gweithio a maethu
cyflogwyr sy’n cefnogi maethu yng Nghymru
Mae bron i 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall.
Gall cael cefnogaeth cyflogwr wneud y gwahaniaeth hanfodol ym mhenderfyniad cyflogai i ddod yn ofalwr maeth.
Gwnewch wahaniaeth yn eich cymuned leol fel cyflogwr sy’n cefnogi maethu.
busnesau a sefydliadau yng Nghymru sy’n cefnogi eu gweithwyr i weithio a maethu.
- Admiral
- Awen
- B&Q
- Chwaraeon Cymru
- Coleg Sir Benfro
- Cowshed
- Cymdeithas Adeiladu’r Principality
- Cyngor Sir y Fflint
- Cymdeithas Adeiladu Nationwide
- Cyngor Abertawe
- Cyngor Bro Morgannwg
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Cyngor Powys
- Cyngor Sir Benfro
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cyngor Sir Fynwy
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Grŵp Llandrillo Menai
- John Lewis Partnership
- KLA, SPTS division
- Llywodraeth Cymru
- Mentera
- Santander
- Screwfix
- Swyddfa Gartref
- Y Rhwydwaith Maethu
gwaith hyblyg a gwyliau ychwanegol
Gallwch gefnogi plant a theuluoedd maeth yn eich cymuned, drwy fod yn gyflogwr cefnogol sy’n ymwybodol o heriau’r rôl faethu, megis ymateb i argyfyngau, plant yn cyrraedd ar fyr rybudd, mynychu cyfarfodydd a hyfforddiant.
cyflogwr sy'n croesawu maethu
Mae templed polisi Adnoddau Dynol ar gael gan y Rhwydwaith Maethu, sy’n berthnasol i bob gofalwr maeth a’r rhai sy’n gwneud cais i faethu, sy’n cynnig 5 diwrnod o wyliau ychwanegol â thâl.
dod yn bartner maethu cymru
Ydych chi’n fusnes lleol sy’n awyddus i gefnogi maethu awdurdod lleol, ac eisiau helpu i ddod o hyd i fwy o ofalwyr maeth ar gyfer plant lleol?
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Bartner Maethu Cymru, cysylltwch â ni heddiw.
diolch i…
- Ym mha ffyrdd eraill gallwch chi helpu? Cysylltwch am sgwrs pellach. Lawrlwythwch ein taflen cyflogwr sy'n croseawu maethu. lawrlwytho