gallwch chi helpu ffoadur ifanc

Mae tua 36 miliwn o bobl ifanc ledled y byd wedi’u dadleoli oherwydd gwrthdaro a thrais. Mae mwy na 100 o ffoaduriaid ifanc yn dod i Gymru bob blwyddyn.

Mae gan Gymru hanes balch o helpu rhai mewn angen. Gallwch chi fod yn rhan o hyn hefyd.

Mae Maethu Cymru angen teuluoedd a all gynnig cymorth, sefydlogrwydd ac arweiniad i ffoaduriaid ifanc wrth iddynt ailddarganfod eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd.

 

Young refugee football team

pwy yw'r ffoaduriaid ifanc sy'n dod i Gymru?

Mae mwyafrif y ffoaduriaid ifanc sy’n cyrraedd Cymru yn fechgyn yn eu harddegau rhwng 14-17 oed. Maent yn aml yn ffoi o wledydd lle mae rhyfel, gwrthdaro a gormes. Mae llawer yn dod o:

  • Affganistan
  • Iran
  • Irac
  • Syria
  • Swdan,
  • Eritrea,
  • Fietnam
  • Albania
Young refugee football team

beth mae maethu ffoadur ifanc yn ei olygu?

Mae angen rhywle croesawgar ar ffoaduriaid ifanc i aros wrth iddynt ailddarganfod eu hannibyniaeth.

Efallai y bydd angen help arnynt i addasu i ffordd o fyw sy’n anghyfarwydd ac addasu i ddiwylliant a ffordd o fyw gwahanol.

Gan ddibynnu ar eu hoedran, efallai y bydd angen i chi eu cofrestru gyda’ch ysgol uwchradd neu goleg lleol a’u cefnogi gyda’u dysgu. Efallai y bydd angen i chi hefyd eu cofrestru gyda meddyg a deintydd.

Bydd angen llawer o gymorth arnynt i ddod i ddeall y systemau a’r prosesau mewnfudo ffurfiol. Mae cefnogaeth a hyfforddiant i’ch helpu gyda’r broses hon.

 

young refugee football player

pa mor hir byddant yn aros?

Bydd hyn yn dibynnu ar oedran y plentyn, ei allu i fyw’n annibynnol a’i statws mewnfudo.

Boed hynny am wythnos, mis, neu flwyddyn, gall eich cefnogaeth helpu i arwain ffoadur ifanc tuag at ddyfodol cadarnhaol, gan roi cyfle iddynt ddysgu ac adennill eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd.

pa gefnogaeth fyddaf yn ei dderbyn?

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, byddwn yn eich arwain. Gyda’n cefnogaeth, gallwch helpu plant sydd wedi goresgyn heriau aruthrol, i ddechrau o’r newydd.

Byddwch yn derbyn taliad i dalu costau’r biliau ychwanegol.

Bydd oedran a lefel annibyniaeth y plentyn yn penderfynu beth sydd ei angen arnynt.

Teenage boy playing guitar at home

llety â chymorth ar gyfer 16+ oed

Os nad yw dod yn ofalwr maeth cymeradwy yn gweithio i chi, fe allech wneud gwahaniaeth mawr o hyd drwy gofrestru fel ‘llety â chymorth.’
Yn y sefyllfa hon byddech yn dod yn landlord gyda lletywr – ond gyda chyfrifoldeb gofal llai ffurfiol – a dyma yn aml beth sydd ei angen ar ffoaduriaid ifanc.

Rydyn ni’n falch o fyw mewn gwlad gynhwysol ac amrywiol sy’n gofalu am bob plentyn yng Nghymru.

Mae ffoaduriaid ifanc yn chwilio am gefnogaeth, sefydlogrwydd ac arweiniad. Gallwch chi eu helpu.

Mae rhai gwiriadau gofalus y mae angen eu gwneud i’ch cymeradwyo i ddarparu gofal maeth neu lety â chymorth i blentyn sy’n ffoadur. Gall y broses hon gymryd hyd at 6 mis.

I ddarparu cartref i blentyn sy’n ffoadur, cysylltwch â thîm maethu eich awdurdod lleol.