care friends
does neb gwell na gofalwr maeth presennol i ledaenu’r gair, chi yw’r hysbyseb orau ar gyfer maethu
Rydych chi eisoes yn gwybod faint o foddhad mae maethu plentyn yn ei roi – nawr gallwch helpu eraill i gychwyn ar eu taith ac ennill gwobrau ar unwaith gyda'r ap Care Friends.

mae angen mwy o ofalwyr maeth fel chi ar Gymru — a gallwch chi helpu!
Gyda’r ap Care Friends, gallwch rannu gwybodaeth am faethu gyda’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymuned yn hawdd – ac (yn bwysig) yn gallu cynnwys dolen i’w chlicio i wneud yn siŵr eu bod yn cysylltu â’r tîm cywir. Bob tro y bydd rhywun rydych chi’n ei adnabod yn ymholi, byddwch yn derbyn £20 ar ffurf pwyntiau (1 pwynt = £1). Mae Ymweliad Cartref llwyddiannus yn darparu 40 pwynt ac, os bydd eich ffrind yn y pen draw yn cael ei gymeradwyo gan y Panel, fe gewch 240 pwynt arall fel diolch am helpu i ddod o hyd i gartrefi cariadus i blant mewn angen*

“Mae’r ap Care Friends mor hawdd i’w ddefnyddio. Roedd hi mor hawdd cynhyrchu pwyntiau ac fe wnes i rannu fy stori ar Facebook gyda fy ffrindiau sydd wedi helpu i ledaenu’r neges.” – Tim, Gofalwr Maeth

dechreuwch atgyfeirio heddiw
Y cam cyntaf yw cofrestru gyda’ch enw, e-bost a rhif ffôn, yna lawrlwytho’r ap Care Friends rhad ac am ddim a dechrau rhannu’r rhodd o faethu. Bob tro rydych chi’n rhannu hysbyseb maethu gallech newid bywyd plentyn arall – a chael bonws bach i’w wario ar rywbeth neis i’r teulu.
sut mae’n gweithio?
Mae ap Care Friends yn ei gwneud hi’n hawdd i ofalwyr maeth atgyfeirio eu ffrindiau, cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol a’u teulu i fod yn ofalwyr maeth hefyd. Dyma sut:
- Cofrestru – Gofynnwch i’ch tîm lleol am y ddolen gofrestru ar gyfer gofalwyr maeth gyda Maethu Cymru.
- Lawrlwytho’r ap – Gall gofalwyr maeth lawrlwytho’r ap Care Friends AM DDIM o’r App Store neu Google Play ar eu ffonau clyfar personol.
- Rhannu Cyfleoedd Maethu – Yn yr ap, gallwch weld cyfleoedd maethu sydd ar gael yn lleol ac mewn ardaloedd eraill ar hyn o bryd a’u rhannu gyda ffrindiau, teulu, neu unrhyw un arall trwy SMS, WhatsApp, Facebook, a mwy.
- Ennill Gwobrau – Ar gyfer pob ymholiad, Ymweliad Cartref llwyddiannus a chymeradwyaeth gan y Panel, fe gewch chi bwyntiau ar unwaith y gellir eu cyfnewid am wobrau ariannol.
Trwy ddefnyddio’r ap Care Friends, gall gofalwyr maeth chwarae rhan hanfodol wrth recriwtio gofalwyr newydd a helpu mwy o blant i ddod o hyd i gartrefi cariadus a sefydlog.
cwestiynau cyffredin
pwy all ddefnyddio’r ap Care Friends i atgyfeirio gofalwyr maeth?
Mae’r ap wedi’i gynllunio ar gyfer gofalwyr maeth presennol Awdurdodau Lleol yng Nghymru sydd eisiau atgyfeirio ffrindiau, teulu neu gydweithwyr i fod yn ofalwyr maeth gan mai ar lafar gwlad yw’r ffordd fwyaf effeithiol o recriwtio. Nid yw ar gael i ofalwyr maeth gydag Asiantaeth Maethu Annibynnol.
faint allaf ei dderbyn am bob atgyfeiriad?
Cyfanswm y wobr yw 500 pwynt (£500) ar gyfer pob ymholiad rydych chi’n ei gynhyrchu sy’n mynd ymlaen i fod yn ofalwr maeth am 3 mis o leiaf. Mae’r ap yn arddangos y pwyntiau a’r gwobrau sydd ar gael ar gyfer pob cam atgyfeirio llwyddiannus.
A oes angen i mi dalu treth ar y gwobrau rwy’n eu hennill?
Mae’n bosibl y bydd y gwobrau rydych chi’n eu hennill drwy ap Care Friends yn destun treth, yn dibynnu ar gyfanswm eich incwm. Rydym yn argymell eich bod yn trafod gyda Chyllid a Thollau EF neu gynghorydd ariannol i weld a oes angen datgan eich enillion.
a fydd y gwobrau rwy’n eu hennill yn effeithio ar fy lwfans maethu?
Na fyddant, ystyrir eich lwfans maethu yn daliad ar wahân. Fodd bynnag, os ydych yn derbyn budd-daliadau neu gredydau treth, byddai’n syniad da gwirio a fydd incwm ychwanegol yn effeithio arnynt.
beth sy’n digwydd os oes gan fy ffrind ddiddordeb mewn maethu ond nid yw’n barod i wneud cais eto?
Hyd yn oed os nad yw rhywun yn barod i wneud cais ar unwaith, fe all gofrestru ei ddiddordeb a dysgu mwy trwy siarad â thîm maethu ei Awdurdod Lleol. Byddwch chi’n dal i gael cydnabyddiaeth am ddechrau’r sgwrs a chodi ymwybyddiaeth.
sut mae’r ap yn sicrhau bod y wybodaeth rwy’n ei rhannu yn gywir?
Mae’r holl gynnwys yn yr ap wedi’i gymeradwyo, felly gallwch rannu cyfleoedd maethu yn hyderus gan wybod bod y wybodaeth yn gywir ac yn gyfredol.
a gaf i gyfeirio mwy nag un person?
Cewch! Po fwyaf o bobl rydych chi’n eu hatgyfeirio, y mwyaf o wobrau y gallwch eu hennill – ond rhannwch fanylion un person o’r teulu yn unig.
sut mae cychwyn arni?
Yn syml, cofrestrwch drwy sganio’r cod QR neu glicio ar y ddolen i greu cyfrif, yna lawrlwythwch ap Care Friends a dechreuwch rannu cyfleoedd maethu gyda’ch cymuned. Mae mor hawdd â hynny!
pwy sydd y tu ôl i Care Friends?
Sefydlwyd Care Friends yn wreiddiol i fynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan dros 90,000 o weithwyr gofal yn y DU ac Awstralia. Fe enillodd yr ap y wobr fawreddog, Gwobr y Brenin am Arloesedd, yn dilyn argymhelliad personol gan y Prif Weinidog i’r Brenin yn 2023. Mae’n eiddo’n rhannol i’r elusen Skills for Care, sef partner cyflenwi’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r ap yn gweithredu mewn partneriaeth â Maethu Cymru.
beth sy’n digwydd os byddaf yn atgyfeirio rhywun y tu allan i ardal fy Awdurdod Lleol?
Os yw’ch ffrind yn byw y tu allan i’ch ardal leol, ond yn byw yng Nghymru, gallwch rannu hysbyseb ar gyfer ei dîm lleol ac ennill pwyntiau o hyd.