Kinship.org

kinship.org
Y brif elusen gofal gan berthynas yng Nghymru a Lloegr. Ar gyfer gofalwyr sy’n berthnasau – ffrindiau neu deulu sy'n camu i adwy i fagu plentyn pan nad yw ei rieni'n gallu.
Kinship charitycanllaw i blant a phobl ifanc
Mae 140,000 o blant yn derbyn gofal gan berthynas yng Nghymru a Lloegr - dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Gofal gan berthynas yw pan fydd teulu a ffrindiau yn camu i’r adwy i fagu plentyn maen nhw'n ei adnabod. Mae'n golygu cariad a sefydlogrwydd ar adeg lle efallai na fydd eich rhieni geni yn gallu gofalu amdanoch chi. Mae’n cael ei alw’n bersonau cysylltiedig hefyd, oherwydd gallech fod yn byw gyda rhywun rydych chi'n ei adnabod yn barod, nad yw'n berthynas i chi.
Gallai gynnwys eich modryb neu ewythr, neiniau a theidiau, brawd neu chwaer, cymydog neu athro, unrhyw un o’ch cwmpas sy’n gallu rhoi’r gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi.
Efallai fydd pawb sy’n derbyn gofal gan berthynas yn byw gyda rhywun gwahanol ac am resymau gwahanol iawn, ond rydych chi i gyd yn haeddu derbyn gofal gyda chariad a pharch.
Fideos gan kinship.org ac oedolion ifanc a fagwyd drwy ofal gan berthynas, yn rhannu eu straeon a'u cefnogaeth i chi
cael eich magu drwy ofal gan berthynas
rhywbeth i fod yn falch ohono
Cymorth
Gallwch rannu’r wybodaeth hon gyda’r person sy’n gofalu amdanoch chi.
Y brif elusen gofal gan berthynas yng Nghymru a Lloegr. Ar gyfer gofalwyr sy’n berthnasau – ffrindiau neu deulu sy'n camu i adwy i fagu plentyn pan nad yw ei rieni'n gallu.
Kinship charity