
Nina Kemp Jones, fy nhaith fel gweithiwr cymdeithasol
Yma, mae ein Rheolwr Datblygu Rhanbarthol yn rhannu ei stori am sut y gwnaeth ddechrau ei gyrfa gofal cymdeithasol a symud ymlaen ynddi yn y gobaith o ysbrydoli eraill.
gweld mwyawdur
Nina ydw i a fi yw Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Maethu Cymru. Rwy’n angerddol am gynnig y cymorth, y dysgu a’r datblygiad gorau posibl i ofalwyr maeth awdurdodau lleol yng Ngwent.
Rwyf wedi bod yn weithiwr cymdeithasol cymwys ers dros 25 mlynedd, yn gweithio ym maes amddiffyn plant, troseddau ieuenctid, magu plant, maethu a mabwysiadu.
Rwy’n credu, gyda gofalwyr maeth gwydn sy’n cael eu cynorthwyo’n dda ac sydd â chyfleoedd dysgu, y gallwn greu dyfodol mwy disglair i blant.
Cymhwysais fel gweithiwr cymdeithasol ym 1999 gyda’r Brifysgol Agored. Rwyf wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae fy ngyrfa hyd yma wedi cynnwys rôl Rheolwr Tîm gyda Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru.
Roeddwn yn falch o chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Fframwaith Maethu Cenedlaethol yng Nghymru, a arweiniodd at lansio Maethu Cymru yn 2021.
Rhannais fy stori bersonol fy hun fel rhan o’r lansiad. Woman inspired by her ‘amazing’ foster carer becomes social worker and wants more people to consider fostering – Wales Online
Os oes gennych ddiddordeb mewn maethu neu fusnes lleol sy’n barod i gefnogi eu cymuned faethu leol, cysylltwch â mi ar LinkedIn.