blog

cadw mewn cysylltiad: maethu a mabwysiadu

Dyw symud ymlaen o ofal maeth ddim yn golygu bod yn rhaid dweud hwyl fawr am byth.

Mae teuluoedd maeth yn chwarae rôl hanfodol yn cefnogi plant sy’n symud i gartref newydd ac yn cynnal y berthynas honno ymhell i’r dyfodol.

Mae cael rhwydwaith cymorth o bobl y maen nhw’n eu hadnabod yn dda yn helpu plant i deimlo cariad, datblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth, a chynnal perthnasoedd iach yn y dyfodol.

stori Rachel 

Mabwysiadodd Rachel a’i gŵr eu merch yn 2008 ac mae ganddynt berthynas gref â’i theulu maeth o hyd. 

A hwythau bellach yn ofalwyr maeth eu hunain, maen nhw’n angerddol dros bwysigrwydd cadw mewn cysylltiad.  

“Pan wnaethon ni fabwysiadu fy merch, roedd ei gofalwr maeth a’i meibion biolegol bob amser yn gynnes a chyfeillgar iawn. Gwnaethant bopeth o fewn eu gallu i wneud y cyfan fynd yn dda.

“Roedd fy merch yn eu colli nhw’n fawr felly, ar y cyfle cyntaf, cysylltais â nhw a gofyn a allwn ni fynd i’w gweld nhw, a chawson ni groeso cynnes. 

girl and boy playing card game

“Os yw’r bois yn gwybod ein bod ni’n galw draw, maen nhw’n gwneud ymdrech i orffen gwaith yn gynnar.

“Yn y gorffennol, os oedden nhw allan gyda ffrindiau, bydden nhw’n dod nôl. Byddai fy merch bob amser yn eu galw nhw’n frodyr maeth iddi. Ac maen nhw fel brodyr iddi. Os ydyn nhw’n ein gweld ni o gwmpas, maen nhw bob amser yn stopio am sgwrs ac yn rhoi cwtsh iddi.  

“Roedden nhw’n dda iawn iddi, yn gefnogol iawn ohoni, a wir wedi derbyn ei hanabledd. Maen nhw bob amser wedi ei derbyn hi fel y mae hi.  

“Rydyn ni wedi penderfynu nawr eu bod nhw’n rhan o’n teulu. Maen nhw’n eithriadol o bwysig i ni ac yn rhan annatod o’n bywyd. Rhan enfawr o’n bywyd.”  

stori Sian 

Pan fabwysiadodd Sian a’i phartner eu plant, roedden nhw’n benderfynol o gadw mewn cysylltiad â’u teulu maeth.

Mae Sian yn teimlo’n gryf bod eu perthynas yn hynod o bwysig i hunaniaeth a stori bywyd eu plant. 

“Pan ddaethon nhw i fyw yma, roedd fy merch yn dair a’m mab ar fin troi’n ddwy. Dwi’n meddwl bod fy merch yn cofio mwy am fod gyda’i theulu maeth. 

“Roedd ein plant gyda’u gofalwyr maeth am 18 mis, ac roedd gan eu gofalwyr maeth ferch a oedd yn 18 pan symudodd ein plant ni i mewn. Roedd fy merch yn enwedig yn dwlu arni. 

“Fe raddiodd hi dros yr haf, ac fe gawson ni luniau ohoni, ac mae’r plant wir yn mwynhau ei gweld hi. 

“Mae hi’n wych gyda nhw, mae hi’n chwarae gyda nhw yn y parc, yn mynd i nôl hufen iâ iddyn nhw. Mae hi wir yn mwynhau eu gweld nhw.

Smiling girl catching a football

“Rydyn ni’n dal i gwrdd â nhw unwaith y flwyddyn ac yn anfon lluniau drwy’r amser. 

“Mae’n bwysig iawn cadw mewn cysylltiad – mae llawer o bethau’n cael eu colli drwy fabwysiadu, ac mae’r perthnasoedd hyn un o’r pethau does dim rhaid iddyn nhw eu colli.  

“Mae fy merch wedi gofyn llawer o gwestiynau yn y gorffennol am beth sydd wedi digwydd iddi, ac mae ei theulu maeth wedi bod yn wych o ran ateb y cwestiynau hyn. 

“Maen nhw’n gwybod y stori o’r dyddiau cynnar; fe wnaethon nhw fyw trwyddi gyda’n plant ni, a gallant siarad â nhw yn y dyfodol am eu teuluoedd biolegol.  

“Y peth pwysig yw cydnabod stori ein plant. Mae mabwysiadu’n daith gydol oes a byddan nhw’n rhan ohoni am byth, felly rhaid cynnig cefnogaeth i’w helpu drwy’r adegau heriol ac anodd yn ogystal â’r adegau hyfryd.  

“Mae perthnasoedd cadarnhaol yn trwsio trawma perthynas, a dyna beth rydyn ni’n ceisio ei wneud.” 

eisiau dysgu mwy?

Rydyn ni’n credu bod perthnasoedd yn bwysig.

Mae’r effaith y mae teuluoedd maeth yn ei chael ar ein plant yn y dyddiau cynnar hynny yn anhygoel. Ac mae gan y plant le arbennig yng nghalon ein teuluoedd maeth hefyd, hyd yn oed pan mae’r plant yn symud ymlaen – maen nhw’n cofio eu camau cyntaf, eu gwên gyntaf.

all plant byth cael gormod o bobl i’w caru.

Yn Maethu Cymru, gall maethu olygu diwrnod, wythnos, blwyddyn neu hirach. I ddysgu mwy am faethu byrdymor a helpu plant ifanc i symud ymlaen i fabwysiadu, cysylltwch â thîm maethu eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers