cwestiynau cyffredin am faethu
O ran gofal maeth, gall fod yn anodd gwahanu’r ffeithiau o’r mythau am beth yw maethu, rôl gofalwr maeth, a phwy sydd angen cael ei faethu.
Isod, rydym wedi casglu ynghyd rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin sy’n cael eu gofyn i’n timau awdurdod lleol i unioni unrhyw gamsyniadau a rhoi i chi’r wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnoch.
Mae gan yr holl blant yn ein gofal wahanol gefndir a gwahanol anghenion, felly bydd dod yn ofalwr maeth iddynt yn senario unigryw. Rydym yn cynnig mathau amrywiol o faethu i fodloni eu hanghenion nhw a’ch anghenion chi ac mae’n sicr y bydd pob un yn cael effaith fawr.
Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin i ddysgu mwy am ein gwaith, a sut gallwch ddod yn ofalwr maeth.
beth yw maethu?
Mae maethu yn golygu derbyn plentyn yn rhan o’ch teulu pan fydd yn rhaid iddo fod i ffwrdd oddi wrth ei deulu ei hun. Gallai hynny fod am noson, mis, blwyddyn neu sawl blwyddyn. Mae ymroddiad i wneud gwahaniaeth wrth galon unrhyw leoliad maeth – er mwyn newid cwrs bywyd plentyn.
Mae gofalwyr maeth yn golygu dechrau o’r newydd a theulu newydd, ond dydy hyn ddim yn golygu dileu’r gorffennol – mae’r cysylltiadau pwysig sydd gan blant maeth â’u teuluoedd biolegol yn cael eu cynnal hefyd.
Mae gwarchod cyfeillgarwch, lleoedd cyfarwydd a phopeth sy’n bwysig i’r plentyn yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Dyna pam y byddwn bob amser yn rhoi blaenoriaeth i leoli plant yn eu cymuned leol, os mai dyna’r peth iawn iddyn nhw.
Fel gofalwr maeth lleol, mae gennych rôl bwysig: gwneud yn siŵr bod y plentyn yn teimlo’n ddiogel, yn hapus ac yn cael cefnogaeth. Ein rôl ni yw eich cefnogi chi, ym mhob ffordd y gallwn ni.
y teulu maeth nodweddiadol… dydy o ddim yn bodoli
Rydyn ni’n dathlu amrywiaeth a natur unigryw ein teuluoedd maeth. Does dim y fath beth â theulu maeth nodweddiadol – y gwir amdani yw, mae maethu’n ymwneud â diwallu anghenion unigol pob plentyn yn ein gofal. Mae angen rhywbeth gwahanol ar bob plentyn. Dyna pam, os byddwch chi’n penderfynu bod yn ofalwr maeth, does dim modd cymharu eich amgylchiadau chi â sefyllfa unrhyw un arall. Eich stori chi yw’r peth pwysicaf.
beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu?
Efallai bod gofal maeth a mabwysiadu yn wahanol yn y bôn, ond maen nhw’n rhannu rhai gwerthoedd cyffredin. Caredigrwydd. Tosturi. Sefydlogrwydd. Hafan ddiogel, pan fydd ei hangen fwyaf.
y diffiniad cyfreithiol
Mae’r ffordd y mae maethu a mabwysiadu yn wahanol yn gliriach fyth pan fyddwch yn edrych ar y diffiniad cyfreithiol. Gyda mabwysiadu, rydych yn dod yn rhiant cyfreithiol i’r plentyn hwnnw. Mae gennych gyfrifoldeb llawn dros y plentyn, mae’n cymryd eich enw, mae’n rhan gyfreithiol o’ch teulu.
Gyda maethu, cyfrifoldeb cyfreithiol yr Awdurdod Lleol yw’r plentyn o hyd ac rydych chi’n gweithio gyda’ch gilydd, weithiau gyda’i deulu biolegol hefyd. Rydych chi, fel gofalwr maeth, yn gofalu am y plentyn hwnnw ac yn ei fagu ar sail tymor byr, tymor canolig neu dymor hir.
Darllenwch ein blog “5 gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu”
beth yw rôl gofalwr maeth?
Mae llawer o wahanol fathau o ofal maeth, sy’n golygu bod llawer o wahanol rolau ar gael fel gofalwr maeth. Ond yn y bôn, yr un peth sydd wrth wraidd rôl pob gofalwr maeth: darparu cartref diogel a chefnogol i blentyn neu berson ifanc sydd mewn angen.
Gall rolau a chyfrifoldebau gofalwr maeth, sy’n cael eu cyflawni gyda brwdfrydedd, newid bywyd plentyn maeth.
ystyr gofal maeth
Yn ôl ei ddiffiniad, gofal maeth yw pan fo rhywun yn gofalu am blentyn nad yw’n blentyn cyfreithiol iddo, fel arfer am gyfnod cyfyngedig.
Fodd bynnag, mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwch faethu, ac mae gwahanol fathau o faethu yn gofyn am wahanol sgiliau a gofynion gennych chi a’ch cartref.
beth yw gofal maeth?
Tri chategori bras gofal maeth yw maethu byrdymor, hirdymor ac arbenigol.
Gall maethu byrdymor olygu gofalu am blentyn am unrhyw gyfnod, o ddiwrnod hyd at flwyddyn. Yn gyffredinol, mae’n golygu eich bod yn barod ac yn gallu camu i’r adwy pryd bynnag y bydd eich plentyn maeth eich angen chi, yn ogystal â’n helpu i ddod o hyd i gartref hirdymor iddo os na all ddychwelyd at ei deulu biolegol.
Mae maethu hirdymor yn ymwneud â chynnig cartref parhaol i blentyn maeth, ond nid ei fabwysiadu. Gallwch gael mwy o wybodaeth am hyn yn ein blog: 5 gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu
Gallai maethu arbenigol fod yn rhan o faethu byrdymor neu hirdymor. Gallai gynnwys rhannu eich sgiliau rhianta â rhiant biolegol y plentyn maeth, meithrin ffoadur ifanc neu blentyn sydd ag anghenion mwy cymhleth.
Neu helpu person ifanc 16-21 oed bontio’r bwlch rhwng byw mewn gofal a byw’n annibynnol, a mwy.
sut mae maethu’n gweithio?
Gall y broses asesu ar gyfer maethu fod ychydig yn hir, ond mae hynny oherwydd ein bod yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod pob plentyn maeth yn cael ei leoli mewn cartref diogel a hapus.
Bydd llawer o ofalwyr maeth yn canolbwyntio ar feithrin ystod oedran benodol, fel babanod neu bobl ifanc yn eu harddegau. Gall gofalwyr maeth hefyd ofalu am nifer o blant ar yr un pryd, fel arfer hyd at dri. Fodd bynnag, gall fod eithriadau ar gyfer sefyllfaoedd sy’n cynnwys grwpiau mawr o frodyr a chwiorydd – lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn anelu at gadw grwpiau o frodyr a chwiorydd gyda’i gilydd pan fyddant yn mynd i ofal maeth.
beth mae gofalwyr maeth yn ei wneud?
Eich rôl fel gofalwr maeth yw cefnogi’r plentyn yn eich gofal, ym mha ffordd bynnag sydd ei hangen arno. Fel ei ofalwr o ddydd i ddydd, bydd angen i chi eirioli dros ei les yn emosiynol ac yn gorfforol, yn ogystal â’i gefnogi gyda’i addysg a helpu’ch plentyn maeth i gynnal perthynas â’i deulu biolegol hefyd.
Mae llawer o blant yn y system gofal maeth yn dod o gefndiroedd trawmatig neu wedi cael profiadau negyddol yn y gorffennol gartref. Mae hyn yn ei gwneud yn hynod bwysig bod gofalwyr maeth yn amyneddgar ac yn deall pobl sy’n awyddus i ddysgu sgiliau rhianta newydd.
Ar ochr weinyddol pethau, gofynnir i chi gadw cofnodion, mynychu cyfarfodydd rheolaidd â ni.
beth yw rhiant maeth?
Dim ond enw arall ar ofalwr maeth ydyw. Mae’n well gan rai pobl ddefnyddio ‘gofalwr’ gan ei fod yn cynrychioli ochr broffesiynol y rôl ac mae’n wahanol iawn i ‘riant biolegol’. Fodd bynnag, mae’n well gan eraill ddefnyddio ‘rhiant’, yn enwedig os ydynt yn maethu plentyn am gyfnod hir.
Mae’n rhywun sy’n rhoi gofal byrdymor neu hirdymor i blentyn yn y system faethu, gan roi amgylchedd meithringar iddo lle gall fod yn blentyn.
Gall teulu maeth diogel a chefnogol drawsnewid bywyd plentyn. Gan faethu drwy Maethu Cymru, gallwn weithio gyda’n gilydd i fod y gwahaniaeth hwnnw, a rhoi’r amgylchedd sydd ei angen ar blant yng Nghymru i dyfu i fyny yn hapus ac yn iach. Mae rhoi cartref i blentyn a’i weld yn ffynnu yn eich gofal yn brofiad hynod werth chweil. Gallwch gael dod o hyd i leoliad eich tîm maethu lleol drwy ein hafan.
fydda i’n cael fy nhalu fel gofalwr maeth?
Efallai nad arian yw’r peth cyntaf rydych chi’n ei ystyried gyda maethu. Ond mae’n gwestiwn pwysig i’n gofyn i ni. Mae’n rhan o sut rydyn ni’n eich cefnogi chi, i roi’r gofal gorau posib i’n plant.
lwfansau
Byddwch yn cael lwfans ar gyfer pob plentyn maeth yn eich gofal, a byddwch yn cael lwfans fel rhiant maeth hefyd. Mae’n ymwneud â gofalu am bethau bob dydd, yn ogystal â helpu i greu mwy o atgofion arbennig.
Y Canllaw i Dâl Gofalwyr Maeth
cefnogaeth arall
Mae manteision eraill, ar wahân i gymorth ariannol, a fydd yn cyfoethogi eich profiad maethu. Rydyn ni’n edrych ar y darlun llawn: cefnogaeth emosiynol, cyfleoedd dysgu ac arweiniad arbenigol hefyd.
Dim ein hamser a’n harbenigedd yn unig rydyn ni’n eu cynnig. Fel mudiad dielw, mae ein holl arian yn mynd tuag at gefnogi’r plant yn ein gofal a gwneud y profiad maethu y gorau y gall fod. Mae hynny’n golygu cefnogaeth cylch cyfan. Rydyn ni yma i chi, ym mha bynnag ffordd rydych chi ein hangen ni.
Tarwch olwg ar gefnogaeth a manteision eich Awdurdod Lleol i weld beth yn union y gallai maethu gyda Maethu Cymru ei olygu i chi.
pa mor hir mae’r broses faethu’n ei gymryd?
Mae taith pawb yn wahanol. Mae maethu yn benderfyniad i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant yn eich cymuned. Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i chi gyrraedd yno, ond y cam cyntaf yw’r mwyaf pwerus.
Gall gymryd tua 6 mis i fynd drwy’r broses faethu gychwynnol, ond mae hynny oherwydd bod gwiriadau a chyfeiriadau lluosog y mae angen iddynt ddigwydd i sicrhau bod pob plentyn yn ymuno â chartref diogel a chariadus.
sut mae dod yn ofalwr maeth?
Mae’r cyfan yn dechrau gyda hyn. Neges. E-bost. Galwad ffôn.
Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu’r Awdurdodau Lleol ledled Cymru. Dydyn ni ddim yn sefydliad pell i ffwrdd heb ddealltwriaeth o’ch byd. Rydyn ni’n griw o arbenigwyr ymroddedig o’ch cymuned chi. Felly, os ydych chi’n gofyn sut mae dod yn ofalwr maeth, mae’r ateb yn syml.
Cysylltwch â’ch tîm Maethu Cymru lleol a byddwn yn eich arwain bob cam o’r ffordd.
Ymunwch â’n digwyddiad gwybodaeth ar-lein
y camau nesaf
Pan fyddwch chi wedi cymryd y cam cyntaf pwysig hwnnw, byddwn yn eich tywys drwy weddill y broses. Ar y dechrau, mae’n ymwneud â dod i’ch adnabod chi.
pwy sydd angen ei faethu?
Does dim y fath beth â phlentyn maeth nodweddiadol. Does dim y fath beth â theulu maeth nodweddiadol, chwaith.
Mae gan bob plentyn yn ein gofal ei frwdfrydedd a’i bersonoliaeth ei hun. Mae’r plant wedi dod o wahanol amgylchiadau unigryw, sydd wedi dylanwadu ar eu bywydau hyd yma. Rydyn ni yma i wneud yn siŵr bod eu dyfodol yn wahanol. Yn well.
ein plant maeth
O fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau, o frodyr a chwiorydd i famau a thadau ifanc, mae yna blant ar hyd a lled Cymru sydd angen y cyfle hwnnw ar hyn o bryd. Y cyfle hwnnw i gamu ar lwybr newydd. Dyna lle gall gofalwyr maeth helpu.
Mae pob teulu maeth yn wahanol. Mae rhai yn croesawu brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd, eraill yn gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau, ac mae rhai rhieni maeth yn arbenigo mewn gofalu am blant sydd ag anghenion unigryw hefyd. Mae pob math o blant angen gofal maeth. Ein rôl ni yw cefnogi pob un ohonyn nhw. Dod o hyd i deulu sy’n addas iddyn nhw.
brodyr a chwiorydd
Rydyn ni’n credu mewn aros yn lleol, ac aros gyda’n gilydd. Mae cynnal cysylltiadau rhwng brodyr a chwiorydd yn bwysig i blant, felly mae’n bwysig i ninnau hefyd. Dyna pam mae paru brodyr a chwiorydd â theulu maeth, gyda’i gilydd, yn flaenoriaeth. Mae creu dyfodol gwell yn aml yn golygu manteisio i’r eithaf ar y cysylltiadau pwysig sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â datblygu rhai newydd.
pobl ifanc yn eu harddegau
Mae gofalu am blentyn yn ei arddegau yn golygu gwrando, deall, helpu i wneud synnwyr o’r byd – a’i le ynddo. Mae’n ymwneud â darparu sefydlogrwydd a sicrwydd, o blentyndod ac ymlaen i fywyd fel oedolyn.
sut beth yw maethu?
Mae maethu yn ymrwymiad, a does dim byd arall tebyg iddo. Bydd yna adegau i’w trysori. Adegau pan allwch chi wir weld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud. Os bydd adegau anodd hefyd, byddwn ni’n eich cefnogi chi ac yn eich tywys drwy’r broses.
Gallai fod am un noson, am bythefnos, neu am fwy o amser. Ond bydd maethu yn eich synnu. Bydd yn eich herio. Bydd yn werth chweil i chi.
Gwybodaeth am sut beth yw maethu: darllenwch ein llwyddiannau maethu.
pwy sy’n penderfynu pa blant rwy’n eu maethu?
Rydych chi’n unigryw, gyda’ch sgiliau a’ch cryfderau eich hun, ac mae’r ffordd y bydd eich teulu maeth yn edrych yn unigryw hefyd.
paru – sut mae’n gweithio
Rydyn ni’n gweithio gyda chi i baru plant â’r cartref iawn.
Mae’n golygu gwrando arnoch chi, dod i’ch adnabod, dod i adnabod eich teulu, eich bywyd, eich cartref. Gallwn wedyn eich paru chi â’r plentyn maeth sy’n cyd-fynd orau â’ch sgiliau a’ch amgylchiadau.
Mae paru yn y ffordd orau yn bwysig i ni. Ac mae’r rheswm am hynny’n syml: mae gwell paru’n golygu gwell canlyniadau.
pa hyfforddiant fydda i’n ei gael?
Mae’r hanfodion gennych chi i fod yn ofalwr maeth gwych, dim ond drwy feddwl am y peth. Tosturi. Ymroddiad. Chwilfrydedd.
Rydyn ni’n cymryd amser ac yn cynnig yr arbenigedd i’ch helpu i ddatblygu’r hanfodion hynny, er mwyn i chi gael yr holl adnoddau y bydd eu hangen arnoch.
beth fyddwch chi’n ei ddysgu
Byddwch yn dysgu sut rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, y rheolau sy’n helpu i lywio’r hyn rydyn ni’n ei wneud, a sut i fod y gorau y gallwch chi fod. Fyddwch chi byth yn teimlo’n segur rhwng y cyrsiau hyfforddi a’r cymwysterau.
pryd fyddwch chi’n dysgu
Rydyn ni’n hyblyg, ac mae hynny’n cynnwys ein fframwaith dysgu a datblygu. Byddwch yn cael cyfleoedd dysgu amrywiol ar adegau sy’n addas i chi. Dim rhoi tic yn y blwch sy’n bwysig, ond tyfu bob dydd. Mae rhai sgiliau’n gyffredinol, rhai yn fwy addas ar gyfer plentyn penodol. Byddwn yn rhoi pa bynnag hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch, pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch.
sut bydd fy newis i faethu yn effeithio ar fy nheulu?
Mae dod yn rhiant maeth yn ddewis rydych chi’n ei wneud gyda’ch anwyliaid. Mae’n ymwneud â thyfu eich uned deuluol drwy groesawu plant i’ch cartref. Eu cefnogi nhw. Gofalu amdanyn nhw. Mae eich teulu’n cael eu cynnwys ym mhob cam ac yn cael cynnig y gefnogaeth a’r gofal hwn hefyd. Oherwydd mae maethu yn ymwneud â chysylltiad a chymuned. Dim rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun yw maethu – rydych chi’n dîm, a byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd. Mae’r gefnogaeth, yr hyfforddiant a’r manteision rydyn ni’n eu cynnig yn cael eu cynnig i bob aelod o’ch aelwyd hefyd.
plant sy’n maethu
Mae llawer o deuluoedd maeth yn cynnwys oedolion a phlant, sy’n dysgu ac yn tyfu o gael brodyr a chwiorydd maeth. Mae’n ymwneud â dysgu sut i fod yno i’n gilydd. Sut i wrando. Sut i ofalu.
Cliciwch yma i ddarllen ein llyfr ‘Mae fy’n nheulu’n maethu’
dod o hyd i’ch tîm maethu cymru lleol
Fel y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled Cymru, rydyn ni wrth eich ymyl ble bynnag rydych chi. Rhowch eich cod post, eich tref neu’ch dinas i ddod o hyd i’ch tîm gofal maeth lleol.