mathau o faethu

gofal maeth therapiwtig

Rydym yn helpu gofalwyr maeth yng Nghymru i ddarparu cartrefi diogel a chariadus i blant yn eu cymuned.  Bydd pob plentyn mewn gofal maeth wedi profi rhyw fath o drawma yn ei fywyd cynnar, ac mae angen i ofalwyr maeth ymateb i’w anghenion unigol.

Mae gofal maeth therapiwtig yn ffordd o rianta sy’n cefnogi anghenion emosiynol cymhleth plant a phobl ifanc sydd wedi bod trwy brofiadau trawmatig fel esgeulustod neu gamdriniaeth.

Gall cefnogaeth gan dîm sy’n ymwybodol o drawma gofleidio plentyn a’i ofalwr maeth yn wyneb heriau ychwanegol, gan ddarparu cymorth ychwanegol a chynyddu mynediad at wasanaethau therapiwtig.

pam mae angen i chi rianta’n therapiwtig?

Waeth beth yw cefndir plentyn, gall tarfu ar fond teuluol, gwrthodiad, esgeulustod, camdriniaeth, neu hyd yn oed amlygiad cynenedigol gael effaith barhaol ar ei system nerfol ac iechyd meddwl cyffredinol.

Mae pob plentyn yn y gymuned faethu wedi bod yn agored i ryw fath o drawma, hyd yn oed os nad yw hynny drwy’r ffyrdd mwy corfforol rydyn ni’n clywed amdanyn nhw. Mae hyn yn aml yn cael effaith isymwybodol barhaol, sy’n dod i’r amlwg fel ymddygiad heriol – boed yn chwalfeydd neu ffrwydradau emosiynol annisgwyl neu drafferth ymddiried mewn pobl newydd.

O safbwynt therapiwtig, gelwir hyn yn ‘sownd yn y modd goroesi’ – mae cyrff y plant yn dal atgofion am drawma, hyd yn oed os nad yw eu meddyliau ymwybodol. Gall fod yn un o’r prif resymau pam nad yw pethau’n teimlo’n iawn iddyn nhw, hyd yn oed os ydyn nhw mewn amgylchedd diogel.

beth yw gofal maeth therapiwtig?

Mae gofal maeth therapiwtig yn fwy na dim ond rheoli ymddygiadau heriol. Mae’n ymwneud ag adeiladu’r sylfaen ar gyfer iachâd ac adferiad trwy greu amgylchedd o ymddiriedaeth a diogelwch. Mae hyn yn rhywbeth y gall pob plentyn a pherson ifanc elwa ohono.

Mae maethu therapiwtig yn ddull pwerus – yn seiliedig ar berthnasoedd – o wella ac adfer o drawma plentyndod. Mae’n dechrau trwy ddeall yn ddwfn yr effaith emosiynol, ymddygiadol a seicolegol y gall profiadau trawmatig mewn bywyd cynnar ei chael. Yna, mae gan y gofalwyr maeth fwy o sgiliau i ymateb gydag empathi, cysondeb a mewnwelediadau therapiwtig. Gam wrth gam, gallant ddod yr oedolyn dibynadwy hwnnw sydd ei angen ar bob plentyn a pherson ifanc.

Mae’r daith yn aml yn gymhleth a hir, ond gyda’r gefnogaeth gywir, gall plant maeth wella o’u dechreuadau trawmatig a datblygu i fod yn unigolion emosiynol wydn, ffyniannus gydag ymdeimlad newydd o obaith, pwrpas a pherthyn. Trwy ofal maeth therapiwtig, gall eu stori ddod yn un o obaith.

beth mae gofal maeth therapiwtig yn ei olygu?

Fel gofalwr therapiwtig, byddwch yn cefnogi’r plant yn eich gofal gyda’u taith iacháu, gan eu hannog i adeiladu gwytnwch a ffurfio perthnasoedd cariadus gyda’r rhai o’u cwmpas.

Prif nod maethu therapiwtig yw helpu pobl ifanc i brosesu’r profiadau negyddol o’u gorffennol a dysgu i gyfleu eu hemosiynau mewn ffordd iach.

Mae adeiladu ymddiriedaeth yn elfen allweddol o’r dull rhianta therapiwtig, a’r sylfaen i’r person ifanc ddatblygu teimladau newydd o ddiogelwch a gwerthfawrogiad.

Yn aml, mae’r ymatebion ymddygiadol y mae plant wedi’u datblygu yn ffordd o amddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth ac esgeulustod, mewn ymateb i’w hamgylchiadau a’u profiadau.

Bydd hyn yn dod i’r amlwg mewn ffordd wahanol ym mhob plentyn; mae gofal maeth therapiwtig yn golygu datblygu eich sgiliau ac adeiladu pecyn cymorth naturiol o ffyrdd o ymateb i anghenion gwahanol blant yn therapiwtig.

rhianta therapiwtig v traddodiadol

Wrth ystyried maethu therapiwtig, efallai y bydd rhieni profiadol yn gofyn ‘sut yn y byd y bydd plant yn dysgu gyda dull meddalach?’ Ond mae’n bwysig sylweddoli mai ffurfio’r bondiau hyn yn gyntaf yw’r hyn sy’n agor y cyfle i bobl ifanc ddysgu, unwaith y byddant yn teimlo’n ddiogel yn eu hamgylchedd newydd.

Yn y sefyllfaoedd hyn, gall cosbi wthio plant ymhellach i ffwrdd ac achosi i’w teimladau negyddol, fel dicter a chywilydd, dyfu. Ymateb mewn ffordd gydymdeimladol a cheisio cysylltu â nhw, ar y llaw arall, yw’r cam cyntaf i ddysgu ymddygiadau iachach iddyn nhw.

Trauma rewires the brain for survival, not trust. That;s why connection should always come before correction

maethu therapiwtig ar waith

Felly, sut mae gofal maeth therapiwtig yn wahanol i fathau eraill o rianta maeth? Mae’n troi pileri rhianta ar eu pen, ac yn hytrach na rhoi amser allan i blentyn, mae’n rhoi amser ‘mewn’ iddyn nhw. Pan fyddan nhw’n ymddwyn yn heriol, eisteddwch i lawr gyda nhw a’u helpu i brosesu’r hyn sy’n digwydd – gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod eich bod chi yno iddyn nhw ac yn barod i wrando.

“Rydw i wedi treulio sawl noson yn eistedd yn dawel gydag un o’n plant yn eu hystafell yn gweiddi a sgrechian a thaflu eu hunain ar y gwely! Mae fy mhresenoldeb tawel (y mae’n rhaid i mi weithio’n galed iawn i’w gyfleu) yn tawelu’r plentyn yn y pen draw!” – gofalwr maeth therapiwtig

Gall hyn fod yn flinedig i’r plentyn a’r gofalwr, ond bydd sicrhau eich bod yn cael sgwrs – hyd yn oed ychydig oriau neu ddiwrnod yn ddiweddarach – yn gwneud rhyfeddodau i annog cynnydd, waeth pa mor fach. Mae’r mathau hyn o sgyrsiau yn aml yn gweithio’n dda gyda gweithgareddau eraill, fel cerdded neu yrru, lle nad oes cyswllt llygad dwys a lle mae’r cefndir yn cael effaith reoleiddio, gan annog plentyn a rhiant i wrando ar ei gilydd.

Gall cynnig yr iaith gywir i bobl ifanc fynegi eu hunain hefyd annog sgwrs.  Rhowch gynnig ar ymadroddion fel “Sgwn i a oeddet ti’n teimlo…”, neu “Roedd y rheini’n emosiynau mawr roeddet ti’n eu teimlo…”, a gweld ble mae’r sgwrs yn mynd.

Dysgwch fwy am rianta therapiwtig

The body keeps the score book

The Body Keeps the Score gan Bessel Van Der Kolk

Mae’r llyfr hwn yn rhoi mewnwelediad i sut mae trawma yn effeithio ar ymennydd a chorff plentyn, gan ddylanwadu ar ei ymddygiad a’i ymatebion emosiynol. Gall profiadau trawmatig ailweirio’r ymennydd, gan effeithio ar allu plentyn i reoleiddio emosiynau, teimlo’n ddiogel, ac adeiladu perthnasoedd iach.  Mae dull therapiwtig yn helpu gofalwyr maeth i edrych y tu hwnt i’r ymddygiad a gweithredu arferion sy’n ystyriol o drawma i helpu plant i wella a ffynnu yn eu gofal.

Mixed Signals

Cylchlythyr Mixed Signals gan Gareth K. Thomas

Mae Gareth (LinkedIn) yn pwysleisio pwysigrwydd cadw at ein gair, tôn dawel, strwythur, amserlenni gweledol a rhagweladwyedd i ddangos i blant nad ydyn ni’n gadael. Mae hyn yn helpu pobl ifanc sydd yn y modd goroesi – sy’n teimlo bod popeth yn fygythiad – i geisio cysylltiad gan ofyn “Ydyn ni’n iawn?” yn gyson.

Mae’n disgrifio plant fel “synwyryddion daeargryn rhagorol” sy’n synhwyro’r newid lleiaf ac yn rhagweld gwrthodiad. Mae’n chwalu’r mythau fod gofal maeth therapiwtig yn ddull meddal sy’n “gadael iddyn nhw fynd yn ddi-gosb”.

Laura Foster Parent Partner

Foundational Parenting Skills for Foster Parents

Nid yw rhianta plentyn sydd wedi profi trawma yr un peth â rhianta traddodiadol a, gellir dadlau, nid yw rhianta ysgafn yn darparu cefnogaeth lawn chwaith. Nid yw siartiau sticeri, cosbau ac amser ymdawelu yn aml yn gweithio, ac yn wir gallant niweidio’r berthynas newydd rydych chi’n ei hadeiladu. Mae’r fideo hwn (YouTube) yn eich tywys trwy’r chwe sgìl rhianta ystyriol-o-drawma sylfaenol y mae angen i bob rhiant sy’n maethu am y tro cyntaf eu gwybod.

 

hyfforddiant a chymorth maethu therapiwtig

Gall lefel y cymorth therapiwtig sydd ar gael fod yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion plant, gyda mynediad at therapyddion hyfforddedig i greu cynllun ar gyfer cefnogi’r plentyn yn y cartref maeth neu mewn sesiynau therapi.

Gallwch chi fod yn dawel eich meddwl; byddwn ni yno i chi ar bob cam o’ch taith gofal maeth therapiwtig. Rydym wedi cynllunio ein hyfforddiant gyda gwybodaeth arbenigol ar sut i’ch cefnogi chi a’r plant rydych chi’n eu croesawu i’ch cartref.

I ofalwyr maeth newydd, gall maethu therapiwtig ymddangos yn frawychus; i ofalwyr profiadol, gall fod yn bos sy’n esblygu’n barhaus, yn llawn darganfyddiadau.

Mae gofal maeth therapiwtig yn defnyddio strategaethau sydd wedi’u gwreiddio mewn gofal ac adferiad sy’n ystyriol o drawma, theori ymlyniad, ac egwyddorion datblygiad plant. Mae’n cynnwys gweithredu technegau sydd wedi’u cynllunio i annog cydymdeimlad a gonestrwydd rhwng plant a gofalwyr therapiwtig. Er enghraifft, bydd PACE (Chwarae, Derbyniad, Chwilfrydedd a Chydymdeimlad) yn cefnogi datblygiad emosiynol y bobl ifanc hyn ymhellach, tra hefyd yn cryfhau’ch perthynas chi â nhw.

Dyma ychydig eiriau, ymadroddion a chyrsiau hyfforddi y byddwch chi’n dod ar eu traws o fewn yr ystod o hyfforddiant gofal maeth therapiwtig a gynigiwn fel rhan o fframwaith dysgu a datblygu Maethu Cymru:

  • Datblygu sylfaen ddiogel a hyrwyddo ymlyniad – un o’r camau craidd mewn rhianta therapiwtig yw creu amgylchedd lle mae plant yn dod o hyd i sefydlogrwydd ac yn teimlo’n ddigon diogel i ganolbwyntio ar ffurfio ymlyniadau iach gyda’r rhai o’u cwmpas.
  • Deall ymddygiad heriol a hyrwyddo strategaethau cadarnhaol – pan fyddwch chi’n cael eich paru â phlentyn am y tro cyntaf, byddwn ni’n rhannu’r holl wybodaeth sydd gennym am ei gefndir, sy’n llywio ei anghenion maethu therapiwtig unigol. Mae hyn yn golygu y bydd gennych chi’r sgiliau i gydymdeimlo ag ef ac ymateb yn briodol i’w ymddygiad.
  • Ail-rianta therapiwtig – fel rhan o’r dull hwn, mae gofalwyr yn sicrhau bod anghenion emosiynol pobl ifanc sydd yn eu gofal yn cael eu bodloni mewn ffyrdd nad ydynt wedi’u bodloni yn ystod bywyd cynnar y plentyn. Trwy gydymdeimlad ac ymagwedd bwyllog at ffiniau, mae’r teulu maeth yn dysgu ffordd newydd o adeiladu perthnasoedd i blant.
  • Ymlyniad a thrawma uwch – fel rhan o hyfforddiant maethu therapiwtig, mae gofalwyr yn dysgu mwy am y ffordd y gall profiadau trawmatig bywyd cynnar, fel camdriniaeth neu esgeulustod, gael effaith ddofn ar allu (a pharodrwydd) person ifanc i ymddiried a chysylltu.
  • Strategaethau datblygedig i ddelio ag ymddygiad heriol – yn ogystal â ffyrdd mwy cyffredinol o adnabod ymddygiadau sy’n deillio o drawma ac ymateb mewn ffyrdd cefnogol, gallwch balu’n ddyfnach i’r pwnc a datblygu eich galluoedd gyda chyfres o offer therapiwtig ymarferol.
  • Deall iechyd meddwl plant a phobl ifanc – fel rhan o faethu therapiwtig, byddwch chi hefyd yn edrych ar heriau emosiynol y gallai plant fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd, o anawsterau datblygiadol i orbryder neu iselder. Byddai gwella’ch dealltwriaeth o iechyd meddwl plant maeth yn eich helpu i adnabod unrhyw arwyddion o salwch meddwl a chynnig cefnogaeth.
  • Chwarae therapiwtig – mae hyn fel arfer yn cyfeirio at sesiynau chwarae ar y cyd rhwng plant a’u gofalwyr. Yn ystod y sesiynau hyn, mae gweithgareddau penodol a strwythuredig yn annog ymlyniad ac yn helpu i ffurfio perthynas gadarnhaol rhwng y bobl ifanc a’u teulu maeth.

pa gymorth maethu therapiwtig ychwanegol sy’n cael ei gynnig?

Drwy eich tîm Maeth Cymru lleol, bydd gennych fynediad at wasanaethau cymorth neu dimau o seicolegwyr a therapyddion sy’n arbenigo mewn cefnogi plant a’u gofalwyr maeth. Byddant yn gweithio gyda chi i ddeall a rheoli ymddygiad pobl ifanc yn eich gofal yn well.

Wrth i blant fynd trwy fywyd, gall eu hymddygiad a’u hymatebion amrywio yn dibynnu ar sbardunau, hormonau, neu deimladau o ansefydlogrwydd.  Rydym am gefnogi eu symudiad tuag at ddyfodol gwell a helpu i atal problemau rhag gwaethygu.  Mae bod yn ymwybodol o drawma yn eich helpu i ddeall ac ymateb i blant, gan hefyd fyfyrio i addasu eich ymddygiad eich hun.

Os ydych chi’n gofalu am blentyn unigol y gwyddwn y bydd angen lefel uchel o gefnogaeth arno, neu os ydych chi’n darparu’r lefel hon o ofal yn rheolaidd i bobl ifanc sy’n ‘camu i lawr’ o ofal preswyl, er enghraifft, efallai y byddwch yn cael cynnig pecyn cymorth lleol gyda ffioedd uwch i’r gofalwr.

Gall y gefnogaeth hon addasu i’ch anghenion chi ac anghenion y plentyn, gan ddarparu cymorth ychwanegol 24/7 pan fydd ei angen arnoch fwyaf.