big welcome

Mae Maethu Cymru wedi lansio ffordd newydd o alluogi person ifanc i edrych trwy broffil gofalwr maeth cyn iddyn nhw gyfarfod.

Mae’r platfform Big Welcome yn caniatáu i blant sydd ar fin symud at ofalwr maeth newydd i ddod i adnabod personoliaeth a bywyd eu gofalwr newydd yn eu cartref, ac unrhyw aelodau o’r teulu neu anifeiliaid anwes y gallent fod ar fin rhannu cartref â nhw.

amy a gavin

Aeth Amy Davies i ofal maeth am y tro cyntaf yn 11 oed cyn byw gyda’i nain o 16 oed ymlaen. Yna, dechreuodd Amy ar ei thaith ei hun fel gofalwr maeth trwy ofalu am ei chwaer iau fel gofalwr sy’n berthynas pan oedd ond yn 21 oed. Mae hi bellach wedi bod yn maethu ers 23 mlynedd, yn gofalu am blant hŷn yn bennaf gyda’i gŵr Gavin.

Dywedodd Amy y bydd y Big Welcome yn helpu plant i deimlo’n fwy cyfforddus cyn cwrdd â gofalwr ac unrhyw frodyr a chwiorydd maeth newydd.

“pan oeddwn i’n iau ac yn mynd i ofal maeth, pe bawn i wedi gallu gweld pwy roeddwn i ar fin cwrdd, byddai wedi gwneud i fi deimlo’n llai pryderus. Fel arfer, roeddwn i’n eithaf pryderus ynglŷn â phwy oedden nhw neu sut bobl fydden nhw, ond mae gweld proffil yn helpu i gael gwared ar ychydig o’r ofn yna.”

beth am weld beth mae Amy, Gav, a'u teulu gwych yn ei gyfrannu?

Diolch i'r teclyn digidol The Big Welcome, gall plant sy'n mynd i ofal maeth ddod i adnabod y cartref maen nhw'n mynd iddo cyn cyrraedd. Mae'n helpu i dawelu unrhyw nerfau a gwneud eu taith faethu ychydig yn haws.

pobl ifanc profiadol mewn gofal

Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth rhwng yr elusen Action For Children a’r asiantaeth arloesi cymdeithasol Super Being Labs, cynlluniwyd y Big Welcome trwy gyfres o weithdai a chyfweliadau 1:1 gyda 120 o bobl ifanc profiadol mewn gofal a dros 75 o ofalwyr maeth. Gofynnodd yr ymchwil sut y gallai gofalwr maeth wneud i blentyn deimlo’n gartrefol a beth oedd yn gwneud i berson ifanc deimlo’n bryderus. Aeth y dylunwyr i’r afael ag anghenion a nodwyd gan gynnwys medru sicrhau y gallai plentyn weld sut olwg fyddai ar ei ystafell wely. Mae’n rhoi cyfle i blant ddechrau adeiladu cysylltiad a allai newid eu bywyd.

 

“dyma’n union beth rydyn ni wedi bod yn gofyn amdano. Byddai wedi bod yn dda cael hyn pan oeddwn i’n tyfu i fyny mewn gofal” Voices From Care Cymru

Child's bedroom image

y ffordd orau posibl

Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru: “Fel y rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau maethu awdurdodau lleol di-elw, mae Maethu Cymru wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i blant a phobl ifanc sydd angen gofal.

“Dywedodd ein plant wrthym ni eu bod eisiau mwy o wybodaeth am ble roeddent yn mynd i fyw. Roeddent eisiau gwybod sut olwg fyddai ar eu hystafell wely, beth oedd anifail anwes y teulu a’r hyn mae’r gofalwyr maeth yn hoffi ei wneud yn eu hamser sbâr.

“Rydym eisoes wedi clywed gan ein gweithwyr cymdeithasol am y gwahaniaeth enfawr y mae hyn yn ei wneud. Mae’r Big Welcome yn darparu’r sicrwydd a’r cysylltiad sydd eu hangen i gychwyn perthynas yn y ffordd orau posibl.”

 

Dewch o hyd i’ch Awdurdod Lleol a chymryd y cam cyntaf heddiw.