blog

Nina Kemp Jones, fy nhaith fel gweithiwr cymdeithasol

O oedran ifanc, roedd gen i ddiddordeb brwd erioed mewn perthnasau dynol a’r seicoleg y tu ôl iddyn nhw. Gwnaeth y chwilfrydedd hwn, ynghyd ag ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, fy ngosod ar lwybr a fyddai’n arwain yn y pen draw at yrfa mewn gwaith cymdeithasol.

Dechreuodd fy nhaith 25 mlynedd yn ôl, yn 1999, pan gymhwysais fel gweithiwr cymdeithasol drwy’r Brifysgol Agored wrth weithio fel hyfforddai i awdurdod lleol.

Roeddwn i eisiau helpu pobl agored i niwed i wella eu bywydau trwy eu grymuso a’u hamddiffyn pan oedd angen hynny arnyn nhw.

Roeddwn i eisiau gwneud y byd yn lle gwell. Efallai mewn ffordd anymwybodol, chwaraeodd fy mhrofiadau fy hun o gael fy mabwysiadu ran, er nid mewn ffordd yr oeddwn yn ymwybodol ohoni ar y dechrau.

croesi’r trothwy: sut des i’n weithiwr cymdeithasol

Treuliais fy nyddiau cynnar ym Mlaenau Gwent, lle newidiais o fod yn hyfforddai i fod yn weithiwr cymdeithasol cymwys yn gweithio ym maes troseddau ieuenctid ac yna amddiffyn plant. Gwnaeth hynny roi mewnwelediad da iawn i mi o rôl gweithiwr cymdeithasol a’r hyn sy’n digwydd yn ddyddiol, gan gynnwys yr heriau a’r gwobrau.

Roedd y cyfnod hwn yn llawn dysgu a thwf sylweddol, wrth i mi lywio cymhlethdodau gwaith cymdeithasol. Roedd fy athrawes ymarfer yn un o’m hysbrydoliaethau mwyaf, yr oedd ganddi gyfoeth o wybodaeth ac egni gwych. Cafodd ei hymroddiad i weithio’n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd argraff barhaol arnaf.

anfanteision bod yn weithiwr cymdeithasol

Roedd cydbwyso gwaith ac astudiaethau yn heriol, yn enwedig gyda phlentyn ifanc gartref. Dim ond tair neu bedair oed oedd fy merch pan wnes i ddechrau fy hyfforddiant gwaith cymdeithasol. Ychwanegodd dod yn fam haen arall at fy nealltwriaeth o amddiffyn a phwysigrwydd amgylchedd diogel.

Rydw i’n cofio, pan wnes i gymhwyso gyntaf, cael fy llwyth achos fy hun a gwneud pethau am y tro cyntaf. Ymweliadau amddiffyn plant cyntaf, adolygiad cyntaf, cynhadledd amddiffyn plant gyntaf, adroddiad cyntaf ar gyfer y llys, a theimlo ‘rydw i fod i wybod beth rydw i’n ei wneud yma!’.

Ond roeddwn i’n awyddus i barhau gyda fy natblygiad proffesiynol fy hun, i ymchwilio, i ddarganfod pethau, ac i ennill y profiad amhrisiadwy yr ydych yn ei gael o weithio gyda theuluoedd, plant a phobl ifanc.


Er gwaethaf yr heriau, roeddwn i’n benderfynol o ddilyn gyrfa nad oedd yn swydd yn unig, ond yn alwedigaeth, ac i gael effaith gadarnhaol. Diolch byth, roedd gen i dîm cefnogol o’m cwmpas yn cynnig arweiniad, rheolaeth gref ac arweinyddiaeth.

ffordd llawn treialon

Wrth i mi symud ymlaen yn fy ngyrfa, roeddwn i’n wynebu nifer o dreialon. O weithio ym maes amddiffyn plant i gynnal asesiadau rhianta a risg gyda Gweithredu dros Blant, cyflwynodd pob rôl ei heriau ei hun.

Rydw i’n cofio’n glir yr effaith emosiynol negyddol o ymdrin â theuluoedd mewn argyfwng a phwysigrwydd hunanofal i gynnal fy lles fy hun.

Rydw i dal i gefnogi hunanofal yn fawr nawr.

Rhai o’r adegau anoddaf oedd y rhai pan nad oedd y canlyniadau i blant fel yr oeddwn wedi gobeithio. Roedd y profiadau hyn yn anodd yn emosiynol ond hefyd gwnaethon nhw atgyfnerthu fy ymrwymiad i eirioli dros fudd gorau’r plant.

Y tu hwnt i ymdrin ag ochr emosiynol pethau, agwedd heriol arall ar waith cymdeithasol yw ymdrin â gofynion gweinyddol y swydd. Mae’r gwaith papur, y dyddiadau llys a’r angen i fod yn hyblyg yn bwysau cyson mae’n rhaid eu rheoli.

manteision bod yn weithiwr cymdeithasol

Trwy gydol fy nhaith, gwnes i gwrdd â llawer o bobl a wnaeth fy ysbrydoli a’m tywys. Dyna pam roeddwn i wrth fy modd yn bod yn weithiwr cymdeithasol, ac erbyn hyn mae gen i lawer o straeon am blant, pobl ifanc, a theuluoedd a gafodd effaith gadarnhaol ar fy mywyd a’m calon.

Rydw i wedi cwrdd â gofalwyr maeth gwych sy’n gwneud mwy na’r gofyn i’r plant. Maen nhw wedi cadw mewn cysylltiad â phlant, hyd yn oed ar ôl iddyn nhw adael eu cartref, cerdded gyda phlant at yr allor, ac maen nhw bellach fel mam-guod a thad-cuod i blant y plant.

Rydw i wedi cwrdd â gofalwyr maeth sydd wedi cefnogi plentyn drwy’r tew a’r tenau bob amser.

pobl ifanc yn eu harddegau

Roedd gweithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau, yn arbennig, yn uchafbwynt.

Roedd pobl ifanc yn eu harddegau bob amser yn arfer taro tant gyda mi; dadansoddi’r bywyd yr oedden nhw wedi’i gael a pham oedden nhw lle oedden nhw ar yr adeg honno. Ceisio eu helpu a’u grymuso i helpu eu hunain hefyd.

Rydw i bob amser yn teimlo bod enw drwg gan bobl ifanc yn eu harddegau. Maen nhw wedi cael trafferthion, maen nhw wedi cael problemau. Mae cymaint y gallwn ni ei gynnig i bobl ifanc yn eu harddegau ac y gallen nhw ei gynnig i chi hefyd. Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn ddoniol, maen nhw’n hoffi helpu ac yn aml dydyn nhw ddim wedi cael y profiadau hyn. Maen nhw angen y profiadau hyn.

Gyda rhwydwaith cymorth o’u cwmpas, mae ganddyn nhw gyfle i symud ymlaen yn eu bywydau mewn ffordd gadarnhaol. Maen nhw’n gallu cael perthnasoedd cadarnhaol, gyda’u plant eu hunain hefyd, er mwyn peidio ag ailadrodd y cylchoedd hynny. Pe na bai rhywun yn eu helpu bryd hynny, gallen nhw fynd i lawr llwybr gwahanol iawn.

Grŵp arall rydw i wedi gweithio gydag ef yw ffoaduriaid a cheiswyr lloches ifanc. Maen nhw’n anhygoel. Gyda phopeth maen nhw wedi’i brofi ar eu taith i’r wlad hon, mae ganddyn nhw angerdd am addysg, maen nhw’n aml yn caru pêl-droed, ac maen nhw wedi dangos caredigrwydd tuag at eraill. Mae eu gweld yn goresgyn eu heriau a symud tuag at ddyfodol disgleiriach yn hynod o foddhaol.

y ffordd yn ôl: beth ydw i’n ei wneud nawr?

Yn fy rôl bresennol, fel Rheolwr Datblygu Rhanbarthol gyda Maethu Cymru, rydw i’n parhau i ymdrechu i sicrhau gwell canlyniadau i blant mewn gofal maeth.

Yr her fwyaf o hyd yw prinder gofalwyr maeth, ond rydw i wedi ymrwymo i weithio mewn ffyrdd arloesol gyda’r gymuned a chydweithwyr i recriwtio mwy o ofalwyr maeth.

Wrth gwrdd ag un gofalwr maeth yn ddiweddar, a oedd yn gofalu am ferch yn ei harddegau, cefais fy atgoffa bod y pariad iawn yn allweddol. Dyna sydd ganddyn nhw. Byddan nhw’n eistedd ac yn gwylio ffilm gyda’i gilydd. Maen nhw’n siarad. Maen nhw’n coginio. Mae hi mewn addysg. Maen nhw’n cyd-dynnu’n wych.

Y nod yw cynnig amgylchedd sefydlog a maethlon lle gall plant ffynnu a chyflawni eu potensial llawn. Ond heb gronfa ddigon mawr o ofalwyr maeth, sut ydych chi’n mynd i sicrhau bod gan bob plentyn unigol y pariad iawn hwnnw?

Rhagor yma: Sut mae dod yn ofalwr maeth?

Gan fyfyrio ar fy nhaith, mae cynifer o straeon am y plant a’r teuluoedd rydw i wedi gweithio gyda nhw sy’n parhau i’m hysbrydoli ac ysgogi fy angerdd am gyfiawnder cymdeithasol.

Heddiw, fel rhan o Maethu Cymru, rydw i’n ymdrechu i sicrhau bod pob plentyn mewn gofal maeth a phob gofalwr maeth yn cael y cymorth gorau posib.

Bydd plant sydd angen bod mewn gofal maeth bob amser. Mae’n ymwneud â gwneud hynny cystal ag y gallwn i blant, i bobl ifanc, ac i’w gofalwyr maeth.

Rydw i’n credu bod gennym gyfle go iawn pan fo plant mewn amgylchedd diogel, sefydlog a meithringar i allu sicrhau newid ac i ddyfodol y person ifanc hwnnw fod yn wahanol. Trwy weithio gyda gofalwyr maeth ymroddedig sy’n wydn, yn cael cefnogaeth dda, yn cael cyfleoedd dysgu a datblygu, a thrwy gefnogi arferion sy’n seiliedig ar drawma, gallwn greu dyfodol disgleiriach i’r plant hyn.

Gall Maethu Cymru, fel cymuned, fod â llais wrth wella bywydau a chanlyniadau plant sy’n dod i ofal maeth.


Wedi’r cyfan, fel y canodd Whitney Houston unwaith, ‘plant yw ein dyfodol’.

beth nesaf?

Mae fy nhaith ymhell o fod drosodd, rydw i’n falch o’r effaith rydw i wedi’i chael ac yn parhau’n ymrwymedig i’r gwaith hanfodol hwn.

Os hoffech chi ddysgu mwy am faethu neu sut i ddechrau gyrfa ym maes gofal cymdeithasol, rydw i bob amser yn hapus i helpu. Neu, dewch o hyd i’ch tîm awdurdod lleol a chysylltwch ag ef i gael sgwrs.

Close-up of Nina

awdur yr erthygl

Nina Kemp Jones

Nina ydw i a fi yw Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Maethu Cymru.

proffil awdur

Story Time

Stories From Our Carers