Maethu Cymru

llwyddiannau maethu: stori sophia

Mae Sophia, sy’n 28 oed ac o Aberhonddu, yn berson ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Yn dilyn ei gradd israddedig ac MA mewn celf, mae hi bellach yn gweithio fel gweithiwr preswyl i blant wrth gydbwyso ei hangerdd a’i gyrfa hunangyflogedig fel darlunydd. 

Yma mae’n rhannu ei thaith faethu a sut y daeth i ddarlunio ein llyfr coginio, Gall pawb gynnig rhywbeth.

Sophia and her cookbook

Rydych chi’n aml yn gweld hynny gyda phlant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, mae ganddyn nhw’r un stori.

Erbyn i mi fod yn wyth oed, roeddwn wedi bod mewn tua 20 o wahanol gartrefi maeth, naill ai mewn gofal brys neu seibiant byr. Cwrddais â’m teulu maeth am byth pan oeddwn yn naw mlwydd oed ar ôl bod dan orchymyn llys am gwpl o flynyddoedd.

Bu farw fy nhad biolegol pan oeddwn i’n bump oed. Doedd e ddim yn weithgar iawn yn fy mywyd, a dwi ddim yn ei gofio, ond dwi’n gwybod ei fod e’n dreisgar iawn, roedd e’n alcoholig. 

Yn dilyn marwolaeth fy nhad biolegol, gwnaeth fy mam fiolegol ofalu amdanom, ond yn anffodus dioddefodd yn wael gyda’i hiechyd meddwl. Doedd hi ddim yn gallu edrych ar ein holau ac wrth dyfu i fyny, gwelais lawer o bethau na ddylai plentyn byth eu gweld. 

Fi yw’r ieuengaf o bedwar o frodyr a chwiorydd, a phan wnes i ddarganfod fy mod i’n mynd i ofal, roedd fy mrodyr a chwiorydd yn drist, ond roedd hi’n stori wahanol i mi, roeddwn i’n teimlo’n hapus.

Roeddwn i’n gwybod yn y bôn y byddai hyn yn fy achub ac yn newid cyfeiriad fy mywyd.  Roeddwn i’n teimlo bod angen i mi fod yn blentyn am unwaith ac nid yn ofalwr i’m mam fiolegol, roedd angen normalrwydd arnaf yn fy mywyd. Doeddwn i ddim yn gallu gofalu am fy mam, dim ots faint roeddwn i’n ei charu. Roeddwn i angen magwraeth dda, dillad cynnes a chartref diogel.

Sophia as a young child

Y cyfan sydd ei angen yw un person i ddangos y gallwch chi lwyddo mewn unrhyw beth.

Roedd fy mhrofiadau cynnar o fod mewn gofal maeth yn heriol ac roedd yr ysgol yn anodd i mi gan fy mod i’n cael trafferth yn academaidd. 

Mae yna lawer o stereoteipiau ynghylch bod yn blentyn neu’n berson ifanc mewn gofal. Tybir eu bod yn ymddwyn yn wael neu ddim yn mwynhau neu eisiau rhoi cynnig arni yn yr ysgol. Roedd y gwrthwyneb yn wir amdanaf i. Roeddwn i mor awyddus i ddysgu, ac roeddwn i eisiau profi i mi fy hun, ac eraill fel fi y gallwn lwyddo. Ein bod ni – plant mewn gofal – yn gallu ffynnu yn yr ysgol a llwyddo.

Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau mynd i’r brifysgol, ond roeddwn i’n poeni am gyflwyno fy nghefndir o fod mewn gofal i’r bobl newydd y byddwn i’n cwrdd â nhw yn fy llety myfyrwyr.   Roeddwn i’n teimlo cywilydd ac nid oeddwn yn siŵr sut y byddwn i’n codi’r pwnc gyda ffrindiau newydd. Pan fyddwch chi’n cwrdd â phobl yn y brifysgol, tybir bod pawb wedi tyfu i fyny gyda’u mam a’u tad biolegol, mewn tŷ braf ond nid yw hyn yn wir i bawb.  

Bob tro y cwrddais â rhywun newydd, roedd yn rhaid i mi ‘ddod allan’ fel rhywun oedd mewn gofal maeth fel pe bai hwn oedd yr unig beth y gallai rywun ei adnabod amdanaf – nid y ffaith fy mod yn fenyw, yn rhywun sy’n angerddol am gelf, neu’n rhywun oedd yn ffrind gwych.

Mae yna ystadegyn sy’n nodi mai dim ond 6% o’r rheini sy’n gadael gofal sy’n mynd i’r brifysgol.  Dim ond pobl sy’n mynychu ar ôl cael eu derbyn yw hyn ac nad yw’n cyfrif am y rheini sy’n graddio, sy’n drist.

Pan fyddwch chi’n tyfu i fyny mewn gofal, nid yw’r brifysgol ar flaen eich meddwl. Mae gennych lawer o bethau eraill i boeni amdanynt. Dyna lle gall gofalwyr maeth fod yn gymaint o gefnogaeth i bobl ifanc mewn gofal. Mae’n cymryd un person i’w gwthio, dangos cariad tuag atynt, dangos iddynt eu bod yn ddeallus ac yn gallu llwyddo mewn unrhyw beth.

Gwnaeth fy nheulu maeth fy annog gyda’m haddysg, gwnaethant ddarparu magwraeth sefydlog i mi fel plentyn a’m hannog ym mhopeth a wnes i. Rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw am hynny gan nad yw’n wir am bob plentyn sydd mewn gofal. Rwy’n ffodus o gael perthynas agos â’m teulu maeth hyd yn oed nawr a minnau’n byw’n annibynnol, rwy’n dal i fynd ar wyliau gyda nhw. 

Graduation photo

Dwi wedi gadael gofal ac edrychwch ar yr hyn rwy’n ei wneud!

Roedd ‘na gyfnodau da a gwael gyda fy nhaith faethu – doedd e ddim yn hawdd i fi. I blant mewn gofal, gall fynd y naill ffordd neu’r llall. Gallwch ddysgu o’r profiadau drwg, neu eu hail-greu.

Gall pobl ddychmygu’r hyn rydych chi wedi bod drwyddo, ond nid ydyn nhw’n deall yn iawn.  Rwy’n berson cryf ond rwy’n ei chael hi’n anodd bob dydd. Weithiau gall fod y peth symlaf, mae ffrind yn dweud ei bod hi’n mynd i weld ei mam am ginio, ac mae’n brifo am nad oes gen i hynny.

Pan es i deithio yn fy ugeiniau cynnar, cwrddais â grŵp o fenywod a dechreuon nhw siarad am ofal maeth, a hyd yn oed wedyn, wnes i ddim sôn amdano. Mae’n debyg mai un o’r rhesymau pam yr oeddwn yn ofni dweud fy mod wedi gadael gofal oedd oherwydd y stereoteipiau sy’n bodoli. Dywedais unwaith wrth gydweithiwr i mi fy mod yn ymweld â fy rhieni maeth, a dywedodd, ‘Dwyt ti ddim yn edrych fel rhywun a oedd mewn gofal.’ Fel pe baem i gyd i fod i edrych mewn ryw ffordd arbennig.

Mae wedi bod yn daith i gyrraedd lle ydw i ond nawr, dwi’n gwisgo fy stori fel medal; ‘Dwi wedi gadael gofal ac edrychwch ar yr hyn rwy’n ei wneud’.

Super hero illustration
Super power

Ysbrydoli pobl drwy gelf

Syrthiais i mewn cariad â chelf yn gynnar yn yr ysgol. Rwy’n ddyslecsig (dim ond yn y brifysgol y darganfyddais i hynny) felly yn academaidd, roedd yn anoddach i mi yn yr ysgol. Ro’n i hefyd yn ei chael hi’n anodd trafod gydag oedolion am sut o’n i’n teimlo – dyna lle wnaeth celf fy achub i. 

Nawr fel darlunydd, dwi’n creu lluniau am sut beth yw bywyd yn y system ofal ac eisiau ysbrydoli pobl eraill. Nawr fy mod yn gryf yn feddyliol ac yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu fy straeon, rwy’n teimlo fel bod gen i gyfrifoldeb i helpu eraill fel fi, trwy fy nghelf.

Rydw i eisiau rhannu fy stori a dangos i blant mewn gofal eu bod nhw’n gallu gwneud unrhyw beth oherwydd os ydych chi wedi bod drwy hynny, gallwch chi wneud unrhyw beth oherwydd bod y gwaethaf eisoes wedi digwydd. 

Table illustration

Darlunio llyfr coginio Maethu Cymru

Mae fy narluniau yn llyfr coginio Maethu Cymru, Gall pawb gynnig rhywbeth. Roedd yn arbennig cael fy ngwahodd i ddarlunio rhywbeth sydd mor agos at fy nghalon.  

Roedd yn fraint cael rhannu fy stori a’m rysáit. Mae rhai o’m hatgofion pwysicaf yn ymwneud ag eistedd o gwmpas y bwrdd bwyta gyda fy nheulu maeth a theimlo’n normal, fel teulu – rhywbeth y mae pob plentyn yn ei haeddu. 

Pan es i ofal maeth am y tro cyntaf, rwy’n cofio’n glir i mi groesholi fy mam faeth am darddiad y bwyd a gyflwynodd hi, gan fynnu ei fod yn dod o Aberhonddu, tir annwyl fy mebyd gyda fy nheulu biolegol. 

Nawr, wnaeth hi ddim cychwyn ar bererindod goginio i Aberhonddu ar gyfer bwydydd, ond gwnaeth hi nodio’i phen, gan honni eu bod yn wir yn dod o Aberhonddu.

Pam? Wel, oherwydd os nad oedd y bwyd yn dod o Aberhonddu, man a man ei fod wedi cael ei weini ar long ofod o’m rhan i! Roedd yn frad coginiol i fy mam a’m tref enedigol, chi’n gweld.  Cymerodd dipyn o ddiplomyddiaeth goginiol ddifrifol i ddod â mi oddi ar y deiet Aberhonddu-yn-unig hwnnw! 

Gwnes i ysgrifennu ‘Brecon Bolognese’ ar gyfer y llyfr coginio hwn, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth. Roedd fy mam fiolegol yn arfer ei choginio a phan wnaeth fy mam faeth ei pharatoi ar y noson gyntaf y symudais i mewn i’m cartref maeth, roeddwn i’n teimlo bod croeso mawr i mi.

Mae fy nhaith faethu wedi fy ngwneud i’n berson cryfach. Erbyn hyn, dyma fy archbŵer. Ac os gallaf fynd trwy hynny a dod allan ar yr ochr arall, yna gallaf ymdrin ag unrhyw beth.

Dilynwch gyfrif darlunio Sophia: https://www.instagram.com/warnerillustrates/Art/ 

Sophia

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn