stori

Abi-Marie

Fy enw i yw Abi-Marie.

Des i’r system ofal pan o’n i’n 6 oed, gyda fy mrawd a’m chwaer.

wedi mynd i ofal

Dw i’n cofio camu drwy’r drws ac roedd hi’n frawychus.  Pan wyt ti mor fach â hynny, mae mynd i rywle newydd yn frawychus. Mae’n ofod anhysbys.

Ond roedd fy ngofalwyr maeth yn dda iawn, yn gyson ac yn gariadus, o’r cychwyn cyntaf.

Fe wnaethon nhw addasu i’r hyn roedden ni ei angen fel plant. Ddim yn rhy llym nac anhyblyg ond roedden nhw’n dysgu ffiniau i ni.

Symudodd fy mrawd a’m chwaer ymlaen, i ofalwyr maeth eraill ac i fabwysiadu, ond fe wnaeth fy ngofalwyr maeth fy nghefnogi i gadw mewn cysylltiad â’m brawd.

Mae fy mrawd yn dal i ymweld â fi nawr. Mae’n gwneud yn dda ac mae ganddo swydd dda. Mae gennym gysylltiad da oherwydd anogaeth gan fy ngofalwyr maeth.

ni wnaeth fy ngofalwyr maeth erioed roi’r gorau iddi

Fe gawson ni ambell ffrae, ond mae hyn yn digwydd ym mhob teulu.

Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd gydag emosiynau a deall cariad diamod. Felly dyma nhw’n prynu dwy iâr i mi eu magu; roedden nhw yn fy ystafell wely fel cywion. Pan oedden nhw wedi tyfu ac yn yr ardd, dyma nhw’n gofyn i fi… pa un y byddwn i’n ei bwyta?! A doeddwn i ddim yn gallu dewis rhyngddyn nhw. Sylweddolais i taw cariad diamod oedd hyn.

Ni wnaeth fy ngofalwyr maeth erioed roi’r gorau iddi. Roedden nhw’n brwydro’n galed iawn i fi gael cwnsela yn fy arddegau, a helpodd i weithio drwy lu o broblemau i fi a gwella fy ngwydnwch.

roedd gan fy ngofalwyr maeth ffydd ynof fi

Fe wnes i roi’r gorau i wneud fy arholiadau Safon Uwch yn y 6ed dosbarth, achos nad o’n hapus o gwbl.

Roedd gan fy ngofalwyr maeth ffydd y byddwn yn dod o hyd i’r ffordd iawn fy hun, gan fy annog i fynd i’r coleg a chefnogi fy newid i gyfeiriad fy ngyrfa pan es i’r brifysgol.

Dw i bellach wedi cwblhau fy ngradd israddedig mewn eiriolaeth, ac roedden nhw yno bob cam o’r ffordd. 

drwy’r amseroedd da a drwg

Rydym wedi cael ein ffraeon a’n brwydrau. Roedden ni’n wynebu llawer o broblemau, gyda’n gilydd.

Yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol, aeth bywyd â’i ben i lawr.

Roedd gofalwr seibiant, yr oeddem yn ystyried fel aelod o’r teulu, yn sâl ac yn anffodus bu farw. Roeddwn i’n methu canolbwyntio ar astudio.

Byddwn wedi tynnu’n ôl o’r cwrs yn gyfan gwbl oni bai am fy ngofalwyr maeth.

Drwy gydol Covid-19 roeddwn i’n cael trafferth sylweddol gyda fy iechyd meddwl. Dechreuodd y cyfnod clo ddyddiau ar ôl fy mhriodas, a chollais i fy nhrywydd.

Fe wnaethon nhw fy nghefnogi drwy bob cam o’r adferiad a rhoi ‘stŵr’ cariadus i fi am beidio â dweud wrthyn nhw am fy heriau yn gynt.

codi llais am blant eraill mewn gofal

Dw i wedi cael llawer o gyfleoedd dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn rhan o wella’r system ofal i blant a phobl ifanc eraill. Oherwydd y ffordd dw i wedi cael fy magu, maen nhw wedi rhoi cyfrwng i fi siarad.

Rwyf bellach yn eiriolwr cryf dros hawliau plant sy’n derbyn gofal ac rwy’n gweithio’n galed o amgylch fy nghwrs meistr a’m swydd i gymryd rhan weithredol mewn diwygio a newid.

Y peth mwyaf y gwnaethon nhw fy nysgu i oedd codi llais os yw pethau’n anghywir a’u taclo wyneb yn wyneb, a pheidio byth â chuddio rhag problemau.

Trwy ddarganfod ac astudio eiriolaeth, gallaf nawr fod y person roeddwn i eisiau bod pan oeddwn i’n iau. Dw i’n gallu defnyddio fy mhrofiad i godi llais dros blant eraill sy’n derbyn gofal.

cwrdd â phobl sydd â digon o ddiddordeb a charedigrwydd i gefnogi bywydau plant a phobl ifanc

Dw i bellach yn eistedd ar banel llety â chymorth i’r un awdurdod lleol yr oedd fy ngofalwyr maeth yn maethu gydag ef pan oedden nhw’n gofalu amdana i.

Pan fyddaf yn cwrdd ag ymgeiswyr newydd, rwy’n gwrando am 4 peth:

  1. Allwch chi fod yn hyblyg neu a oes gennych chi safbwynt anhyblyg fel “Dw i eisiau i fywyd fod fel hyn”?
  2. Oes gennych chi frwdfrydedd dros ofalu? Allwch chi ddim trwsio’r byd, ond a fyddwch chi yno?
  3. Ydych chi’n gefnogol? Fyddwch chi’n gynhaliaeth i rywun hyd yn oed ymhen deng mlynedd.
  4. A fyddwch chi’n gwrando arnyn nhw, nid yn siarad ar eu traws, ond gwrando a canolbwyntio’n unig ar yr hyn mae ei eisiau neu ei angen, nid yr hyn rydych chi ei eisiau iddo/iddi?

Mae’n agoriad llygaid cwrdd â llu o bobl sydd â digon o ddiddordeb a charedigrwydd i gefnogi’r gwaith o wella bywydau plant a phobl ifanc. Mae’n hanfodol eu bod nhw’n deall pa mor niweidiol y gall fod i wneud yr hyn maen nhw’n meddwl sydd orau iddyn nhw, yn hytrach na gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar y plentyn ac yna meddwl am y camau nesaf.

Plant sy’n derbyn gofal yw’r arbenigwyr gorau ar eu bywydau, nid llyfrau na gwaith papur.

gallwn i fod yno i’m gofalwyr maeth

Aeth fy ngofalwyr maeth ymlaen i ofalu am fwy o blant ar fy ôl i. Bu person ifanc arall yn byw gyda nhw am 3 blynedd. Roeddwn i’n ei chael hi’n heriol ar y dechrau dod o hyd i’r ddeinameg newydd o fewn y cartref.

Fodd bynnag, yn fuan roedd yn hyfryd y gallwn wedyn fod yno i’m gofalwyr maeth. Byddai’r person ifanc yn siarad â fi am bethau, na fydden nhw’n dweud wrth y gofalwr.

Roedden nhw’n gwybod fy mod i wedi bod yno. Roeddwn i wedi byw yno.

Roedd rhywbeth dibwys i’r gofalwyr maeth yn annifyr iawn i’r plentyn maeth a gallwn godi ar hyn a lle bo hynny’n briodol, awgrymu ffyrdd o’i wella.

Roeddwn i’n gallu gweld bod pethau’n mynd o chwith, nad oedd y ffit yn iawn, ac yn eu cefnogi nhw pan symudodd y person ifanc ymlaen.

aros mewn un lle

Dw i’n ymwybodol iawn fy mod i’n lwcus i gael aros gydag un gofalwr maeth yr holl amser roeddwn i mewn gofal.

Ro’n i’n byw yno o 6 i 18 oed, ac mae hynny’n sylfaenol i bwy ydw i.

Er gwaethaf popeth, mae gen i deulu y gallaf alw arno.

Er i fi ail-gysylltu â’m tad biolegol pan o’n i’n 18 oed ac rydyn ni’n agos iawn, fy nhad maeth yw fy nhad. Y ffordd dw i’n ei weld e yw fy mod i’n lwcus i fod â dau dad. Eu merched yw fy chwiorydd. Dyna fy mywyd ac mae hynny’n normal i fi. Unrhyw broblemau dw i wedi’u cael, neu os nad ydw i’n galw am ychydig, maen nhw’n gwneud yn siŵr fy mod i’n iawn. Mae gen i’r sylfaen deuluol honno. Hyd yn oed pan fo pethau’n wael, neu dw i wedi cael diwrnod gwael yn y gwaith, y cyfan dwi’n gorfod ei wneud yw codi’r ffôn a bydd gen i rywun i siarad ag ef am y peth.

Ar ddiwedd y dydd, beth bynnag a ddaw, mae angen y sylfaen gymorth honno ar bawb.

Dyw rhai plant sy’n cael eu symud droeon ddim â’r sylfaen deuluol honno a dyw pobl ddim yn sylweddoli pa mor niweidiol y gall hynny fod. Gallai’r hyn sy’n ymddangos yn ddibwys i ofalwr maeth effeithio ar blentyn sy’n derbyn gofal am flynyddoedd i ddod.

dyfodol gwell

Dw i bellach yn 25 oed, wedi priodi, yn gwneud fy nghwrs meistr a dw i mewn gwirionedd yn mynd i weld fy ngofalwyr maeth yn ddiweddarach heddiw.  Er i fi symud allan ar ôl i fi droi’n 18 oed, maen nhw’n dal i gadw mewn cysylltiad, ac rydyn ni’n ymweld â’n gilydd yn aml. Maen nhw wastad wedi bod yna i siarad â nhw.

Maen nhw wedi ymddeol o faethu erbyn hyn, ond nhw yw fy nheulu ac rwy’n eu caru’n fawr.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn