blog

5 rheswm cyffredin a all eich gwahardd rhag bod yn ofalwr maeth

Yn y blog hwn, byddwn yn dweud wrthych beth sy’n eich anghymwyso rhag bod yn rhiant maeth. Gadewch i ni dawelu’ch meddwl. Yna, byddwch chi’n barod i godi’r ffôn i’r tîm maethu a gwneud yr alwad honno.

beth sy’n eich gwahardd rhag bod yn rhiant maeth?

1. euogfarnau difrifol

Bydd pob un o’n gofalwyr maeth yn cael gwiriad DBS cyn cael eu derbyn, i nodi unrhyw euogfarnau troseddol.

Ni allwn dderbyn eich cais os ydych chi, neu unrhyw aelod o’r teulu, wedi cael eich arestio am ymosodiad, GBH, neu drosedd dreisgar neu rywiol arall yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fodd bynnag, pe bai mân drosedd amser maith yn ôl, byddem yn gofyn i chi esbonio’r amgylchiadau i ni. Byddwn wedyn yn adolygu’r manylion ac yn ystyried faint o amser oedd wedi mynd heibio a beth sydd wedi newid ers hynny, h.y. pwy ydych chi nawr.

Er mwyn bod yn ofalwr maeth, mae angen i ni wybod popeth amdanoch chi a’ch teulu. Dywedwch wrthym.

Byddai’n well gennym pe baech yn dweud wrthym os oes rhywbeth yr ydych chi’n meddwl a allai effeithio ar eich cais maethu. Mae angen i ni wybod y byddwch yn agored ac yn onest pan fyddwch yn maethu.

2. rhy brysur

Mae bod yn ofalwr maeth gwych yn gofyn am amynedd ac amser. Os oes galw mawr arnoch gan fabi, rhieni oedrannus, neu eich swydd, efallai nad dyma’r amser iawn i wasgu mwy i’ch dyddiadur prysur.

3. tŷ anaddas

Mae angen ystafell wely arnoch er mwyn i’r plentyn maeth gael ei le ei hun. Mae angen ystafell sbâr ar y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, hyd yn oed os ydych chi’n maethu babi, felly mae hyn yn ofyniad mewn gwirionedd.

Gallwch ddarllen mwy am ofynion ystafell wely maeth yn ein blog: Beth yw’r gofynion ystafell wely ar gyfer gofal maeth yn y Deyrnas Unedig?

Mae angen cartrefi lleol arnom hefyd er mwyn cadw plant maeth yn eu cymuned. Rydym yn croesawu gofalwyr maeth o bob cefndir, diwylliant, crefydd, rhywioldeb, a rhyw – ond mae angen i chi breswylio yng Nghymru.

Rydym fel arfer yn argymell eich bod yn maethu gyda’ch awdurdod lleol eich hun, lle rydych chi’n byw, oni bai bod rheswm da pam na fyddai hyn yn gweithio i chi.

Three young people with dog

4. anifeiliaid anwes peryglus

Gall anifeiliaid anwes roi croeso cynnes i blentyn. Mae gan lawer o’n gofalwyr maeth gŵn, cathod, crwbanod, nadroedd, a hyd yn oed gwenyn.

Pan fydd ein tîm yn ymweld â chartref darpar ofalwr maeth, rydym am weld sut mae’r anifeiliaid anwes yn ymateb i ni. Sut gallen nhw ymateb i ymwelwyr – yn enwedig plant?

Ond os yw’ch anifail anwes yn anifail peryglus neu os oes ganddo hanes o frathu rhywun, gallai hyn eich atal rhag maethu.

Byddwch yn ymwybodol bod rhai bridiau cŵn na allwn eu caniatáu mewn cartrefi maeth – p’un a yw’n ymddwyn yn dda ai peidio. Mae hyn yn cynnwys unrhyw rai y mae’n rhaid i chi eu cofrestru o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991/1997 fel daeargwn tarw.

5. iechyd gwael


Er mwyn gofalu am eraill a bod ar gael yn gorfforol ac yn emosiynol, mae’n rhaid i ni ofalu amdanom ein hunain.
Os gallai eich iechyd (corfforol neu feddyliol) olygu mwy o ansefydlogrwydd i blentyn maeth, neu os gallai her maethu olygu dirywiad yn eich iechyd, gallai hyn fod yn rheswm dros beidio â derbyn eich cais.
Fodd bynnag, mae cymryd meddyginiaeth reolaidd yn iawn.
Nid yw bod yn yfwr trwm neu’n cymryd cyffuriau anghyfreithlon yn iawn. Os ydych chi’n ysmygu neu’n fêpio, ni allwch faethu plant o dan 5 oed.
Bydd eich iechyd presennol yn cael ei asesu gan eich meddyg teulu lleol eich hun a bydd eich addasrwydd i fod yn ddigon iach i faethu yn cael ei benderfynu gan ein cynghorydd meddygol fel rhan o’ch cais maethu.


 
rhesymau eraill y gallech gael eich gwahardd

  • Rydych chi’n benderfynol iawn am y math o blentyn rydych chi am ei faethu e.e. oedran, rhyw, crefydd, neu hil benodol
  • Rydych chi am faethu, ond nid yw pawb arall yn y teulu yn cefnogi hyn nac yn dymuno bod yn rhan ohono
  • Rydych yn mynnu bod yn rhaid i blentyn maeth fynychu eich eglwys neu dŷ crefyddol arall
  • Rydych chi’n teithio dramor yn aml ac nid ydych chi eisiau rhoi’r gorau i hynny. Darllenwch fwy: allwch chi fynd â phlentyn maeth ar wyliau?


rhesymau efallai na fydd eich cartref yn addas ar hyn o bryd

  • Gall grisiau agored beri risg cwympo (efallai y bydd angen rheilen ddiogelwch neu rwystr)
  • Pyllau heb eu gorchuddio yn yr ardd (fel arfer mae ateb hawdd i hyn gyda gorchudd cryf)
  • Mae gennych lawer o gamerâu diogelwch (h.y. mewn ystafelloedd cymunedol ac ystafelloedd gwely)
  • Gellir cerdded trwy ystafelloedd gwely i ystafelloedd eraill
  • Ymwelwyr neu letywyr anniogel, h.y. rydych chi’n perthyn i droseddwr rhyw cofrestredig


rhesymau pam y gallwn ofyn i chi aros

  • Rydych chi wedi colli plentyn, priod, neu aelod agos arall o’r teulu yn ddiweddar. Bydd angen amser arnoch i alaru cyn ymgymryd â her newydd
  • Rydych chi’n mynd ati i geisio am fabi neu’n cael triniaeth ffrwythlondeb
  • Rydych chi wedi cael babi yn ddiweddar. Byddem yn gofyn i chi aros o leiaf chwe mis ar ôl i’r babi gael ei eni i ddechrau asesiad


 
ydych, rydych chi’n gymwys i faethu


Nid ydym yn chwilio am bobl berffaith gyda bywyd perffaith. Mae plant yn chwilio am ofalwyr maeth sy’n wir, yn ddilys, yn gadarn ac yn ddibynadwy, yn ogystal â bod yn onest am eu cryfderau a’u gwendidau. Rhywun sydd eisiau helpu ac a fydd yn aros am gyfnod hir i’w tywys a cherdded wrth eu hochr ar eu ffordd heriol.
Os gallwch chi fod y person yna sy’n gallu cynnig caredigrwydd, cynhesrwydd a hygrededd, gall hynny arwain at lawer o lwyddiannau maethu gwych.
Dechreuwch drwy edrych ar y rhestr hon o bum peth ac estyn allan i’ch awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers