blog

allwch chi fynd â phlentyn maeth ar wyliau carafán?

Wrth i fisoedd yr haf agosáu, gofynnir i ni yn aml a all gofalwyr maeth fynd â’u plant maeth ar wyliau. Felly, os ydych chi a’ch teulu yn meddwl am daith, rydym yn hapus i ddweud bod hyn yn bosibl a gall fod yn ffordd wych o greu atgofion!

Darllenwch fwy:  Allwch Chi Fynd â Phlentyn Maeth ar Wyliau?

Gofynnon ni i ofalwyr maeth ledled Cymru am eu hoff wyliau teulu maeth – a “CARAFANNAU” oedd yr ateb ysgubol. Dyma pam mae carafanau a maethu yn gwneud y gwyliau perffaith a pham mae cynifer o’n plant mewn gofal maeth wedi creu atgofion hapus yno.

manteision gwyliau carafannau

cynefindra

Mae rhai plant maeth yn cael cysur mewn trefn a chynefindra. Felly, gall mynd ar wyliau a thorri’r drefn hon fod yn anodd iddyn nhw.

Mae gwyliau carafanau yn darparu man canol hapus rhwng bod gartref a theithio. Maen nhw’n caniatáu yr hwyl a’r cyffro a geir wrth newid lleoliad ond yn eich galluogi i gynnal arferion a threfn fel amser gwely, amser bwyd, a bwydydd tebyg. Gallwch hyd yn oed fynd ag anifail anwes y teulu gyda chi!

Rydyn ni’n hoffi meddwl am garafanau fel cartref oddi cartref. Rhywle y gall plant deimlo’n ddiogel a sicr wrth brofi pethau newydd a chwrdd â phobl newydd.

Peidiwch â chymryd ein gair ni am y peth.    Dyma beth mae un o’n gofalwyr maeth wedi’i ddweud:

“Mae’n gwbl wych. Mae’n gartref oddi cartref, lle mae’r plant yn teimlo’n ddiogel ac yn rhydd. Mae’r plant wrth eu boddau ac mae’r atgofion rydyn ni’n eu creu, rydyn ni i gyd yn eu trysori am byth.”

hyblygrwydd

Mae natur maethu yn golygu y gall cynlluniau newid. Efallai na fyddwch chi’n gwybod pa mor hir y bydd plentyn yn eich gofal neu bryd y bydd yn cyrraedd, felly mae angen hyblygrwydd wrth gynllunio amser i ffwrdd.

Mae gwyliau carafán yn darparu’r union beth. Gellir eu trefnu ar fyr rybudd heb fawr o ffwdan, nid oes angen i chi boeni am basbortau, ac mae’r amser teithio yn fyrrach. Cwbl sydd ei angen yw pacio a mynd.

Mae Sharon a Theo wedi bod yn maethu gyda ni ers dros ddegawd. Maen nhw’n dwlu ar wyliau carafán ac mae ganddyn nhw gartref modur hefyd, felly mae seibiannau byr fel hyn wedi bod yn rhan fawr o fywydau eu plant maeth. Meddai Sharon:

“Mae’r plant wrth eu boddau yn llwyr. Mae mor hawdd pacio a mynd i’r garafán ar ddydd Gwener ar ôl ysgol. Dim ond awr a hanner i ffwrdd yw’r parc pellaf, felly gallwch chi ymlacio a dadflino mewn dim o dro.”

Darllenwch fwy o’u stori faethu yn y fideo isod:

fforddiadwyedd

Er bod lwfansau yn cael eu talu i helpu i dalu costau gofalu am blant maeth, gall gwyliau dramor fod yn ddrud. Felly, gall gwyliau carafán gynnig dewis arall mwy fforddiadwy.

Pan fyddwch yn dod yn ofalwr Maethu Cymru, cewch aelodaeth o’r Rhwydwaith Maethu ac, fel rhan o’r aelodaeth hon, gallwch gael gostyngiadau ar arosiadau ym mharciau gwyliau Hoseasons a Haven.

Er bod prydau allan a gweithgareddau yn dal i fod yn bosibl, mae carafannau’n cynnig y rhyddid i goginio gyda’ch gilydd a threulio amser da heb dorri’r banc.

Dywedodd gofalwr maeth arall:

“Rydyn ni’n creu’r atgofion a’r cysylltiadau hynny mewn amgylchedd diogel heb unrhyw gost. Dim ond pethau bach ydyn nhw i ni, ond mae’n golygu cymaint iddyn nhw.”

ble dylen ni fynd ar wyliau carafán?

Yma yng Nghymru, a ledled y DU, mae gennym lawer o barciau gwyliau hyfryd y gallwch ymweld â nhw. Yn wir, mae cymaint ohonyn nhw, gallech deimlo bod gormod o ddewis. Felly, gofynnon ni i’n gofalwyr Maethu Cymru ble bydden nhw’n ei argymell. Dyma eu deg hoff gyrchfan carafanio ar gyfer gwyliau’r haf:

  1. Cernyw
  2. Dyfnaint
  3. Dinbych-y-pysgod
  4. Porthcawl
  5. Sir Benfro
  6. Weston-Super-Mare
  7. Abertawe
  8. Weymouth
  9. Caerfyrddin
  10. Dorset

pethau i’w hystyried cyn gwyliau carafán

gofynion ystafelloedd gwely

Wrth ofalu am blentyn maeth, mae rhai rheolau ynghylch p’un a allan nhw rannu ystafell wely ai peidio. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob plentyn maeth le diogel gyda phreifatrwydd a diogelwch.

Dyma pam mae carafanau statig, yn hytrach na rhai teithio, yn fwy poblogaidd gyda’n gofalwyr maeth gan eu bod fel arfer yn gallu darparu ystafell wely bwrpasol ar wahân i blant.

Darllenwch fwy:  Beth yw’r Gofynion Ystafell Wely ar gyfer Gofal Maeth yn y DU?

Inside caravan

gweithgareddau ac adloniant

Os byddwch chi’n aros mewn maes carafannau, bydd digon o gyfleusterau i’ch cadw chi a’r plant yn brysur. Mae gan lawer ardaloedd chwarae, pyllau nofio, ac adloniant gyda’r nos fel cantorion neu ddawnswyr.

“Wrth eu gweld nhw’n rhyngweithio â’r adloniant, gwneud pethau newydd, maen nhw’n dod allan o’u cregyn”

Sharon a Theo

Yn y maes carafannau, i ffwrdd o fywyd bob dydd, mae plant maeth yn cael cyfle i gysylltu, chwarae a chreu atgofion gydol oes. Fel dysgu reidio beic neu chwarae gemau bwrdd.

Mae meysydd carafannau yn fannau cymdeithasol sy’n adnabyddus am eu naws gymunedol, lle gall plant maeth gwrdd â phlant eraill yn hawdd a meithrin eu sgiliau cymdeithasol.

Ar hyn o bryd mae’n maethu tri phlentyn ar draws cymysgedd o oedrannau, meddai Sharon:

“Maen nhw’n cael y rhyddid i archwilio a gwneud ffrindiau newydd, gan ddatblygu eu hyder. Mae’r un bobl yn tueddu i ddod yn ôl bob penwythnos, felly rydyn ni’n gwybod ei fod yn amgylchedd diogel lle gallwn ni adael i’r plant fod yn fwy annibynnol.”

eisiau dysgu mwy am faethu?

Mae Maethu Cymru yn gymuned. Nid yw gofalwyr ar eu pennau eu hunain. Mae gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.  

Felly, os ydych chi’n ystyried dod yn ofalwr maeth ac eisiau dysgu mwy, darllenwch fwy o’n blogiau neu cysylltwch â’ch tîm cyfeillgar, lleol.

Dewch o hyd i’ch tîm Maethu Cymru lleol

Story Time

Stories From Our Carers