polisi cwcis
Pwy ydym ni
Mae Maethu Cymru wedi ymrwymo i amddiffyn a pharchu’ch preifatrwydd. Darperir y Polisi Cwcis hwn i chi fel defnyddiwr y wefan hon.
Beth ydi cwcis?
Ffeil testun bach yw cwci sydd yn gofyn am ganiatâd i gael ei osod ar galedwedd eich cyfrifiadur. Mae pob gwefan fodern, fwy neu lai, yn defnyddio cwcis i wella’ch profiad wrth bori’r wefan.
Caiff y ffeil ei harbed ar eich cyfrifiadur ac mae’n gwneud sawl peth – o helpu i ddadansoddi traffig y wefan i storio dewisiadau ymwelwyr â’r wefan. Mae cwcis yn caniatáu i wefannau fel ein un ni ymateb i’ch dewisiadau unigol. Trwy gasglu a chofio gwybodaeth amdanoch chi, y pethau yr ydych chi’n eu hoffi a ddim yn eu hoffi, gallwn deilwra’r wefan i’ch anghenion chi.
Ar y cyfan, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwell gwefan ar eich cyfer chi – er enghraifft, ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy’n ddefnyddiol a ddim yn ddefnyddiol i chi. Nid yw cwcis yn caniatáu mynediad i’ch cyfrifiadur nac unrhyw wybodaeth amdanoch chi, ac eithrio’r data yr ydych chi’n dewis ei rannu â ni. Ni allwn ychwaith ddefnyddio cwcis i adnabod pwy ydych chi, na gwahaniaethu rhyngoch chi a phobl eraill sy’n defnyddio’ch dyfais ac yn rhannu’ch cyfrif defnyddiwr.
I gael gwybod mwy am gwcis, ewch i www.allaboutcookies.org.
Sut allwch chi ddewis rheoli cwcis?
Gallwch reoli cwcis ar y safle we, neu fe allwch eu rheoli’ch hun drwy ddefnyddio’r feddalwedd ar eich porwr gwe. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe’n defnyddio cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch newid gosodiadau’ch porwr i wrthod cwcis os ydych chi’n dymuno.
Mae sut mae gwneud hyn, a faint o reolaeth sydd gennych chi dros wahanol fathau o gwcis yn ddibynnol ar y porwr yr ydych chi’n ei ddefnyddio. Mae pob porwr cyffredin yn eich galluogi i ddiffodd cwcis, neu ddileu cwcis sy’n cael eu storio ar eich dyfais, ar unrhyw adeg. Cyfeiriwch at yr wybodaeth ar yr union broses ar gyfer eich porwr penodol chi, dyma ddolenni defnyddiol:
Weithiau bydd cwcis sy’n cael eu creu gan ein gwefan neu’n gwasanaethau trydydd parti’n cael eu darllen gan ein darparwyr gwasanaethau trydydd parti. Gwelwch fod pob un wedi’i restru isod yn yr adran ‘Y cwcis a ddefnyddir gennym ni’.
Sylwch, er bod ein gwefan yn gweithredu’n iawn os ydych wedi dewis diffodd pob cwci, efallai y byddwch wedi diffodd rhai o’r swyddogaethau cynorthwyol megis opsiynau iaith a/neu hygyrchedd, ac felly ni fydd eich dewisiadau’n cael eu cadw wrth i chi fynd o un dudalen i’r llall wrth bori’n gwefan.
Y cwcis a ddefnyddir gennym ni
Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan bydd y cwcis yr ydym ni’n eu defnyddio’n cael eu harbed yn awtomatig ar eich dyfais (oni bai eich bod wedi dewis peidio’u harbed yng ngosodiadau’ch porwr gwe)– fe allant gael eu darllen a’u defnyddio gan drydydd bartïon, megis cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac apiau, a phan fyddwch yn rhyngweithio â gwasanaethau eraill sydd wedi’u mewnosod, megis edrych ar fideo neu fap a gynhelir gan drydydd parti – er enghraifft, gwylio fideo YouTube wedi’i fewnblannu.
Enw’r Cwci: wordpress_*
Pwrpas/parti: Ymarferol, parti cyntaf.
Dod i ben: Parhaus, dyddiad dod i ben hir.
Nodweddion/disgrifiad: Fe’i gosodir dim ond os ydych yn mewngofnodi i’r safle (ardal i aelodau neu fewngofnodi CMS, os yn berthnasol). Fe’i defnyddir i’ch cadw wedi mewngofnodi i’r safle. Defnyddir data stwnshlyd, wedi’i amgryptio.
Enw’r Cwci: wp-settings-*
Pwrpas/parti: Ymarferol, parti cyntaf.
Dod i ben: Parhaus, dyddiad dod i ben hir.
Nodweddion/disgrifiad: Cânt eu gosod dim os ydych yn mewngofnodi i’r safle (ardal i aelodau neu fewngofnodi CMS, os yn berthnasol). Fe’i defnyddir i’ch cadw wedi mewngofnodi i’r safle. Defnyddir data stwnshlyd, wedi’i amgryptio.
Enw’r Cwci: viewed_cookie_policy
Pwrpas/parti: Ymarferol, parti cyntaf.
Dod i ben: Parhaus, dyddiad dod i ben hir.
Nodweddion/disgrifiad: I storio p’un ai a ydych wedi edrych ar y neges polisi cwcis.
Enw’r Cwci: CookieLawInfoConsent
Pwrpas/parti: Ymarferol, parti cyntaf.
Dod i ben: Parhaus, dyddiad dod i ben hir.
Nodweddion/disgrifiad: I storio p’un ai a ydych wedi dewis derbyn cwcis.
Enw’r Cwci: cookielawinfo-checkbox-*
Pwrpas/parti: Ymarferol, parti cyntaf.
Dod i ben: Parhaus, dyddiad dod i ben hir.
Nodweddion: Mae pob math o gwcis yn dechrau â’r enw ‘cookielawinfo-checkbox-’. Maent yn storio’r math o gwcis yr ydych chi’n eu derbyn.
Enw’r Cwci: pll_language
Pwrpas/parti: Ymarferol, parti cyntaf.
Dod i ben: Parhaus, dyddiad dod i ben hir.
Nodweddion: Arbed eich dewis iaith. Trwy atal y cwci yma ni fydd eich dewis iaith yn cael ei gadw wrth bori drwy’r gwahanol dudalennau ar ein gwefan.
Enw’r Cwci: _ga and _ga_*
Pwrpas/parti: Ystadegau, trydydd parti.
Dod i ben: Parhaus/seiliedig ar sesiwn, dyddiad dod i ben hir.
Nodweddion: Gosodir cwci ‘_ga’ sengl, ynghyd â sawl cwci arall sy’n cychwyn gyda ‘_ga_’, gan Google Analytics. Mae Google Analytics yn wasanaeth trydydd parti a ddefnyddir gennym ni i gasglu gwybodaeth am y defnydd a wneir o’n gwefan gan ymwelwyr. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio cod adnabod ansensitif ar gyfer pob defnyddiwr, sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu data ystadegol am y modd y mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Mae’r data a gesglir drwy’r cwcis hyn ar gael i Maethu Cymru/Google a gwasanaethau cysylltiedig Google. Am ragor o wybodaeth, darllenwch drosolwg o bolisi preifatrwydd a diogelu Google: https://support.google.com/analytics/answer/6004245.
Enwau’r Cwcis: YSC, PREF, GPS, CONSENT, VISITOR_INFO1_LIVE
Pwrpas/parti: Darparu fideo, trydydd parti.
Dod i ben: Parhaus/seiliedig ar sesiwn, dyddiad dod i ben hir.
Nodweddion: Mae rhai tudalennau ar ein safle’n cynnwys fideos YouTube wedi’u mewnblannu. Pan fydd fideo yn chwarae, efallai y bydd cwcis ategol yn cael eu harbed ar eich dyfais gan eich porwr gwe. Fe’i defnyddir i wella’ch profiad wrth wylio’r fideo. Mae data a gesglir drwy’r cwcis hyn ar gael i Maethu Cymru/Google a gwasanaethau cysylltiedig Google, ond ni chaiff gwybodaeth a all adnabod unigolion yn bersonol ei storio. Am ragor o wybodaeth, darllenwch drosolwg o bolisi preifatrwydd a diogelu Google: https://support.google.com/analytics/answer/6004245.
Enw’r Cwci: datr, x-src, fr, lu, c_user, datr, dpr, fr, presence, sb, XS, _fbp (yn ddibynnol ar amgylchiadau/lleoliad yr ymwelydd)
Pwrpas/parti: Ystadegau, ail farcio, trydydd parti.
Dod i ben: Cymysg, parhaus, dyddiad dod i ben hir.
Nodweddion: Rydym yn defnyddio’r nodwedd picsel ar Facebook i adnabod defnyddwyr sydd wedi glanio ar dudalennau penodol, er mwyn targedu grwpiau penodol trwy ail farchnata a hysbysebu. Mae’r picsel Facebook yn storio cwci, sydd yn golygu bod gwybodaeth am eich ymweliad â’n gwefan yn cael ei rhannu â Facebook. Cewch addasu’ch gosodiadau preifatrwydd ar Facebook er mwyn cael rheolaeth well. Gallwch ddysgu mwy am y gwahanol gwcis a ddefnyddir gan Facebook yma, https://www.facebook.com/policies/cookies/, a sut i reoli agweddau o’ch preifatrwydd pan nad ydych ar safle Facebook https://www.facebook.com/help/2207256696182627.
Enw’r Cwci: _hjAbsoluteSessionInProgress, _hjFirstSeen, _hjSession, _hjSessionUser, _hjIncludedInPageviewSample, _hjIncludedInSessionSample (yn ddibynnol ar amgylchiadau)
Pwrpas/parti: Ystadegau.
Dod i ben: Cymysg, dyddiad dod i ben byr.
Nodweddion: Rydym yn defnyddio Hotjar er mwyn deall anghenion ein defnyddwyr yn well ac i optimeiddio’r gwasanaeth a’r profiad hwn. Mae Hotjar yn wasanaeth technoleg sy’n ein helpu i ddeall profiad ein defnyddwyr yn well (e.e. faint o amser maen nhw’n ei dreulio ar ba dudalennau, pa ddolenni maen nhw’n dewis eu clicio, beth mae defnyddwyr yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi, ac ati) ac mae hyn yn ein galluogi i adeiladu a chynnal ein gwasanaeth gydag adborth gan ddefnyddwyr. Mae Hotjar yn defnyddio cwcis a thechnolegau eraill i gasglu data ar ymddygiad ein defnyddwyr a’u dyfeisiau. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad IP dyfais (a gaiff ei brosesu yn ystod eich sesiwn a’i storio ar ffurf wedi’i dad-adnabod), maint sgrin dyfais, math o ddyfais (dynodwyr dyfais unigryw), gwybodaeth am borwr, lleoliad daearyddol (gwlad yn unig), a’r dewis iaith a ddefnyddir i arddangos ein gwefan. Mae Hotjar yn storio’r wybodaeth hon ar ein rhan mewn proffil defnyddiwr ffug. Gwaherddir Hotjar dan gontract i werthu unrhyw o’r data a gesglir ar ein rhan.
I gael mwy o fanylion, ewch i adran ‘about Hotjar’ safle cymorth Hotjar.