blog

“mae’r awdurdod lleol bob amser yno i chi.”

taith maethu cath a neil

Dechreuodd Cath a Neil ar eu taith faethu gydag asiantaeth faethu annibynnol (IFA). Yn 2018, fe wnaethon nhw drosglwyddo i Maethu Cymru Wrecsam. Dyma eu stori.

eisiau gwneud gwahaniaeth

Bu Cath a Neil yn ystyried maethu am y tro cyntaf yn ôl yn 2012.

Bryd hynny, roedd Cath eisoes yn cefnogi plant â phrofiad o ofal yn ei rôl fel athrawes ysgol gynradd, a chynhaliodd y cwpl hefyd sesiwn galw heibio rheolaidd i bobl ifanc yn eu harddegau yn eu heglwys leol.

Wrth feddwl yn ôl i’r sesiynau hynny, meddai Neil:

“Rwy’n cofio un ferch ifanc a oedd yn arfer mynychu; roedd hi’n eithaf blin ac yn ofidus i ddechrau. Yna aeth i fyw gyda gofalwr maeth yn lleol, ac ar ôl cwpl o fisoedd, fe allech chi weld y trawsnewid ynddi hi. Fe wnaeth i ni feddwl, waw gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn.”

“O ran maethu yn ein cartref, roedd y ddau ohonom wedi bod yn meddwl amdano ar wahân, ac yna un noson fe gawson ni sgwrs iawn, a dydyn ni ddim wedi edrych yn ôl.”

Gwnaeth y cwpl gais i ddod yn ofalwyr maeth gydag IFA oherwydd bod ganddynt ffrindiau a oedd yn maethu trwy asiantaeth.

trosglwyddo i maethu cymru wrecsam

Yn ystod eu hamser gyda’r IFA, parhaodd Cath i weithio’n rhan amser, yn cefnogi eu tri phlentyn a’r person ifanc yn eu gofal. Fodd bynnag, ar ôl pedair blynedd a hanner, fe benderfynon nhw eu bod am drosglwyddo i Maethu Cymru Wrecsam, eu tîm awdurdod lleol.

“Mae timau maethu awdurdodau lleol yn mynd yr ail filltir i gefnogi’r bobl ifanc mewn gofal a’r gofalwyr maeth sy’n gofalu amdanynt. Maent bob amser yno i chi,” eglura Cath.

pwysigrwydd cysylltiadau lleol

Dywed y cwpl fod y plant yn eu gofal wedi elwa’n aruthrol o’r cymorth lleol estynedig y gall cyngor ei ddarparu.

Meddai Cath, “mae gan yr awdurdod lleol fynediad at lawer o adnoddau perthnasol, ac maen nhw’n cynnig cyngor cadarn, ymarferol i sicrhau bod anghenion y person ifanc yn cael eu diwallu’n llawn. Mae mor bwysig bod plant yn aros yn eu hardaloedd lleol, fel eu bod yn agos at eu ffrindiau a’u hysgol.

“Pan oedden ni’n maethu gydag asiantaeth, roedd plant yn aml yn cael eu symud o gwmpas llawer o ofalwr i ofalwr, weithiau ymhell i ffwrdd o’u gwreiddiau. Yn achos un person ifanc oedd yn byw gyda ni, roedd eu hysgol nhw dros awr i ffwrdd, felly roedd hi’n anodd iawn cadw eu cysylltiadau lleol i fyny, ac yn golygu ein bod yn treulio 2 awr bob dydd yn y car. Nawr, mae’r plant rydym yn gofalu amdanynt yn cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau a’u perthnasau, ac mae hynny’n hollbwysig.”

cymuned maethu estynedig

Mae’r cwpl hefyd yn teimlo eu bod wedi elwa’n bersonol o’r gymuned glos o ofalwyr maeth yn eu hardal.

“Yn ein profiad blaenorol, dim ond ychydig o ofalwyr maeth oedd i gysylltu â nhw, ac nid oedd llawer o’r rheini’n byw’n lleol, felly roedd yn anodd cael yr agwedd gymunedol honno,” meddai Neil.

Nawr, maen nhw’n mynychu digwyddiadau cymdeithasol wyneb yn wyneb rheolaidd ac yn cyfarfod am foreau coffi gyda gofalwyr eraill yn eu hardal i rannu straeon a chyngor.

“I ni, mae dod yn ofalwyr maeth wedi bod yn agoriad llygad – ond nawr rydyn ni wedi newid i Maethu Cymru Wrecsam, rydyn ni’n sicr yn teimlo’n gartrefol.”

Dysgwch am faethu ar gyfer eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers