o broblemau i’w plentyn. Dydw i ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd yn eu bywyd personol felly dydw i ddim yn ffurfio barn ar bobl nad ydw i’n eu hadnabod.

beth bynnag fo’ch oedran, ewch amdani!

Byddwn yn argymell i unrhyw un sy’n meddwl am faethu i fynd amdani.

Os ydych chi’n garedig, os ydych chi’n berson neis, byddwch chi’n iawn. Mae gofalwyr maeth i gyd yn bobl neis, yn bobl dda. Dydw i erioed wedi cyfarfod unrhyw un sy’n maethu nad oeddwn i’n ei hoffi.

Mae angen amynedd a synnwyr digrifwch da iawn. A pharodrwydd i ddysgu, mae’r hyfforddiant rydych chi’n ei gael mor ddefnyddiol o ran delio â phob math gwahanol o blentyn. Mae’n rhoi cipolwg i chi ar y materion y mae’r plant yn gorfod delio â nhw, ac yn ddefnyddiol wrth ymdopi â nhw eich hun, a deall pam maen nhw’n ymddwyn felly.

Plant ydyn nhw. Dydyn nhw ddim yn wahanol am eu bod mewn gofal. Dim ond plant ydyn nhw ar ddiwedd y dydd ac maen nhw angen cartref. A lle i ddysgu a thyfu’n ddiogel.

eich cam nesaf i faethu

Os yw stori Jenny wedi eich ysbrydoli i faethu, p’un a ydych yn eich 20au neu yn eich 70au, p’un a fydd yn drefniant llawn- neu ran-amser, babanod neu bobl ifanc yn eu harddegau, cysylltwch â thîm maethu eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers