Maethu Cymru

llwyddiannau maethu: stori em

Am y rhan fwyaf o fy mywyd, roeddwn i’n meddwl bod goroesi yr un peth â byw.

Pan ti’n tyfu i fyny yn gorfod addasu’n gyson, symud rhwng cartrefi, delio gyda cholled, a datrys pethau ar dy ben dy hun, does gen ti ddim amser i feddwl am dy ddyfodol mewn gwirionedd.

Ti’n canolbwyntio ar y cam nesaf, y lle nesaf i aros, y ffordd nesaf o weithio drwy bethau.

Nawr fy mod i’n oedolyn, dwi wedi dysgu nad yw bywyd yn golygu goroesi yn unig.

Mae’n ymwneud â dod o hyd i ble rwyt ti’n perthyn.

dwi wedi dysgu nad yw bywyd yn golygu goroesi yn unig. Mae’n ymwneud â dod o hyd i ble rwyt ti’n perthyn.

dechrau o’r dechrau

Cafodd fy mhlentyndod ddechreuad anodd. Bu farw fy nhad o glefyd prin ar yr ymennydd pan oeddwn i’n naw oed. Mae gan fy mam broblemau iechyd meddwl sylweddol, a materion eraill, ac roedd hi’n ei chael hi’n anodd ymdopi. Roeddwn i’n symud o gwmpas yn gyson, gan golli allan ar gyfnodau hir o addysg, byth yn setlo unman mewn gwirionedd, nac yn teimlo fy mod i’n perthyn. Wnes i ddim sylweddoli tan y ddiweddarach gymaint roedd yr ansefydlogrwydd hwnnw wedi fy llunio.

Erbyn i mi droi’n 13 oed, roeddwn i’n profi cyfnodau o ddigartrefedd yn rheolaidd, weithiau’n cysgu mewn parciau neu’n syrffio soffas ble bynnag y gallwn i.

Roedd yr ysgol yn teimlo fel byd arall, un nad oeddwn i wir yn rhan ohono er, yn ffodus, arhosais yn yr ysgol uwchradd hyd at flwyddyn 11. Doedd neb yn yr ysgol wir yn gwybod beth oeddwn i’n mynd drwyddo, ac roeddwn i’n aml mewn trafferth.

darganfod sefydlogrwydd

Pan oeddwn i’n 16 oed, symudais i mewn gyda ffrind i’r teulu, gan roi ychydig o sefydlogrwydd i fi o’r diwedd.

Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn rhaid i fi wneud y penderfyniad torcalonnus a rhoi fy chwaer iau mewn gofal. Fe wnes i addo iddi hi y byddwn i’n dod o hyd i le i ni fyw ac y byddwn i’n dod i’w nôl hi pan y gallwn i.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, es i mewn i’r system ofal hefyd gan nad oedd unrhyw opsiynau ar ôl i fi a doedd gen i unman arall i fynd.

person yn ei arddegau mewn gofal maeth

Er ar y pryd, roedd hyn ond yn teimlo fel lle arall yr oedd yn rhaid i fi ffitio fewn iddo, jest amgylchedd arall nad oedd wir yn eiddo i fi, gwnaeth fy ngofalwyr maeth ddarparu rhywfaint o gysondeb i fi.

Fe wnaethon nhw fy annog i edrych ar y gwahanol opsiynau oedd ar gael i fi a fy nghefnogi i wneud cais i’r coleg. Fe wnaethon nhw fy nghludo i’r campws bob dydd, gwneud yn siŵr fy mod i’n cael cinio a mod i’n barod ar gyfer y diwrnod, gan fy rhyddhau o rai o’r cyfrifoldebau hynny. Roedd y gefnogaeth yma tuag at ddatblygu fy addysg yn help i feithrin ymdeimlad o hunaniaeth a dod o hyd i rywfaint o hunanhyder.

 
fy nghartref fy hun

Doedd gen i ddim syniad pwy oeddwn i na beth roeddwn i eisiau oherwydd doeddwn i erioed wedi cael lle i ddarganfod hyn. Ychydig cyn troi’n 18 oed, cefais fflat â chymorth fy hun o’r diwedd a dyma fi’n ymgartrefu gyda chymorth fy ngweithiwr cymdeithasol a gofalwyr maeth. Dyma’r tro cyntaf i fi gael rhywbeth oedd wir yn teimlo fel ei fod yn eiddo i fi, lle i anadlu, lle i wahodd fy ffrindiau a fy chwaer i ymweld. Yn y fflat fechan hon, sylweddolais nad oedd neb arall yn mynd i lunio fy mywyd ar fy nghyfer i—roedd yn rhaid i fi wneud hynny fy hun.

Y broblem oedd, doeddwn i dal ddim yn gwybod pwy oeddwn i. Roeddwn i wedi treulio cymaint o amser yn ceisio gweithio fy ffordd drwy bethau fel nad oeddwn i erioed wedi darganfod beth roeddwn i’n ei hoffi, beth oeddwn i’n angerddol yn ei gylch, pa fath o ddyfodol roeddwn i eisiau.

y brifysgol

Fe es i i’r brifysgol yn y diwedd, yn bennaf oherwydd bod gweithiwr cymdeithasol a fy ffrind gorau yn credu ynddai, a hefyd oherwydd ei fod yn golygu sefydlogrwydd—rhywle i fyw, rhwyd ​​​​ddiogelwch ariannol, y cam nesaf gydag ychydig o strwythur; penderfyniad wnes i wneud fy hun.

Serch hynny, fe wnes i’r penderfyniad anghywir i gychwyn drwy ddewis cwrs Eifftoleg, symud ymhell i ffwrdd, a theimlo’n fwy ar goll nag erioed. Ond dyna’r peth am fywyd, mae’n eich dysgu trwy brofiad.

Nid y methiant yma oedd y diwedd, roedd yn wers.

dechrau eto

Dysgais nad oedd bod ymhell o fy chwaer a fy ffrindiau yn dda i fi; ro’n i angen pethau cyfarwydd, nid dianc. Sylweddolais nad y lleoliad oedd yn teimlo fel cartref, ond y bobl. Felly, des i yn ôl i dde Cymru, cofrestrais ym Mhrifysgol Caerdydd, a dod o hyd i bwnc yr oeddwn i wir yn ei fwynhau – y cyfryngau.

ro’n i angen pethau cyfarwydd, nid dianc. Sylweddolais nad y lleoliad oedd yn teimlo fel cartref, ond y bobl

Ceisiais fy ngorau, manteisiais ar bob cyfle y gallwn gan gynnwys y cyfleoedd profiad gwaith a gynigiwyd gan y brifysgol i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Dysgais sut i reoli fy nghartref fy hun, sut i ymddiried mewn pobl eto, sut i ganiatáu i fi fy hun freuddwydio am rywbeth mwy na jest y cam nesaf.

Darganfyddais fy mod yn feichiog gyda fy merch yn fuan ar ôl fy mlwyddyn gyntaf a chefais fy nghefnogi wrth ddod yn rhiant-fyfyriwr gan y staff cymorth myfyrwyr yn y brifysgol, ynghyd â fy ngweithiwr cymdeithasol, a oedd yn golygu y gallwn i raddio yr un pryd â phawb arall.

Em walking

pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal?

Dwi bellach yn gweithio yn y Tîm Ehangu Cyfranogiad yn y brifysgol ble y bûm yn astudio, gan redeg y prosiect Dyfodol Hyderus ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal fel fi. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth i ofalwyr ifanc, pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio ac sydd wedi’u mabwysiadu, gan adlewyrchu’r model Ein Cymuned yng Nghaerdydd.
Sylweddolais i, oni bai am y gefnogaeth gan fy ngweithiwr cymdeithasol ac oedolion eraill drwy gydol fy mywyd fel oedolyn ifanc, na fyddwn i wedi dod o hyd i fy ffordd i’r brifysgol nac wedi cael mynediad at unrhyw un o’r cyfleoedd a wnes i.

Mae ymchwil yn awgrymu bod ‘na rai sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy ddim yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael. I fynd i’r afael â hyn, mae Prifysgol Caerdydd bellach yn cynnal hyfforddiant i weithwyr proffesiynol am ddim ar-lein ar gefnogi’r bobl ifanc hyn i mewn i Addysg Uwch.

Dwi’n teimlo fy mod o’r diwedd wedi cael yr hyder i ddadlau ar fy rhan i ac eraill. Dwi mor freintiedig mod i’n gallu trosglwyddo’r wybodaeth rydw i wedi’i hennill, yn y gobaith y gall helpu eraill i ddod o hyd i gefnogaeth y maent yn gymwys i’w dderbyn ac yn ei haeddu’n llwyr.

fy nghartref

Nawr, yn fy 20au hwyr, dwi wedi adeiladu rhywbeth yn raddol ac yn araf sy’n teimlo fel cartref, rhywbeth wnes i ddewis. Mae fy merch yn anhygoel, dysgais i yrru a chreu rhwydwaith cymorth gwych o ffrindiau, cydweithwyr a chefnogwyr.

Mae fy chwaer yn ffynnu yn y brifysgol, yn cwblhau ei gradd israddedig ei hun ac yn gweithio tuag adeiladu ei dyfodol ei hun. Arhosodd mewn cysylltiad â’i theulu maeth am amser hir, ac fe wnaethon nhw, yn eu tro, fy nerbyn i a chefnogi ein perthynas i dyfu. Doeddwn i ddim yn gallu gweld fy chwaer yn aml tra roeddwn i yn y brifysgol, ond roedd yn ryddhad gwybod bod rhywun yno ar ei chyfer tra nad oeddwn i.

Ac yn olaf, y newid gorau oll: y llynedd, am y tro cyntaf ers dros ddegawd, mae fy chwaer a fi’n byw gyda’n gilydd eto. Ein deinameg teuluol ein hunain, sydd o’r diwedd yn teimlo fel cartref gyda fy merch yno hefyd.

dathlu’r profiad o fod mewn gofal

Rydyn ni bellach yn dathlu ein profiad o fod mewn gofal ac rydym ein dwy yn cymryd rhan weithredol mewn grwpiau fel Voices From Care Cymru, CLASS CYMRU a CASCADE, ac wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu Cinio Nadolig Caerdydd y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym wedi dod o hyd i’r lle rydyn ni’n ffitio.

Am gyfnod mor hir, roeddwn i’n meddwl bod perthyn yn golygu lle, ond dydi e ddim. Mae’n ymwneud â’r bobl, ac mae’n ymwneud â chi. Mae’n ymwneud â dod o hyd i’r rhai sy’n eich gweld, sy’n eich codi i fyny, sy’n eich atgoffa eich bod chi’n gymaint mwy na’ch gorffennol.

Ni fyddai pob cam ar hyd yn fy nhaith wedi bod yn bosibl heb y bobl gywir yn cysylltu, yn siarad, yn cefnogi ac yn credu yndda i; rhywbeth y mae pob plentyn mewn gofal yn ei haeddu.

ni fyddai pob cam ar hyd yn fy nhaith wedi bod yn bosibl heb y bobl gywir yn cysylltu, yn siarad, yn cefnogi ac yn credu yndda i

Emily Hattersley at Cardiff University


Os hoffech gysylltu â Phrifysgol Caerdydd ynglŷn ag unrhyw un o’r gwasanaethau a grybwyllir uchod, neu i gael eich ychwanegu at eu rhestr bostio , neu ddysgu mwy am ein rhaglenni allgymorth, anfonwch e-bost at [email protected].

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn