blog

pam mae angen gofal maeth a sut mae’n gweithio?

Yn y blog diweddaraf hwn, mae Jill Jones, Rheolwr Marchnata Cenedlaethol Maethu Cymru, yn rhannu ei phrofiadau a pham ei bod yn credu bod maethu mor bwysig.

Cefais fy magu mewn teulu gyda fy mam, fy nhad a fy chwaer. Ni oedd eich teulu niwclear arferol. Roedd fy rhieni bob amser yno i fi. Roedden ni’n byw yn yr un tŷ am y rhan fwyaf o fy mhlentyndod (mae fy rhieni’n dal i fyw yno nawr i ddweud y gwir). Es i i’r un ysgol hefyd, a gwneud un symudiad anferthol o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yn unig.

Gyda’n gilydd roedden ni’n mwynhau gwyliau teuluol. Dwi’n cofio chwarae lot o gemau bwrdd, gwrando ar gerddoriaeth – o’n i’n hapus. Fe wnaeth fy rhieni fy annog i wneud yn dda yn yr ysgol a fy nghefnogi i gael diddordebau. A phan fentrais i ffwrdd i brifysgol, nhw oedd fy rhwyd ddiogelwch.

A bod yn onest, roeddwn i’n meddwl bod pawb wedi cael plentyndod fel hyn. Y gwir amdani yw nad yw rhai plant mor lwcus. Ac, yn Maethu Cymru, rwy’n clywed eu straeon bob dydd.

beth yw maethu?

Yn ei ddiffiniad symlaf, mae ‘maethu’ yn golygu gofalu am blentyn heb fod yn rhiant cyfreithiol iddo. Mae hwn fel arfer yn fesur dros dro ac yn para am gyfnod cyfyngedig.

Mewn gwirionedd, ac yn fy mhrofiad i, byddwn i’n ystyried y geiriau “amser cyfyngedig” fel darn o elastig, sy’n gallu ymestyn ychydig yn hirach neu newid gyda “ping”. Ar ben hynny, nid yw ‘dros dro’ bob amser yn wir, gyda rhai plant yn dod am benwythnos ac yna’n dod yn rhan o’r teulu.

Byddwn i hefyd yn disgrifio maethu fel cyfle i ddarparu’r plentyndod yr oeddwn i’n ddigon ffodus i fod wedi’i fwynhau, i blant sydd wedi colli allan ar gymaint.

Mae hefyd yn deall yr ymddygiad cymhleth y mae plant wedi’i ddatblygu i amddiffyn eu hunain a goroesi’r amgylchiadau yr oeddent yn byw ynddynt. Mae’n golygu derbyn y plant am bwy ydyn nhw a’r effeithiau y gallai esgeulustod, camdriniaeth a’r holl bethau maen nhw wedi’u profi a’u gweld fel plant fod wedi’u cael.

Mae’n eu helpu i fod yn blentyn unwaith eto ac yn codi’r cyfrifoldeb a’r pryderon a syrthiodd ar eu hysgwyddau ifanc yn ofalus. A rhoi’r holl gyfleoedd a’r profiadau y maen nhw’n eu haeddu, gyda rhywun y gallan nhw ymddiried ynddo i fod yn eu cornel nhw.

Yn ogystal â hyn, mae’n golygu llywio’r system ofal gymhleth, gweithwyr cymdeithasol, perthnasoedd â theuluoedd biolegol, a magu plant (heb fod yn rhiant). Mae’n golygu bod yn greadigol, rhoi cynnig ar syniadau newydd a dysgu technegau newydd i helpu plant, a rheoli cyfnodau da ac anodd bywyd teuluol.

Ac er gwaethaf yr holl heriau hyn, gofynnwch i unrhyw ofalwr maeth a byddan nhw’n dweud wrthych faint maen nhw’n CARU maethu. Yn fy 18 mlynedd yn y maes hwn, gallaf ddweud yn hyderus bod yr adegau yr wyf wedi cwrdd â’r stereoteip sy’n cael ei bortreadu yn aml ar y teledu o’r gofalwr maeth diofal sydd yn gwneud hyn am yr arian, yn brin.

Nid yw’n hawdd, ond mae’r rhan fwyaf o ofalwyr maeth rwyf wedi cwrdd â nhw yn gwneud hyn i GYD gyda gwên, synnwyr digrifwch, a’r cartrefi mwyaf croesawgar a naturiol, lle mae rhywbeth bob amser yn cael ei goginio yn y gegin ac agwedd hamddenol na ellir amharu arno.

Nid yw’r system gofal maeth yn berffaith, ac mae yna ddiwrnodau pan mae’r her yn teimlo’n ormod, ond mae angen parhad ar ein plant yn fwy na dim.

Rwy’n gwybod bod gofalwyr maeth cariadus, sefydlog yn newid bywydau mewn cymaint o ffyrdd, rwyf wedi ei weld gyda fy llygaid fy hun.

Ond, yn anffodus, nid yw pob plentyn yn cael yr un profiad cadarnhaol o blentyndod a gofal maeth ag y gwn i sy’n bosibl.

Dyna pam rwy’n codi bob dydd, yn chwarae fy rhan ac yn gwneud fy ngorau i wneud gwahaniaeth, gan ddysgu bob dydd trwy wrando ar y gofalwyr maeth a’r bobl ifanc sydd wedi byw’r profiad.

Darllenwch fwy: Beth yw maethu?

<H2>Dyma chwe chamsyniad cyffredin am faethu… a’r gwirionedd</H2>

Mae maethu yn cynnig lle diogel i blant sydd ei angen, ac mae’n fwy cyffredin nag y byddech chi’n ei feddwl. Mae dros 5,000 o blant mewn gofal maeth yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae llawer o gamsyniadau yn bodoli o hyd ynghylch maethu.

Y camsyniad cyntaf yw bod eu rhieni’n bobl “ddrwg” neu fod y plant yn “ddrwg”.

Mewn llawer o achosion, ond nid pob un, mae’r rhieni wedi cael plentyndod anodd hefyd. Mae hyn yn heriol oherwydd efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli bod y ffordd y maen nhw’n rhianta oherwydd eu bod nhw wedi wynebu rhywbeth tebyg eu hunain. Weithiau mae ein gwaith gyda theuluoedd yn aml-haenog ac yn aml-genhedlaeth. O ran bod y plant yn “ddrwg”, ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli’r heriau cymhleth y mae ein plant wedi’u hwynebu bob dydd o’u bywydau ifanc. Mae ein plant yn mynd trwy sefyllfa wahanol iawn i’r rhan fwyaf o blant eraill o’u hoedran nhw. Maen nhw’n poeni am bethau nad yw rhai oedolion erioed wedi’u hwynebu. Mae cerdd fer o’r enw “Cause I ain’t got a pencil” sy’n crynhoi hyn i fi.

Yr ail gamsyniad yw bod gweithwyr cymdeithasol yn dod i mewn ac yn mynd â phlant.

Y ffaith yw, os oes gan gymydog neu ysgol bryderon, maen nhw’n cysylltu â ni (y gwasanaethau cymdeithasol) ac rydyn ni’n estyn allan i ddarganfod beth sy’n digwydd ac i helpu. Mae’r rhan fwyaf o weithwyr cymdeithasol yn dod i mewn i’r rôl hon i helpu teuluoedd, ac nid nhw yw’r rhai ystrydebol a welwch ar y teledu chwaith.

I’r rhan fwyaf o deuluoedd, mae’n aml yn we gymhleth o broblemau a gallwn gynnig pob math o gefnogaeth i rieni a theuluoedd. Rydyn ni’n troi at eu ffrindiau a’u teulu ehangach am gefnogaeth hefyd.

Dim ond yn y cyfnod mwyaf heriol y gwnawn y penderfyniad anodd i ofyn i’r llysoedd ddod â phlant i ofal, i roi cyfle i rieni ganolbwyntio ar wella pethau, ac i amddiffyn plant rhag niwed pellach.

Dyma’r trydydd camsyniad. Nid penderfyniad y gweithiwr cymdeithasol yw hwn.

Maen nhw’n cyflwyno’r achos i farnwr, a fydd yn gwneud y penderfyniad. Dim ond yr heddlu sy’n penderfynu symud plant os oes risg uniongyrchol.

Felly, beth sy’n digwydd nesaf? Mae’n debyg mai hwn yw’r camsyniad mawr nesaf, camsyniad pedwar. Ein nod yn y pen draw yw i blant ddychwelyd at eu rhieni neu eu teulu, ac i’w cartref teuluol fod yn ddigon diogel a sefydlog i ddychwelyd iddo. Yn aml dyma beth mae plant ei eisiau ac, os mai dyna sydd orau iddyn nhw, dyna beth rydyn ni ei eisiau hefyd.

Ond gall hyn gymryd amser. Ni ellir datrys rhai o’r materion cymhleth dros nos a gallant gynnwys rhieni yn cymryd ychydig gamau ymlaen ac ychydig gamau yn ôl i oresgyn dibyniaeth, dewisiadau perthynas a gwella eu hiechyd neu eu hiechyd meddwl eu hunain i fod mewn lle da.

Felly, am ryw chwe mis, a thra bod y broses llys yn parhau, rydyn ni’n canolbwyntio ar roi sefydlogrwydd a diogelwch i’r plentyn hwnnw mewn cartref maeth wrth barhau i weithio gyda rhieni a chadw’r perthnasoedd hynny yn gysylltiedig, gyda’r gobaith y bydd y plentyn yn dychwelyd adref.

Camsyniad rhif pump yw nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli y bydd y rhan fwyaf o blant yn dal i weld eu rhieni a’u teulu tra byddant mewn gofal maeth. Mae’r rhain yn berthnasoedd pwysig, hyd yn oed os na allan nhw fyw gyda’i gilydd. Efallai y bydd y plant yn poeni am eu rhieni ac eisiau eu gweld.

Felly, yn y rhan fwyaf o achosion, rydym yn trefnu amseroedd rheolaidd iddyn nhw gyfarfod. Yn anffodus, weithiau nid yw’r cyfarfod sydd wedi eu cynllunio yn digwydd ac mae plant yn siomedig. Weithiau pan fydd yn digwydd, nid yw’n brofiad cadarnhaol ac mae ymddygiad plant yn dychwelyd yn ôl i’r problemau blaenorol. Beth bynnag sy’n digwydd, mae’r gofalwyr maeth yno i roi’r darnau at ei gilydd unwaith eto.

Y chweched camsyniad yw y dylai’r plant fod yn “ddiolchgar” i’w teuluoedd maeth am “eu cymryd nhw i mewn”. Efallai, pan fydd person ifanc yn ei 20au, bydd yn edrych yn ôl ac yn gwerthfawrogi popeth y gwnaethoch chi iddyn nhw fel plentyn, ond nid ar y pryd. Mae teimladau ac emosiynau llawer mwy yn digwydd. Efallai y bydd eich bywyd teuluol yn teimlo’n hollol ddieithr i rai o’n plant.

Yn eistedd mewn ystafell o ofalwyr maeth profiadol, fe wnaethon ni gymhariaeth o ba mor wahanol y gallai ein cartref deimlo i’n plant a pha mor ddryslyd y gallai hynny fod

sut mae maethu’n gweithio?

Mae’n cymryd amser i rieni wneud newidiadau enfawr yn eu bywyd, ond ni all plentyn barhau i ofyn o ddydd i ddydd “Ydw i’n aros yma?” neu “pryd ydw i’n mynd gartref?”.

Mae angen ateb arnyn nhw.

Pan fydd digon o wybodaeth yn cael ei chasglu, cyflwynir tystiolaeth i’r llys. Rydyn ni’n gofyn i farnwr benderfynu a yw sefyllfa’r rhieni wedi newid digon, a yw’n ddigon da, a yw’n ddiogel i fynd gartref?

a yw’n ddiogel i fynd gartref?

Weithiau yr ateb yw ydy. Ac mae hynny’n hyfryd i’w weld. Tad sengl yn camu i’r adwy i ofalu am ei blentyn. Mam yn rhoi ei phlant yn gyntaf. Dyma beth mae plant ei eisiau. Dyna beth rydyn ni ei eisiau.

Ond yn aml rydyn ni’n gweld nad yw plant ar frig rhestr flaenoriaeth eu rhieni. Mae pethau eraill yn cymryd drosodd, fel cyffuriau, alcohol, trosedd, trais a pherthnasoedd camweithredol. Efallai bod hynny’n swnio’n ystrydebol, ond dyna rai o’r rhesymau mwyaf cyffredin. Mae stori pob plentyn yn unigryw.

Rydyn ni hefyd yn gweld rhieni sy’n caru eu plant yn fawr iawn, ond, hyd yn oed gyda’r holl help sydd ar gael, nid oes ganddynt y gallu i fod yn lle cyson, dibynadwy, diogel i blentyn.

Mae’n drist iawn i’w weld ac yn benderfyniad anodd i’w wneud. Y cwestiwn sy’n ein helpu i wneud y penderfyniad hwnnw yw:

“Beth sydd orau i’r plentyn?”

Mae hyn yn arwain popeth a wnawn.

beth sydd orau i’r plentyn?

Rydyn ni’n gofyn llawer o gwestiynau:

  • Beth sydd ei angen arnyn nhw?
  • Pa deulu maeth all ddarparu hynny orau?
  • Ai mabwysiadu neu faethu hirdymor fyddai orau?
  • Pwy sy’n gallu gofalu amdanyn nhw nes eu bod yn oedolion?
  • Pwy sy’n gallu bod gyda nhw ar eu taith heb symud o le i le?
  • Pwy sy’n gallu eu derbyn nhw fel unigolion?
  • Pwy sy’n gallu eu cadw mewn cysylltiad â’u cymuned, ysgol, ffrindiau a theulu orau a derbyn pob perthynas bwysig sy’n dod gyda nhw?

Rydyn ni’n adnabod y plant hyn ac nid ydyn ni’n gwneud y penderfyniadau hyn yn ysgafn. Rydyn ni eisiau’r gorau iddyn nhw.

Nid yw’r ffaith nad ydyn nhw’n gallu byw gyda’u teulu yn golygu bod yn rhaid i’r berthynas honno ddod i ben. Os oes pethau cadarnhaol a chariad yno, gallant barhau i fod yn gysylltiedig – ond ddim yn byw o dan yr un to. Rydyn ni eisiau rhoi cyfle i rieni fod yn berson cadarnhaol ym mywydau eu plant, nawr ac yn y dyfodol.

Yn y cyfamser, mae’r plant yn cael profiad o fod yn rhan o gartref cariadus, gofalgar gydag addysg gyson, prydau iach, anogaeth, canmoliaeth a hwyl gyda’u teulu maeth sy’n rhoi’r bywyd teuluol nad oedden nhw, efallai, erioed wedi’i gael.

dyfodol gwell

Rydyn ni’n credu mewn rhoi dyfodol gwell i blant. Nid yn unig iddyn nhw ond hefyd os, a phan fyddant yn dod yn rhieni eu hunain un diwrnod.

Rydyn ni eisiau’r hyn sydd orau i’n plant. Rydyn ni’n credu mai cadw cysylltiad, dod o hyd i’r gofalwr maeth cywir ar eu cyfer, a chynnig cymorth lleol, yw hynny. Ac, yn bwysig, i ofalwyr maeth fod yn rhan o’r un sefydliad sy’n adnabod y plentyn ac sy’n gwneud penderfyniadau gyda budd y plentyn mewn golwg.

  • Trwy faethu gyda ni, eich awdurdod lleol, gallwch helpu plant i aros yn lleol.
  • Trwy faethu’n uniongyrchol gyda ni, sefydliad nid-er-elw, gallwch helpu i sicrhau bod yr holl gyllid yn cael ei gadw yn yr ardal leol i gynnig cymorth i deuluoedd lleol.
  • Trwy faethu gyda ni, cydweithrediad o sefydliadau llywodraeth leol, gallwn gydweithio gyda’r pŵer i wneud newidiadau cadarnhaol i’r system a chreu dyfodol gwell i’n plant.

y cam nesaf

Y cam nesaf yn syml yw darganfod mwy. Dim pwysau. 

Rydym wrth ein bodd yn siarad am faethu. Mae llawer o fythau am faethu, ynghylch pwy sy’n gallu maethu. Mae mwy o hyblygrwydd nag yr ydych chi’n meddwl hefyd, gyda mathau o faethu gwahanol ar gael. Rydyn ni’n chwilio am rywun sy’n gallu cynnig bywyd teuluol cariadus i blentyn gyda diogelwch a sefydlogrwydd.

Byddem wrth ein bodd yn darganfod beth sydd gennych chi neu’ch teulu i’w gynnig. Gallwch gysylltu â ni mewn sawl ffordd – anfon e-bost, llenwi ffurflen neu ein ffonio ni. Dod o hyd i’ch awdurdod lleol

I fod yn onest, pan fydda i’n cael sgwrs gyda rhywun a allai newid bywyd plentyn, mae’n gwneud fy niwrnod.

Story Time

Stories From Our Carers