canllaw i blant a phobl ifanc

dy hawliau

mae gan bob plentyn 42 o hawliau i wneud yn siŵr bod gennyt ti'r hyn sydd ei angen arnat i dyfu i fyny yn teimlo'n hapus, yn iach ac yn ddiogel

beth yw dy hawliau?

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc hawliau, waeth pwy wyt ti, ble rwyt ti’n byw, neu beth yw dy sefyllfa.

Mae’n bwysig i ti wybod yr holl bethau y mae hawl gennyt ti eu gwneud, beth ddylet ti ei gael gan oedolion yn dy fywyd a gwybod pan nad wyt ti’n cael dy drin yn iawn.

Mae’n bwysig i ti gofio dy fod di, a’r hyn sy’n bwysig i ti, yn bwysig.

fideos am dy hawliau

beth i’w wneud os wyt ti'n teimlo nad wyt ti'n cael dy hawliau?

Beth yw’r CCUHP?

Beth yw'r hawliau sydd gan bob plentyn?

beth mae comisiynydd plant cymru’n ei wneud?

Mae’r comisiynydd plant yn gwneud yn siŵr:

  • Dy fod bob amser yn cael dy drin â pharch a bod pobl yn gwrando arnat.
  • Bod gennyt ti’r hawl i gael gofal da, i deimlo’n ddiogel ac i gael dweud dy ddweud mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanat ti.
  • Yr oedolion yn dy fywyd sy’n gyfrifol am annog a gofalu am dy hawliau.

Galli di gysylltu â’r comisiynydd plant drwy’r wefan.

mwy am dy hawliau

Pobl sy’n gallu helpu ynglŷn â dy hawliau

addewid llywodraeth cymru i blant sy'n derbyn gofal

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud addewid i ofalu am bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a chwrdd i glywed eich lleisiau.

Corporate parenting
llywodraeth cymru

Siarter Rhianta Corfforaethol – Addewid Cymru

Rhianta Corfforaethol
Radical reform
diwygiad radical

Uwchgynhadledd Llywodraeth Cymru gyda phobl ifanc

Uwchgynhadledd diwygiad radical