eisoes yn maethu?
Sut i drosglwyddo o'ch asiantaeth faethu bresennol
yn meddwl am drosglwyddo o asiantaeth faethu?
Rydych chi eisoes wedi gwneud y penderfyniad anhygoel i wneud gwahaniaeth ac i fod yn ofalwr maeth.
Efallai eich bod eisoes yn maethu gydag awdurdod lleol yn ein rhwydwaith Maethu Cymru, yn ystyried symud i Gymru neu’n maethu gydag asiantaeth faethu annibynnol.
Os ydych chi’n ystyried trosglwyddo o asiantaeth faethu, rydych chi wedi dod i’r lle iawn! Yma, rydym wedi amlinellu rhai o’r agweddau allweddol i’w hystyried wrth drosglwyddo o asiantaeth faethu i awdurdod lleol.
Gyda maethu awdurdod lleol, rydym yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi ein gofalwyr maeth, heb wneud elw.
Dysgwch beth sydd gan Maethu Cymru i’w gynnig i chi.
manteision maethu'n uniongyrchol

Drwy faethu’n uniongyrchol â’ch awdurdod lleol, byddwch yn rhan o dîm sydd â gwybodaeth fanwl am daith y plentyn, gwasanaethau lleol ac ysgolion, sy’n bwysig iawn i ofalwyr maeth.
Pan fyddwch chi’n symud o asiantaethau maethu, gan ymuno â thîm eich awdurdod lleol, rydych chi hefyd yn manteisio ar gyfoeth o arbenigedd maethu.

Byddwch yn ymuno â chymuned faethu leol fawr o ofalwyr maeth o’r un anian sy’n byw gerllaw. Mae’r gefnogaeth orau yn dod gan gyd-ofalwyr maeth ac yn yr awdurdod lleol mae gennym lawer ohonyn nhw.
Mae gan bawb yn y 22 tîm sy’n ffurfio ein rhwydwaith cenedlaethol brofiad o weithio gydag ystod eang o blant a theuluoedd lleol. Gallwch fanteisio ar gefnogaeth, gwybodaeth ac arbenigedd cenedlaethol o bob cwr o Gymru.
Bob blwyddyn mae tua 50 o ofalwyr maeth yn trosglwyddo o asiantaethau maethu masnachol i faethu awdurdod lleol yng Nghymru.
penderfynais drosglwyddo i’r awdurdod lleol dwy flynedd yn ôl. Yn raddol, ces i fy nadrithio gyda fy asiantaeth oedd fel petai’n canolbwyntio ar fusnes ac elw.

sut i drosglwyddo i ni
Gall newid deimlo’n frawychus. Felly mae trosglwyddo i ni yn dechrau gyda sgwrs, dim pwysau. Dim ond darganfod, p’un a allwn ni gynnig yr hyn sydd gennych mewn golwg o ran maethu.
Gam wrth gam, nes eich bod chi’n hapus, rydych chi’n gwneud y dewis iawn.

“mae’r awdurdod lleol bob amser yno i chi.”
Dechreuodd Cath a Neil ar eu taith faethu gydag asiantaeth faethu annibynnol (IFA). Yn 2018, fe wnaethon nhw drosglwyddo i Faethu Cymru Wrecsam.
trosglwyddo heddiw
dewch o hyd i’ch awdurdod lleol:
Fel y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled Cymru, rydyn ni wrth eich ymyl ble bynnag rydych chi. Rhowch eich cod post, eich tref neu’ch dinas i ddod o hyd i’ch tîm gofal maeth lleol.