stori

Tayler

Fe gwrddon ni â Tayler ar gyfer Diwrnod Gofal eleni. Mae Tayler yn berson ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ac mae ganddi bodlediad ei hun, Tay Does Life. Felly, hi yw’r un sy’n gofyn y cwestiynau fel arfer, ond roeddem yn awyddus i’w holi am ei phrofiad o fod mewn gofal a’i hawydd i gael addysg.

Oeddet ti’n hoffi’r ysgol fel plentyn?

Rwy’ wastad wedi teimlo bod yna gamsyniad nad yw plant maeth eisiau dysgu. Mae’n bosib bod hyn yn deillio o brofiadau go iawn neu Tracey Beaker. 

I fi, mae hyn yn bell o’r gwir!

Pan roeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i’n teimlo’n ddiogel. Roeddwn i’n gallu dysgu a chwarae yno. Roeddwn i’n teimlo’n gyffrous iawn am fynd i’r ysgol.

Roeddwn i’n dwlu ar addysg ers yn ifanc oherwydd roeddwn i, yn syml iawn, yn casáu bod gartref. Er, parhaodd y cariad hwn at addysg yr holl ffordd drwodd i fy arddegau hyd yn oed pan oedd gen i ofalwyr maeth gofalgar a chariadus.

Roedd fy athro cerdd yn yr ysgol uwchradd wir yn gwneud i mi deimlo’n ddiogel. Byddech chi naill ai’n dod o hyd i fi yn yr ystafell gerdd neu yn yr adran ddrama yn yr ysgol, dyna lle roeddwn i’n teimlo’n hapusach, ac yn dal i fod.

Rwy’n chwarae’r clarinet mewn bandiau hyd yn oed nawr ac mae theatr gerddorol yn rhan enfawr o fy mhersonoliaeth a’m mynegiant fy hun.

Roeddwn i wrth fy modd gydag addysg ac roeddwn i’n teimlo ei bod wedi talu ffordd. Fe wnes i lwyddo yn fy holl arholiadau TGAU er gwaethaf symud sawl gwaith drwy gydol y cyfnod ac eto, fe wnes i lwyddo yn fy holl arholiadau Safon Uwch er fy mod wedi symud sawl gwaith yn fwy. Uchafbwynt arall i mi oedd ennill y gadair yn yr Eisteddfod ysgol ar ôl dod yn fuddugol yn y gystadleuaeth ysgrifennu, a arweiniodd at ennill digon o bwyntiau i fy nhîm ddod yn fuddugol! 

Yn fyr, roedd yr ysgol yn achubiaeth i fi. 

Cwrdd â rhywun fel fi

Pan oeddwn i’n 12 oed, mi ddes i’n aelod o elusen yng Nghymru ar gyfer plant mewn gofal, o’r enw Voices From Care Cymru (VFCC yn fyr). 

Yn VFCC, cwrddais i â rhywun a newidiodd fy mywyd am byth, James.

Roedd e ychydig yn hŷn na fi a soniodd e am sut yr oedd e’n bwriadu mynd i’r brifysgol. I fi, roedd fel petai rhywun wedi troi’r switsh yn fy mhen. 

Hyd at y pwynt hwnnw, doeddwn i byth wedi ystyried y gallai pobl ifanc mewn gofal maeth fynd i’r brifysgol. Roeddwn i’n meddwl mai lle i’r rhai mwyaf academaidd yn unig oedd e, i’r rheiny â’r holl arian a chefnogaeth yn y byd. 

Ar ôl y foment hon, roeddwn i’n gwybod beth roeddwn i’n gweithio tuag ato.

Sylweddolais i yr oeddwn i eisiau hyn yn fwy na dim byd arall yn y byd.

Rwy’n cofio agor fy nghanlyniadau Safon Uwch gan wybod mai’r papur A4 hwn oedd yr unig beth rhyngof i a fy mreuddwydion o fynd i’r Brifysgol, ac fe lwyddais i!

Ges i lwyddiant ysgubol yn fy arholiadau Safon Uwch. Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n mynd i hedfan, a hedfan yn uchel, ac fe wnes i!

Fy nghyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth

Wrth gwrs, fel pawb, roedd gen i amheuon ynglŷn ag a oeddwn i’n ddigon ‘deallus’ neu ‘academaidd’ i fynd i’r brifysgol.

Ond roeddwn i’n gwybod bod gen i gymaint o hawl i fod yn y Brifysgol â’r person nesaf. Er gwaethaf popeth, mi ddes i’n un o’r 6%.

“Dim ond 6% o Bobl sy’n Gadael Gofal sy’n mynd i’r Brifysgol” ac mi ddes i’n un o’r ystadegyn hwnnw.

Cefais gefnogaeth ariannol gan y brifysgol ac fe ddes i ymlaen yn dda gydag un o fy narlithwyr, Kate. Helpodd fi pan oeddwn i’n cael trafferth gyda fy ngwaith academaidd. Roeddwn mor weithgar wrth siarad â’m darlithwyr am yr hyn y gallwn ei wneud i wella. 

Roeddwn i’n gwybod nad oedd gen i rieni i ddibynnu arnynt. 

Felly, roedd rhaid i fi weithio’n galed.

Cuddio’r ochr gofal i fi

Pan es i i’r brifysgol am y tro cyntaf, roeddwn i’n bwriadu osgoi sôn am fy nghefndir gofal. Roedd hi’n ddechrau newydd a doeddwn i ddim eisiau difetha unrhyw beth trwy ddweud wrth unrhyw un yr oeddwn i’n ‘blentyn gofal’.

Rwy’n gwybod ei fod yn swnio’n wirion ond roeddwn i’n teimlo embaras am dyfu fyny yn y system ofal rhag ofn i bobl wneud camsyniadau. 

Roeddwn i’n hyfforddi ar gyfer Marathon Llundain pan ddes i i’r brifysgol. Roeddwn i’n codi arian i’r NSPCC, sy’n elusen i blant, yn atal camdriniaeth ac yn helpu’r rhai sydd wedi eu heffeithio i wella.

Wnes i ddim rhannu gyda neb pam fy mod i wedi dewis yr elusen honno.

Fe wnes i gyfarfod â’m partner yn eithaf cynnar yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol, ac ni soniais am fy ngorffennol na fy mod wedi cael fy magu yn y system ofal am beth amser. Pan gododd y pwnc, roedd e mor hyfryd a dywedodd “pam fyddai hynny’n newid unrhyw beth?”. 

Y foment honno sylweddolais i fod yna bobl sy’n fy ngharu, am fod yn fi fy hun. 

Ar ôl tua chwe mis, dechreuais wisgo fy mathodyn gofal maeth yn falch. Gallaf ddeall pam mae rhai pobl yn dewis ei guddio, ond roeddwn i’n teimlo y gallwn ddweud wrth y byd nawr. Roeddwn i’n teimlo’n hollol gyfforddus gyda fy hunaniaeth. 

Wnes i ddim dewis y bywyd yma, ond galla i ddewis lle dwi’n mynd o’r fan yma.

Pan oeddwn i yn y brifysgol, defnyddiais i fy mhrofiad bywyd yn fy mhrosiectau. Fe wnes i raglen ddogfen ar y ffaith mai dim ond ‘6% o’r rhai sy’n gadael gofal sy’n mynd i’r brifysgol’. Fe wnes i adael y brifysgol gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. A dyna oedd y peth gorau oll i fi!

Channel 4 a bywyd wedyn

Roeddwn i’n gwybod nad oedd mynd yn ôl i fyw gyda fy rhieni yn opsiwn i fi. Felly, ar ôl mynd i’r brifysgol arhosais i yn Aberystwyth yn gweithio dwy swydd caffi. Dydw i erioed wedi stopio breuddwydio ac yn y pen draw ges i le ar Gynllun Hyfforddiant Cynhyrchu Channel 4.

Cofrestrais fel Ymchwilydd dan Hyfforddiant yn Channel 4. Cwrddais i â chymaint o bobl anhygoel ac fe wnes i wir fwynhau fy amser ar y cynllun. Rwy’n cofio ymweld â swyddfeydd Channel 4 yn Llundain a Leeds, ac roeddwn i’n teimlo fel fy mod i wedi llwyddo mewn bywyd.

Yna fe wynebais i’r byd mawr – beth wnaf i gyda bywyd nawr?

Ar ôl gwneud cais am gannoedd o swyddi (roedd hi’n teimlo fel cymaint â hynny ta beth) ym myd y teledu, ches i ddim lwc ac roeddwn i allan o waith am 6 mis. Roedd hi’n gyfnod anodd iawn ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd y rhan fwyaf o ddiwrnodau. Roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i fi ail-werthuso fy mywyd a darganfod beth arall y gallwn ei wneud.

Fe wnes i gais am swydd yn gweithio mewn ysgol gynradd yn helpu plant sy’n ei chael hi’n anodd ac yn derbyn gofal drwy addysg. Nid dyna beth oeddwn i wedi disgwyl ei wneud, ond rywsut mae’n teimlo’n iawn. Mae’n teimlo fel cylch llawn. 

Rwy’n symud i ardal newydd y gallaf ei galw’n gartref o’r diwedd gyda’r un dyn o’m blwyddyn gyntaf yn y brifysgol – yr oeddwn yn ofni sôn wrtho fy mod wedi fy magu yn y system ofal. 

Rydyn ni wedi bod gyda’n gilydd ers bron i bum mlynedd bellach. Rwy’n dechrau swydd newydd, a does dim terfyn i’r hyn y gallaf ei gyflawni. Mae bywyd yn newid, ac rydw i yma ar ei gyfer.

Fy Mhodlediad – Tay Does Life

Roedd gen i bob amser yr awydd i ddechrau fy mhodlediad fy hun, ond roeddwn i’n aml yn ei osgoi oherwydd doeddwn i ddim eisiau cael fy marnu. Ond lansiais i Tay Does Life o’r diwedd pan roeddwn i’n 21 oed.

Mae rhai penodau’n dilyn fy nhaith fy hun o ofal maeth hyd at fy mhrofiadau yn y brifysgol a bywyd ar ôl hynny. Tra bod penodau eraill yn dilyn taith unigolion ysbrydoledig eraill. 

Rwy’n cofio recordio fy mhennod gyntaf Care Don’t Stare! a’i dileu dair gwaith. Dydw i ddim yn gwybod o le ddaeth y dewrder yn y diwedd, ond penderfynais i fynd amdani a’i rhannu ar-lein ac mae’r ymateb wedi bod yn enfawr. Penderfynais ryddhau’r bennod ar Ddiwrnod Gofal y llynedd, diwrnod enfawr i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, ond nawr mae’n arbennig iawn gan ei fod yn nodi diwrnod yn fy mywyd na fyddaf byth yn ei anghofio. 

Mae’r podlediad hwn wedi fy newid, rwyf wedi gallu ymgysylltu â chymaint o bobl anhygoel ledled y wlad, gwneud ffrindiau a fydd, gobeithio, yn para am oes a chreu cymuned lle mae iechyd meddwl yn ganolbwynt i bob sgwrs.

Does gen i ddim cywilydd o fod yn rhywun sydd wedi gadael gofal. Roeddwn i’n meddwl y byddai pobl yn fy marnu, ond nid fy mai i oedd fy mod mewn gofal, dyna oedd fy llwybr bywyd. Nawr rwy’n siarad gydag unrhyw un a phawb am fod mewn gofal – achos dyw e ddim yn rhywbeth i fod â chywilydd ohono.  Rwy’n hoffi meddwl bod rhannu fy nhaith yn helpu i wneud gwahaniaeth. 

Fy nyfodol

Gall y dyfodol i rai pobl fod yn frawychus a chodi ofn arnynt, ond rwy’n gwybod fy mod am i’r dyfodol fod yn lle diogel i blant ledled y byd. Fy nymuniad yw bod ar flaen y gad yn y newid hwn.

Trwy barhau i rannu fy nhaith a siarad ag eraill mewn sefyllfa debyg, gobeithio y byddwn yn creu newid. Fel y dywedais o’r blaen, dydw i byth yn stopio breuddwydio.

Does gen i ddim syniad ble mae bywyd yn mynd i fynd â fi, ond rwy’n gwybod na fydd yn ddiflas.

Rydyn ni bob amser yn cael ein hysbrydoli gan gred a brwdfrydedd Tayler. Rydyn ni’n gwybod y bydd pethau da yn dod ei ffordd. Tiwniwch i mewn i’r podlediad Tay Does Life ar Spotify, Apple Podcast a Google Podcast.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn