stori

abbey

Mae gen i’r gofalwyr maeth gorau erioed. 

Fe wnaethon nhw fy maethu ers o’n i’n 4 tan yn 17 oed. Maen nhw’n dal i fy ngweld i fel eu merch nawr, ac wedi bod yn driw i mi, hyd yn oed pan o’n i’n bod yn boen yn y pen-ôl.


dod i mewn i ofal

Ges i fy nhynnu oddi wrth fy mam pan o’n i’n 4 oed.

Wnaeth fy ngofalwyr maeth fyth geisio disodli mam.

Bydden nhw’n dweud bod fy mam yno i mi, ond roedd y broblem gyffuriau jyst yn golygu nad oedd hi’n gallu gofalu amdana i.

A doedd fy mam ddim am i mi gael y bywyd hwnnw.

Pan o’n i tua 14 neu 15, aeth fy mam i’r carchar.  Byddai’n anfon nodiadau ata i o’r carchar.

Byddai fy ngofalwyr maeth yn darllen y nodiadau i mi oherwydd doeddwn i ddim yn gallu darllen.  Roeddwn i wastad yn cael fy ngwahardd o’r ysgol.

Fe wnaethon nhw fy nysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu.


tipyn o blentyn anystywallt

Dwi’n synnu’n fawr na wnaethon nhw roi’r ffidil yn y to arna i.

O’n i’n dipyn o blentyn anystywallt, o’n i wastad yn ymladd, yn mynd i’r dref. Pe bai rhywun yn rhoi golwg fudr i mi, byddwn yn eu taro. O’n i wastad yn sleifio allan i fynd am ffag.

Byddai fy ngofalwyr maeth yn dweud wrtha i na allwn i wneud pethau felly. Doedden nhw byth yn dweud y drefn wrtha i, ond byth yn gadael fi off efo fo chwaith.

Dwi’n cofio fy ngofalwyr maeth yn eistedd mewn cyfarfodydd ysgol gyda fi, pan o’n i’n mynd i drwbl.

Bydden nhw’n dweud na fyddai mam eisiau i mi ddilyn ôl ei throed. Bydden nhw’n tynnu fy ffôn oddi arna i ond doedden nhw ddim yn fy ngwthio i ffwrdd pan o’n i’n chwarae fyny. Fe wnaethon nhw fy helpu, nid fy ngwrthod i am nad oeddwn i’n blentyn iddyn nhw.

Wnaeth fy ngofalwyr maeth fyth rhoi’r gorau iddi ac fe helpon nhw fi i newid fy mywyd er gwell.


drwy’r adegau garw

Pan gollais fy mam, pan fu farw, cefais gydno garw ar ôl ei cholli.

Fe wnaethon nhw drio fy helpu i, ond fe wnes i eu gwthio nhw i ffwrdd.  Ro’n i’n teimlo fel fy mod i wedi colli allan ar gael fy mam, wnes i fyth ei hadnabod hi mewn gwirionedd.

Ond nhw oedd yr unig bobl a oedd yn fy helpu i drwyddo.


ail gyfle ar fywyd teuluol

Dwi’n gweld fy nhad maeth fel yr unig dad dwi erioed wedi ei adnabod. 

Dwi’n lwcus fod gen i ddau fam yn fy mywyd.  Fe wnaethon nhw roi ail gyfle i mi i gael bywyd teuluol. Nid pawb sy’n ddigon ffodus i gael hynny.

Roedd plant eraill roeddwn i’n eu hadnabod, aethon nhw oddi ar y cledrau, roedden nhw mewn cartref plant, ond rwy’n teimlo’n lwcus i gael fy nghymryd mewn i’w cartref teuluol, cael fy nhrin fel eu merch nhw eu hunain a phrofi bywyd teuluol.


profi pawb yn anghywir

Oni bai am fy ngofalwyr maeth, mae’n debyg y byddwn i wedi cael babi yn ifanc ac yn dal i fynd i drafferthion.

Fe wnaethon nhw fy helpu i newid a setlo i lawr.  Fe wnaethon nhw fy helpu i brofi pawb yn anghywir ynghylch yr hyn roedden nhw’n ei feddwl amdana i.

Bues i’n byw gyda nhw am 13 mlynedd, ac maen nhw wedi gwneud popeth i fi. Maen nhw’n fy nhrin i fel eu merch eu hunain, ynghyd â’r holl blant eraill maen nhw wedi’u maethu.

Maen nhw’n dal i brynu anrhegion i mi ar gyfer fy mhen-blwydd.  Does dim angen iddyn nhw, ond maen nhw’n dal i wneud hynny.  Dwi’n dal i’w gweld nhw drwy’r amser.  Dwi’n mynd bob un flwyddyn ar gyfer y Nadolig ac fe wnaethon nhw fy helpu i gael fflat fy hun.


dyfodol gwell

Erbyn hyn dwi’n 20 oed a dwi’n disgwyl babi fy hun.  

Fe brynon nhw bram i mi a helpu fi i addurno’r fflat. Dwi’n gwybod y byddan nhw yno i fy merch fach hefyd, er nad nhw yw ei nain a’i thaid go iawn, fe fyddan nhw’n ei charu hi. 

Cyn belled â fy mod i’n hapus yna maen nhw’n hapus.


mae angen mwy o ofalwyr maeth

Mae’n rhaid ei fod yn teimlo’n rhyfedd neu’n frawychus cyflwyno plentyn newydd i’ch teulu, ond mae’r un mor rhyfedd i blant fel fi.

Os ydych chi’n meddwl am faethu byddwch yn chi’ch hun, byddwch yn ddiffuant, a’u trin fel eich plant eich hun.

Byddwn i wrth fy modd yn gallu maethu pan fydda i’n hŷn.

Mae ‘na gymaint o blant yn mynd trwy gymaint.  Mae ‘na rieni allan yna sydd angen cefnogaeth, sydd ddim yn gallu ymdopi.  Roedd mam eisiau i mi gael bywyd gwell, ac fe wnaeth gofalwyr maeth fy helpu i wneud hynny.

Pan rydych chi wedi cael eich dwyn i gartref rhywun arall, maen nhw’n dod i gael ein caru ni, cymaint ag rydyn ni’n eu caru nhw. Dwi’n falch o fod yn blentyn maeth iddyn nhw.

Cysylltwch â thîm maethu eich awdurdod lleol

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn