Dim ond saith oed oedd Kyle pan yr oedd angen gofal maeth brys arno yn ystod gwyliau’r haf.
Mewn amgylchedd anghyfarwydd, un noson nid oedd yn gallu cysgu felly tua 3am eisteddodd ei ofalwr maeth, Gavin gydag ef i wylio ffilm yn amyneddgar a chadw cwmni iddo drwy gydol noson ddi-gwsg llawn pryder a gofid.
Er mai dim ond am ychydig nosweithiau y bu’n aros gyda Gavin ar yr achlysur hwnnw, wnaeth Kyle byth anghofio’r weithred syml honno o garedigrwydd a chysur.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, pan oedd Kyle yn 17 oed ac angen gofal brys, daeth Gavin yn ofalwr maeth iddo eto gydag lleoliad tymor byr yn troi’n barhaol yn fuan wedi hynny.
Nawr, yn 22 oed, mae Kyle yn dweud ei fod yn ystyried Gavin yn dad iddo ac wedi ffynnu fel rhan o deulu estynedig o “frodyr a chwiorydd” maeth.
“Pan yn mynd i mewn i’r sefyllfa fel yna, bydd pobl ifanc yn ofnus ac yn meddwl ei bod hi ar ben arnyn nhw, fel y gwnes i yn bendant,” meddai Kyle. “Roeddwn i’n teimlo nad oedd unrhyw gefnogaeth, ond fe roedd ‘na.
“Dwi ddim yn ei alw’n dad, ond pryd bynnag y byddai’n siarad amdano, dwi’n dweud, ie, fy nhad i yw e. Mae e yna gyda phob math o gefnogaeth, emosiynol, ariannol, unrhyw beth.”
Dywedodd Kyle fod Gavin wedi ei helpu’n fawr trwy wrando, rhoi opsiynau iddo yn hytrach na dweud wrtho beth i wneud, a darparu cysondeb wnaeth bara hyd nes iddo dyfu’n oedolyn.
Gyda chymorth Gavin i ddod o hyd i’r gefnogaeth gywir ar gyfer ei arholiadau, gadawodd Kyle y coleg gyda theilyngdod dwbl mewn astudiaethau cyfryngau ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Salford. Ond ar ôl wyth mis, fel llawer o bobl ifanc, roedd yn amlwg i Kyle nad y cwrs hwn oedd y dewis iawn ar ei gyfer.
“Ro’n i’n poeni, unwaith y bydden i’n mynd i’r brifysgol, pan fydden i’n dod nôl, y byddai’n rhaid i fi symud allan a ffeindio lle i fi fy hun,” meddai Kyle. “Ond croesawodd Gav fi yn ôl ar unwaith ac roedd fel, ie, gei di aros yma nes dy fod yn barod i symud ymlaen. Mae’n iawn.”
Dywedodd Kyle fod cael cartref diogel parhaol wedi caniatáu iddo sefyll at ei draed eto. Mae bellach yn byw’n annibynnol ac wedi llwyddo i ddod o hyd i waith llawn amser ar ddesg gwasanaeth TG y cyngor. Mae Gavin, a’r teulu y mae’n ei alw’n “frodyr a chwiorydd” maeth, yn dal i fod yn rhan o’i fywyd. Maen nhw’n byw’n agos at ei gilydd, ac mae Kyle yn ymweld yn rheolaidd ac mae bob amser wrth law i helpu gyda materion technegol gemau cyfrifiadur y plant iau.
“Dwi mor falch o Kyle a lle mae e nawr o ystyried y dechrau a gafodd mewn bywyd,” meddai Gavin.
“Mae’r newidiadau cadarnhaol y mae wedi’u gwneud wedi ei arwain at ble y mae heddiw. Dyna’r boddhad mwyaf o faethu. Pan mae’n gweithio ac mae ganddyn nhw’r math o fywyd y byddech chi ei eisiau ar eich cyfer chi eich hun ac maen nhw ar y llwybr hwnnw. Dwi ddim yn meddwl y gellir maeddu hynna.
“Mae rhai pobl yn meddwl pan fyddwch chi’n dechrau maethu y gallwch chi ddatrys popeth. Ond mae’n daith hir iawn. Mae angen i chi sefydlu’r berthynas honno, yr ymddiriedaeth honno, a bod y person yna yn eu bywydau sy’n ddibynadwy, sy’n gwneud yr hyn maen nhw’n ei ddweud, ac maen nhw’n gwybod y gallant ddychwelyd.”