
Gallwch chi faethu yng ngogledd Cymru
Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu plant yn eich cymuned leol sydd angen rhywun i gredu ynddynt.
Rhywun i wrando arnyn nhw. Rhywun i’w caru.
Yn union fel nad oes dau blentyn yr un fath, nid oes unrhyw ddau ofalwr maeth yr un fath chwaith. Daw teuluoedd maeth o bob math o gefndiroedd gwahanol.
O’r Benllŷn i Brestatyn, mae gan Maethu Cymru dimau ymroddedig ar draws Gogledd Cymru.
sgwrs am faethu?
Cliciwch ar eich awdurdod lleol isod, llenwch y ffurflen syml a gyda’n gilydd, gallwn eich helpu i benderfynu a yw maethu’n iawn i chi a’ch teulu.
eisoes yn maethu?
Efallai eich bod eisoes yn maethu yng Ngogledd Cymru. Os nad ydych yn maethu gydag awdurdod lleol, mae trosglwyddo i ni yn syml iawn. Cysylltwch a byddwn yn eich cefnogi i drosglwyddo i ni.
Yr hyn rydyn ni’n gobeithio yw ein bod ni wedi rhoi, ac yn parhau i roi, teulu iddyn nhw.