Pan yr oedd Jake yn wyth oed, byddai’n edrych ymlaen i dreulio amser yn nhŷ ei ofalwr maeth egwyl byr, Sian.
Byddai Jake yn ymweld â Sian a’i theulu am gyfnodau byr, hyd at ychydig ddyddiau o hyd, lle y byddai’n chwarae pêl-droed yn yr ardd ac yn mwynhau cystadlu yn erbyn y plant eraill ar Wii Sports.
Nawr yn 26 oed, mae Jake yn dweud bod yr ymweliadau hynny ar gyfer swper ac aros dros nos yn aml yn teimlo fel gwyliau ac roedd bob amser yn teimlo fel rhan o’r teulu.
“Yn y gorffennol, os y baswn i’n dweud fy mod i mewn gofal, ymateb pobl yn syth fyddai i ddweud bod yn ddrwg ganddyn nhw i glywed,” meddai Jake.
“Ond ddylen nhw ddim teimlo’n flin drostai. Dwi’n ei weld fel peth da i fod mewn gofal oherwydd ei fod yn rhoi bywyd gwell i bobl ifanc, cyfle gwell i wneud rhywbeth na fydden nhw efallai byth wedi’i wneud fel arall.”
Gan yr oedd yn byw gerllaw yng Ngwynedd, parhaodd Jake i fwynhau ymweliadau byr i dŷ Sian drwy gydol ei blentyndod mewn gofal. Y fantais o gael mwy o oedolion gofalgar a rhai y gallai ymddiried ynddyn nhw o’i amgylch, hyd yn oed yn rhan-amser, oedd ei fod
wedi ei helpu i adeiladu teulu estynedig y gallai droi ato a theimlo’n rhan o’i gymuned leol.
Ond wrth astudio maeth chwaraeon ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, newidiodd ei amgylchiadau felly cysylltodd Jake, yn 18 oed, â Sian a’i gŵr Owain a dyma nhw’n ei groesawu i’w cartref yn barhaol.
Gyda chefnogaeth Sian ac Owain, mae Jake wedi mynd ymlaen i sefydlu ei fusnes ei hun fel hyfforddwr personol ac mae bellach yn byw’n annibynnol yn Lerpwl. Mae’n ymweld â’i gartref yng ngogledd Cymru yn aml ac yn eu hystyried yn deulu iddo.
“Os oes unrhyw faterion yn codi neu bod gen i unrhyw broblemau, nhw yw’r rhai dwi’n cysylltu â nhw gyntaf,” meddai Jake.
“Dwi’n gweld y teulu cyfan fel rhyw fath o deulu i fi rŵan. Dwi’n eu gweld fel fy siblingiaid hefyd.”
“Dwi mor falch ohono,” meddai Sian. “Mae’n frwdfrydig iawn. Yn amlwg, dwi’n falch o’r hyn y mae wedi’i gyflawni, ond dwi’n falch o gymaint mwy na hynny. Mae ganddo gleientiaid, mae’n llwyddiannus yn ei fusnes ond i mi, dwi’n cymryd mwy o falchder yn y dyn ifanc sydd wedi datblygu a’i fod wedi caniatáu i’w holl brofiadau ei lunio.”
“Dwi mor falch o weld ei fod yn gallu cynnal perthnasoedd a’i fod yn ein gweld ni fel ei deulu.”