blog

rhan o’r teulu : beth yw maethu hirdymor?

Pan fydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl am faethu, maen nhw’n dychmygu llawer o blant yn mynd a dod. Yn aml mae straeon am ofalwyr maeth yn y papurau lleol yn cynnwys pennawd yn dweud FAINT o blant maen nhw wedi eu maethu dros y blynyddoedd.

Ond pan fyddwn yn siarad â phobl am faethu, mae’r syniad o fynd yn “rhy gysylltiedig” a “gadael i blant fynd” yn aml yn ddigon i’w troi yn erbyn y syniad.

Mewn arolwg diweddar gan Maethu Cymru ym mis Mehefin 2024, dywedodd 24% o’r bobl a holwyd mai dyma’r ail reswm uchaf sy’n eu hatal rhag holi am faethu. Yn ail yn unig i’r ymarferoldeb o beidio bod ag ystafell sbâr a lle yn eu cartref.

Ond mae yna ffordd arall o faethu.

Maethu heb y ffarwelio.

Yn hytrach na maethu llawer o blant am gyfnod byr, gallech roi teulu i 1, 2 neu efallai 4 o blant. Mae hyn yr un mor werthfawr ac angenrheidiol.

Mae’n ymwneud â rhoi eich ymrwymiad i blentyn, gan addo y byddwch yno ar eu cyfer yn yr hirdymor, trwy’r amseroedd anodd, bod ar eu hochr ac yn eu cornel nes eu bod yn oedolyn neu hyd yn oed yn hwy.

Eu hystyried yn rhan o’ch teulu, fel eu bod yn gallu dod gartref o’r Brifysgol ar gyfer y Nadolig. Bod yn deulu iddyn nhw, hyd yn oed os yw’r elfennau cyfreithiol yn wahanol i fabwysiadu.

beth yw maethu hirdymor?

Mae maethu hirdymor, a elwir hefyd yn ofal maeth sefydlog, yn golygu gofalu am blentyn am nifer o flynyddoedd. Mae hyn fel arfer yn digwydd pan na all plentyn neu berson ifanc mewn gofal ddychwelyd at ei deulu biolegol ac nad yw mabwysiadu’n bosibl neu nid dyna’r peth iawn i’r plentyn.

Mae gofal maeth hirdymor yn golygu bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei fagu gan un teulu maeth. Maen nhw’n cael cysondeb ac ymdeimlad o berthyn i deulu gyda chyfeiriad cartref sefydlog ac addysg mewn ysgol.

Mae hyn fel arfer yn digwydd ar ôl i’r plentyn eisoes fod mewn gofal maeth tymor byr. Ein nod yn y pen draw yw i deuluoedd gael eu haduno. Fodd bynnag, mewn achosion lle nad yw hyn wedi bod yn bosibl am unrhyw reswm, bydd ateb mwy hirdymor yn cael ei ystyried.

a fyddaf yn cael cwrdd â’r plentyn yn gyntaf?

Weithiau bydd y gofalwr maeth presennol yn dod yn ofalwr hirdymor. Neu os nad yw eu gofalwyr maeth presennol yn gallu darparu’r sefydlogrwydd neu’r gefnogaeth hirdymor sydd eu hangen ar y plentyn, byddant yn symud i ofalwr a all fod yno iddo nes eu bod wedi tyfu i fyny. A gellir cynllunio cyflwyniad graddol i’w gofalwr maeth hirdymor.

Felly os ydych wedi mynegi diddordeb mewn maethu hirdymor, byddwn yn cysylltu â chi os ydyn ni’n credu eich bod yn bariad hirdymor da i blentyn. Byddwch yn derbyn llawer o wybodaeth amdanyn nhw gan eu gofalwyr maeth presennol ac yn cael cwrdd â’r plant yn gyntaf. Rydyn ni hyd yn oed wedi gweld achosion lle mae’r gofalwr maeth tymor byr (yn eu 70au eu hunain efallai) yn aros ym mywydau’r plant fel math o fam-gu a thad-cu.

pa mor hir mae lleoliad gofal maeth hirdymor yn parhau?

Os byddwch yn penderfynu maethu plentyn yn yr hirdymor, mae’n debygol y bydd yn aros gyda chi tan ei fod yn oedolyn, neu’n hwy.

Os yw’r plentyn yn ifanc, gallai fod gyda chi am flynyddoedd lawer wrth iddo dyfu i fyny. Neu i berson ifanc sydd eisoes yn ei arddegau, mae’n rhoi sefydlogrwydd iddo nes ei fod yn barod i fyw’n annibynnol.

Nid yw maethu hirdymor o reidrwydd yn golygu eich bod yn ffarwelio yn 18 oed. Mae llawer o ofalwyr maeth yn parhau i fod yn berson y mae’r person ifanc yn mynd ato ymhell ar ôl iddo symud allan.

a yw plant mewn gofal maeth hirdymor byth yn dychwelyd at deulu?

Mae siawns bob amser y gall amgylchiadau teuluol biolegol newid yn sylweddol, ac efallai y bydd y plentyn eisiau ceisio byw gyda’i riant eto yn ei arddegau.

6 awgrym gan ofalwyr maeth hirdymor eraill

Buom yn siarad â rhai o’n gofalwyr maeth sydd wedi dewis maethu yn yr hirdymor ac fe wnaethon nhw rannu eu profiad a’u cyngor.

dylech gynnwys eich teulu a’ch ffrindiau estynedig

Gyda gofal maeth hirdymor, mae mwy i’w ystyried, nid yn unig i’ch teulu agos ond i’ch teulu estynedig a’ch ffrindiau, gan eich bod yn gofyn iddyn nhw fod yn rhan o’r daith. Mae cefnogaeth teulu a ffrindiau yn amhrisiadwy, dyna pam ei bod yn bwysig eu bod yn cyd-fynd â’ch penderfyniad. Mae angen iddyn nhw dderbyn y plentyn fel rhan o’r teulu, cymaint â chi.

buddsoddwch yn y daith hir

Mae gwneud ymrwymiad hirdymor yn golygu eich bod yn buddsoddi yn y daith hir, nid dim ond hyd at 18 oed ac mae angen i’r plentyn wybod hynny, er mwyn iddyn nhw gael teimlad o berthyn a diogelwch.

Bydd heriau bob amser yn rhan annatod o’r berthynas, maen nhw’n rhoi eich ymrwymiad chi a’r teulu ar brawf.  Os ydyn nhw’n synhwyro unrhyw wendid, efallai na fydd modd adfer hyn, ond os yw eich ymatebion yn gwneud iddynt nhw deimlo diogelwch a chariad, bydd y gwobrau’n helaeth.

byddwch yn deulu iddyn nhw

Mae’n bwysig bod pawb yn gwybod i bwy maen nhw’n perthyn.

Weithiau, pan fydd plant yn teimlo’n rhan o’r teulu wrth faethu yn yr hirdymor, maen nhw’n dewis cymryd cyfenw eu gofalwr maeth – ond mae’n rhaid mai dewis y plentyn yw hyn.

estynnwch allan i’ch cymuned faethu am gefnogaeth

Mae maethu hirdymor fel cael aelod ychwanegol o’r teulu ond gyda chymorth ac arweiniad pan fydd ei angen arnoch. Mae’r gefnogaeth gan gyd-ofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol yn dal i fod ar gael i chi yn rheolaidd.

dylech eu trin yr un fath

Mae angen i chi drin y person ifanc fel rhan o’r teulu, gwneud cyfran o’r tasgau, derbyn ei farn, ystyried ei  anghenion a’i ddymuniadau wrth wneud penderfyniadau teuluol a’i drin yn gyfartal fel aelod o’r teulu. Mae hynny hefyd yn golygu peidio â rhoi mwy iddo na’ch plant biolegol, ei drin yr un ffordd o ran arian poced neu ddillad gan ddylunwyr.

mae pobl yn eu harddegau angen rhywle i’w alw’n gartref hefyd

Mae pobl yn eu harddegau angen teulu hefyd.

Mae cynnig cartref i blentyn yn ei arddegau am ei flynyddoedd olaf mewn gofal yn rhoi rhywle iddo ei alw’n gartref, lle i ledaenu ei adenydd, a dysgu sut i fod yn barod ar gyfer bywyd fel oedolyn.

Nid yw hirdymor yn dod i ben yn 18 oed. Faint o blant sy’n gadael cartref mewn gwirionedd yn 18 oed y dyddiau hyn?

Gyda’r hyn a elwir yn Pan Dwi’n Barod (neu Staying Put yn Lloegr), gall y person ifanc aros gyda chi nes iddo gyrraedd 21 oed, a hyd yn oed wedyn nid yw’r gefnogaeth yn dod i ben nes ei fod yn cyrraedd 25 oed. Mae hyn yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc fynd i’r coleg, y brifysgol neu ddod o hyd i waith a bod yn barod am annibyniaeth, a bod yn debycach i’w cyfoedion.

Darllenwch Stori Jake

maethu hirdymor v mabwysiadu: beth yw’r gwahaniaeth?

Rydym yn amlinellu’r prif wahaniaethau rhwng maethu a mabwysiadu yn ein blog ‘5 gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu ond dyma gipolwg ar ein saith uchaf:

  1. Cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol – Pan fydd plentyn mewn gofal maeth sefydlog, mae cymuned o gymorth o’u cwmpas nhw a’u teulu maeth gan y gwasanaethau cymdeithasol, Maethu Cymru, a theuluoedd maeth eraill. Fodd bynnag, pan fydd plentyn yn cael ei fabwysiadu, mae’r cyfranogiad rheolaidd o’r gwasanaethau cymdeithasol yn dod i ben, ond mae’n dal i fod ar gael pan fydd ei angen trwy gymorth mabwysiadu.
  2. Cyfrifoldeb Cyfreithiol – Nid yn unig y mae cyfranogiad y gwasanaethau cymdeithasol yn pennu’r cymorth rheolaidd a ddarperir, ond y cyfrifoldeb cyfreithiol dros y plentyn hefyd. Pan fydd plentyn mewn gofal maeth hirdymor, mae hyn yn parhau gyda’r awdurdod lleol, ond, ar ôl mabwysiadu, mae’r cyfrifoldeb cyfreithiol yn trosglwyddo’n llawn i’r teulu mabwysiadol. Pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn, byddwch yn dod yn rhiant i’r plentyn.
  3. Penderfyniadau– Bydd rhiant mabwysiadol yn gwneud pob penderfyniad dros blentyn. Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb rhieni a gwneud penderfyniadau dros blentyn mewn gofal maeth hirdymor yn cael ei rannu rhwng y rhiant biolegol a’r awdurdod lleol sy’n dirprwyo cyfrifoldeb i’r gofalwr maeth.
  4. Cyllid– Rhoddir lwfans i bob gofalwr maeth i ofalu am y plant. Mae gan rieni mabwysiadol gyfrifoldeb ariannol dros fagu eu plentyn, y gellir ei gefnogi gan lwfans mabwysiadu prawf modd. Darllenwch fwy:  Tâl gofalwr maeth (y canllaw sylfaenol!)
  5. Cysylltiadau Teuluol – I blant iau, yn enwedig pan fydd plentyn yn fabi neu’n fach, efallai mai mabwysiadu yw’r dewis iawn iddyn nhw yn yr hirdymor gan y bydd yn cynnig dechrau newydd iddyn nhw ac yn aml yn golygu newid cyfenw. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd gan blant hŷn ymdeimlad gwell o bwy ydyn nhw, eu hunaniaeth eu hunain, gyda pherthnasau teuluol cryf. Yn yr achos hwn, gall maethu hirdymor fod yn fwy addas.
  6. Cyswllt â Theulu Biolegol – Y dyddiau hyn, mae’r rhan fwyaf o achosion mabwysiadu yn ‘agored’. Mae hyn yn golygu bod y plentyn yn gwybod ei fod wedi ei fabwysiadu, pwy yw ei deulu biolegol, ac efallai y bydd yn cael cyswllt achlysurol â nhw e.e. pen-blwydd neu Nadolig. Er bod gofal maeth hirdymor yn darparu sefydlogrwydd, nid oes angen i blant ffarwelio â’u rhieni biolegol nac aelodau eraill o’r teulu. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol, gallai plentyn mewn gofal hirdymor weld ei frodyr a’i chwiorydd, ei fam-gu a’i dad-cu neu ei rieni biolegol mor rheolaidd ag unwaith yr wythnos neu ychydig o weithiau’r mis.
  7. Meddylfryd a Chymhelliant – Boed yn byw gyda rhieni mabwysiadol neu ofalwyr maeth, bydd plentyn yn cael ei garu ac yn derbyn gofal da. Fodd bynnag, yn ein profiad ni, mae gwahaniaeth o ran meddylfryd a chymhellion: Gall rhieni mabwysiadol fod yn chwilio am blentyn i ymuno â’u teulu yn barhaol, cymryd eu henw a bod yn rhiant am y tro cyntaf efallai. Tra bod gofalwyr maeth yn tueddu i agor eu cartrefi i helpu amrywiaeth o blant, eu paratoi ar gyfer eu cam nesaf mewn bywyd neu i ddychwelyd adref, tra’n gweithio ochr yn ochr â’r teulu biolegol a’r gwasanaethau plant.

ydych chi’n ystyried dod yn ofalwr maeth?

Os hoffech wybod mwy am y mathau o faethu, gan gynnwys gofal hirdymor, cysylltwch â thîm eich awdurdod lleol.

Neu, i wybod mwy am fabwysiadu cysylltwch â’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

Story Time

Stories From Our Carers