
gallwch faethu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
Mae yna blant ledled Caerdydd a’r Fro ar hyn o bryd sy’n methu byw gyda’u teuluoedd biolegol. Pobl ifanc sydd angen rhywun i wrando arnynt. Credu ynddyn nhw. Plant sydd angen rhywun wrth eu hochr.
Efallai mai chi yw’r person hwn.
P’un a ydych chi’n briod neu’n sengl, p’un a ydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n ei rentu, beth bynnag ethnigrwydd ydych chi neu gyfeiriadedd rhywiol, trwy ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Caerdydd a Bro Morgannwg, gallwch helpu plant i aros yn y gymuned leol, eu cefnogi, eu harwain a’u meithrin.
Mae maethu yn un o’r pethau mwyaf gwerth chweil y gallwch ei wneud.
eisoes yn maethu?
Efallai eich bod eisoes yn maethu. Os nad ydych yn maethu gydag awdurdod lleol, mae trosglwyddo drosodd i ni yn syml iawn. Cysylltwch â ni a byddwn yn eich cefnogi i drosglwyddo i ni.
Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i ofalu am y plant hyn a rhoi cyfleoedd iddynt nad ydynt efallai wedi'u cael. Yr uchafbwynt i mi yw gweld eu hwynebau gyda’u hufen iâ cyntaf, y Nadolig cyntaf pan gawson nhw anrhegion a mynd â nhw i Disney. Mae ein gweithiwr cymdeithasol yn anhygoel hefyd; Does dim byd yn ormod o drafferth. Pan ddaw hi rownd mae fel cael ffrind rownd am baned.