maethu gyda'ch awdurdod lleol
Rydym yn rhan o’ch cymuned leol, wrth law i gynnig cymorth ac arweiniad lleol arbenigol. Rydym yn cadw plant yn lleol lle bynnag y bo modd. Un tîm ydyn ni. Nid ydym yn gwneud elw.
Yma, rydym yn dweud mwy wrthych am yr hyn rydym yn ei wneud, ac yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.
awdurdod lleol neu ofal maeth asiantaeth?
Pan fyddwch yn ystyried dod yn ofalwr maeth am y tro cyntaf, un o’r pethau y gallech chi ofyn cyn ymchwilio’n ddyfnach yw ‘beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu gydag awdurdod lleol a maethu trwy asiantaeth faethu breifat?’.
Bydd deall y gwahaniaethau hyn yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus.
Yma, rydym yn trafod yr holl wybodaeth allweddol i’ch helpu i ddeall pam y byddai maethu gyda’ch awdurdod lleol o fudd i chi a’r plant yn eich gofal.
gyda phwy alla i faethu?
- Maethu gydag awdurdodau lleol
- Awdurdodau lleol yw’r llwybr mwyaf uniongyrchol i faethu ac yn gyfreithiol gyfrifol am yr holl blant mewn gofal hefyd
 
- Elusen neu sefydliadau nid-er-elw 
- Ar gontract gan awdurdodau lleol i gynnig maethu, ymhlith llawer o wasanaethau cymorth eraill.
 
- Asiantaethau maethu sy’n gwneud elw
- Yn cael eu dileu’n raddol yng Nghymru erbyn 2030. Mae’r cwmnïau hyn yn gweithredu mewn ffordd fwy tebyg i fusnes, rhai gyda buddiannau eraill yn rhan o’u gweithrediadau.
 
 
									beth yw maethu gyda’ch awdurdod lleol?
Mae maethu gydag awdurdod lleol yn golygu dod yn ofalwr maeth yn uniongyrchol trwy wasanaethau maethu eich cyngor lleol. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu gweithio gydag un o’r 22 awdurdod lleol o fewn rhwydwaith Maethu Cymru.
Pan fo plant yn dod i ofal am y tro cyntaf, mae’r awdurdod lleol yn dod yn gyfreithiol gyfrifol am eu lles. Gwasanaeth maethu y cyngor ei hun yw’r cyswllt cyntaf bob tro pan fydd plentyn angen teulu maeth; gyda gwybodaeth am yr ardal a’r gymuned, tîm yr awdurdod lleol sydd yn y sefyllfa orau i wneud trefniadau er lles pobl ifanc.
Yr hyn sy’n gwneud maethu gydag awdurdod lleol mor werth chweil yw’r dull dibynadwy, sy’n canolbwyntio ar y gymuned o ofal maeth y mae’n ei gynnig.
Yma, byddwn yn amlinellu’r gwahaniaethau allweddol rhwng maethu gyda’ch awdurdod lleol ac asiantaeth faethu sy’n gwneud elw.
beth yw asiantaeth faethu annibynnol (AFA) sy’n gwneud elw?
Mae asiantaethau maethu annibynnol sy’n gwneud elw (a elwir hefyd yn asiantaethau maethu preifat) yn fusnesau sydd wedi’u sefydlu ar wahân i awdurdodau lleol. Maen nhw’n recriwtio gofalwyr maeth, ac yn ymateb i dimau amrywiol awdurdodau lleol pan fydd angen paru teuluoedd â phobl ifanc sydd angen gofal.
Y gwahaniaethau craidd yw bod rhai o’r cwmnïau maethu sy’n gwneud elw hyn yn aml yn rhychwantu sawl ardal ac yn gweithredu ar draws y DU. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y gallai plentyn gael ei leoli gyda gofalwyr maeth y tu allan i’w ardal gartref, a allai olygu gadael ei gymuned gyfarwydd ar ôl. Gallai maethu gydag asiantaeth hefyd gynnwys gofalu am blentyn y mae ei deulu yn byw pellter i ffwrdd, sy’n golygu mwy o deithio i chi.
beth sy’n newid gyda maethu sy’n gwneud elw yng Nghymru?
Yng Nghymru, o 2027 ymlaen, ni fydd asiantaethau sy’n gwneud elw yn gallu recriwtio gofalwyr maeth ac erbyn 2030, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru ond yn gallu lleoli plant gyda gofalwyr maeth asiantaethau sy’n gwneud elw gyda chymeradwyaeth gweinidogion.
Darllenwch fwy am Ddeddf dileu elw o ofal plant Llywodraeth Cymru: Maethu nid-er-elw
 
									gofal maeth awdurdodau lleol ac asiantaethau (sy’n gwneud elw) – beth yw'r gwahaniaethau allweddol?
Wrth benderfynu rhwng maethu gydag awdurdod lleol ac asiantaeth faethu breifat sy’n gwneud elw, ystyriwch y ffactorau allweddol canlynol:
dod o hyd i deuluoedd maeth
O ran dod o hyd i ofal maeth addas ar gyfer pobl ifanc, bydd awdurdodau lleol yn cysylltu â’u gofalwyr maeth eu hunain yn gyntaf. Fel arfer, byddent ond yn estyn allan at asiantaethau maethu allanol eraill os nad oes unrhyw ofalwyr awdurdod lleol addas ar gael.
Gan mai ond mewn amgylchiadau penodol y maen nhw’n cael eu defnyddio, gall gofalwyr maeth asiantaeth weld bylchau rhwng gofalu am blant, tra bod gofalwyr awdurdod lleol yn cael eu cadw’n eithaf prysur – oni bai eu bod eisiau seibiant.
Mae gofalwyr maeth awdurdod lleol yn fwy tebygol o gael eu hystyried ar gyfer plant o bob oedran gan gynnwys plant bach a babanod, tra bod gofalwyr asiantaeth faeth annibynnol sy’n gwneud elw yn tueddu i gael plant ychydig yn hŷn.
rhannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau
Yn ogystal â hyn, bydd awdurdodau lleol yn gwybod mwy am hanes a chefndir y plentyn wrth baru gofalwyr maeth â phobl ifanc, gan eu bod yn gweithio i gefnogi teuluoedd cyn i blant ddod i ofal a phan fydd plant yn dychwelyd gartref.
prif ffocws
Nid yw maethu awdurdodau lleol yn cael ei redeg fel busnes sy’n gwneud elw. Mae asiantaethau maethu annibynnol sy’n gwneud elw yn fusnes, sy’n golygu bod perchnogion y busnes yn fwy tebygol o gael eu sbarduno gan elw ac mae rhai yn cael eu hariannu trwy ecwiti preifat.
Darllenwch fwy am y ffordd y mae ecwiti preifat yn gysylltiedig â gofal maeth:
rhwydwaith cymunedol
Mae awdurdodau lleol yn rhan annatod o’u cymunedau, ac felly mae ganddynt ddealltwriaeth fanwl o’r ffordd i’w gwasanaethu orau.
Mae hyn yn golygu y byddwch chi a’r plant maeth rydych yn gofalu amdanynt yn rhan o rwydwaith lleol cefnogol, gyda chysylltiadau ag ysgolion, gwybodaeth am wasanaethau cymorth lleol, a chymuned o ofalwyr maeth yn eich ardal leol.
P’un a yw’n weithiwr cymdeithasol profiadol a gwybodus yn eich ardal leol, neu’n grŵp o ofalwyr maeth eraill gerllaw i gwrdd am goffi a rhannu eich profiad maethu, ym Maethu Cymru rydym yn ymfalchïo mewn ymdeimlad gwirioneddol o gymuned a pherthyn.
cynllunio gofal
Wrth faethu gydag awdurdod lleol, mae gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol, a thimau gwaith cymdeithasol plant i gyd yn rhan o’r un sefydliad, sy’n golygu bod parhad, rhannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau yn cael eu symleiddio.
I gwmnïau maethu sy’n gwneud elw, bydd yn rhaid cydlynu hyn gyda thimau awdurdodau lleol fel sefydliadau allanol.
Fel rhan o dîm awdurdod lleol, byddwch hefyd yn ymwneud yn fwy â’r broses o wneud penderfyniadau. Mae hyn yn golygu cyfathrebu gwell gyda gweithiwr cymdeithasol y plentyn, a lefel o ddiogelwch gan wybod a yw plant yn aros yn yr hirdymor gyda chi, neu pa gynlluniau sy’n cael eu gwneud, yn hytrach na derbyn unrhyw newyddion annisgwyl munud olaf.
cyflog
Mae hyn yn fwy na phwy sy’n ymddangos i fod yn talu’r gyfradd uchaf. Mae dull yr awdurdod lleol o dalu gofalwyr maeth yn sicrhau bod plant yn derbyn popeth sydd ei angen arnynt i ffynnu, felly rydym yn rhannu’r tâl sydd ar gael yn 3 rhan; y lwfans plant wythnosol, ffi’r gofalwr, ynghyd ag ystod eang o fudd-daliadau eraill.
Mae gofalwyr maeth sy’n trosglwyddo yn dweud wrthym bod ymagwedd yr awdurdod lleol at gyllid yn amlwg (ac yn gadarnhaol) yn wahanol o ran darparu offer, yn enwedig ar gyfer babanod, neu wrth symud maethu rhiant a phlentyn ymlaen i ddechrau newydd. Fel hyn, maen nhw’n cael mynd ag eitemau hanfodol gyda nhw, heb i chi orfod talu am rai newydd eich hun.
Gall awdurdodau lleol gynnig taliad cadw, gostyngiad treth gyngor, a buddion ychwanegol i’r teulu cyfan, megis tocynnau hamdden a mynediad am ddim i leoliadau lleol. Gyda phopeth yn lleol, efallai y byddwch hefyd yn gweld gwahaniaeth o ran faint o betrol rydych yn ei ddefnyddio a faint o deithio yn y car rydych yn ei wneud. Mae’n bwysig edrych ar y darlun cyfan, oherwydd nad yw mor syml â chymharu prisiau.
cefnogaeth
Daw’r cymorth gorau gan gyd-ofalwyr maeth. Yn yr awdurdod lleol, mae cymuned o ofalwyr maeth i fanteisio arni.
Hefyd, mae gan y tîm cyfan ddegawdau o brofiad ac efallai eu bod wedi adnabod y plant yn eich gofal ers eu bod yn fach. Mae’r dull gofalgar hwn yn rhan o bawb sy’n byw ac yn gweithio yn y gymuned leol.
Gall fod cymorth arbenigol e.e. therapyddion ar gael pan fo angen. Mae awdurdodau lleol hefyd yn datblygu’r cymorth sydd ar gael, gan brofi a datblygu’r datblygiadau diweddaraf o ran grymuso gofalwyr maeth.
Fel rhan o Maethu Cymru, gallwch elwa o wybodaeth ac arbenigedd unrhyw le yn ein rhwydwaith.
hyfforddiant
Mae awdurdodau lleol yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygu fel rhan o’u fframwaith profedig, ynghyd â chyrsiau newydd ac uwch yn y technegau diweddaraf. Gall gweithdai ychwanegol hefyd gael eu cynnal gan wasanaethau eraill o fewn awdurdodau lleol, er enghraifft tîm therapiwtig.
Fel gofalwr maeth, gallwch gael mynediad i’r holl hyfforddiant mewnol sydd ar gynnig i staff ac athrawon y cyngor. Caiff hyfforddiant wyneb yn wyneb ei gynnal mewn lleoliadau lleol, gan ei gwneud yn haws mynychu rhwng amseroedd teithio i’r ysgol. Gall cwrdd â gofalwyr maeth eraill ar gyrsiau hefyd sbarduno cysylltiad neu gyfeillgarwch ar gyfer y baned bwysig honno.
Gall mynychu hyfforddiant wyneb yn wyneb gan asiantaethau maethu preifat cenedlaethol sy’n gwneud elw, fodd bynnag, fod yn fwy ymarferol anodd o ran amser teithio er enghraifft.
pa un sy’n well: asiantaethau maethu annibynnol sy’n gwneud elw neu faethu gydag awdurdod lleol?
Prif nod asiantaethau maethu a thimau awdurdod lleol yw cefnogi plant sydd angen gofal. Ond, er y gallai maethu gydag asiantaeth faethu breifat sy’n gwneud elw ymddangos yn apelgar, nid oes amheuaeth bod ffocws cymunedol awdurdodau lleol yn ddigyffelyb.
Mae dod yn ofalwr maeth yn daith bersonol iawn. Felly, yn y pen draw, eich blaenoriaethau chi fydd yn penderfynu rhwng gofal maeth awdurdod lleol a gofal maeth asiantaeth sy’n gwneud elw.
Ond, os ydych eisiau gweithio gyda thîm sy’n cynnig cymorth, gwybodaeth fanwl am y plant, a chynllunio gofal ar y cyd, a chymuned o bobl ofalgar o’r un anian gerllaw, ystyriwch faethu gydag awdurdod lleol.
cymorth a gwasanaethau: sut mae maethu cymru yn cymharu?
Gyda Maethu Cymru, rydym yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd, o’r cychwyn cyntaf. Os byddwch yn dewis maethu gydag awdurdod lleol yng Nghymru, byddwch yn gweithio gyda thîm o’n rhwydwaith sydd wedi’i leoli yn eich ardal chi ac sydd â dealltwriaeth drylwyr o’r gymuned.
Byddwn yn eich helpu i fagu eich sgiliau a’ch hyder trwy rownd gychwynnol o hyfforddiant, a chyfleoedd dysgu a datblygu parhaus. Hefyd, byddwn wrth law i’ch cefnogi gydag unrhyw gwestiynau neu broblemau.
Wrth gwrs, trwy faethu gydag awdurdod lleol, byddech hefyd yn cael mynediad uniongyrchol i’r holl dimau sy’n ymwneud â gofal plentyn maeth, yn ogystal ag i rwydwaith maethu lleol o ofalwyr maeth eraill sy’n gallu rhannu eu profiadau a’u cyngor.
A chan ein bod yn sefydliad nid-er-elw (yn wahanol i lawer o gwmnïau maethu sy’n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd), mae’r holl adnoddau a dderbyniwn yn cael eu buddsoddi mewn gofalu am bobl ifanc a’u gofalwyr maeth. Mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn ystod o fuddion a chymorth ariannol i wneud eich taith gofal maeth mor ddidrafferth â phosibl.
manteision maethu gyda’ch awdurdod lleol
Mae maethu gydag awdurdod lleol yn dod â llawer o fanteision, gan gynnwys:
Lleoliad: Byddwch yn cefnogi pobl ifanc sydd angen gofal yn eich cymuned eich hun (a’u cymuned nhw), gan sicrhau nad oes rhaid iddynt fynd yn bell i ymweld ag aelodau’r teulu a ffrindiau estynedig, neu newid ysgolion.
Blaenoriaeth: Pan fo plentyn angen teulu maeth, byddech ymhlith y cyntaf i gael eich ystyried – cyn unrhyw ofalwyr asiantaeth faethu breifat.
Tîm ymarferol: Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda phawb sy’n ymwneud â chynllun gofal eich plant maeth, a chael mynediad i dîm lleol sy’n eich adnabod pan fo gennych gwestiynau neu pan fo angen cymorth arnoch.
sut i ddechrau gyda’ch awdurdod lleol?
Os ydych wedi dewis rhwng gofal maeth awdurdod lleol a gofal maeth asiantaeth (sy’n gwneud elw), a’ch bod yn barod i ymuno â’n cymuned faethu, mae’r cam nesaf yn syml – cysylltwch â’r awdurdod lleol lle’r ydych chi’n byw.
Byddwn yn eich helpu i ddechrau gyda’r broses ymgeisio, yn eich tywys drwy’r gwiriadau awdurdod lleol ar gyfer maethu, a’ch cefnogi pan fyddwch yn croesawu eich plentyn maeth cyntaf.
cwestiynau cyffredin
a yw gofalwyr maeth yn cael eu talu mwy gydag asiantaethau?
Gall ymddangos bod asiantaethau maethu preifat yn cynnig lwfansau uwch i’r gofalwyr maent yn eu recriwtio, ond nid yw hyn bob amser yn wir a gallai gynnwys gofynion ychwanegol, fel teithio estynedig, cyfrifoldebau gofal mwy cymhleth, neu ddisgwyliadau i fod ar gael yn llawn pryd bynnag y bo angen.
a oes mwy o gymorth gydag awdurdod lleol?
Oes. Gan fod y tîm maethu y byddwch yn gweithio gydag ef yn lleol i’ch ardal, bydd ganddo wybodaeth helaeth o’r gymuned yn ogystal â dealltwriaeth fanwl o gefndir ac anghenion pob plentyn. Yn ogystal â chymuned fawr o ofalwyr maeth lleol yn eich ardal chi.
a alla i faethu i’r ddau?
Yn anffodus ni allwch fod gyda dau wasanaeth maethu ar yr un pryd – dim ond gydag un darparwr gofal maeth y gallwch gofrestru gydag ef ar unrhyw adeg.
Os ydych wedi’ch cofrestru gydag asiantaeth faethu breifat ar hyn o bryd ac am newid, gallwn eich cefnogi i symud i’ch tîm lleol.
find your local foster wales team
Enter your postcode to find a link to your local foster care team.
 
									
																			 
									
																			