blog

“Ni biau ein stori”

Mae grŵp o bobl ifanc o Dde Cymru sydd â phrofiad o ofal wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chyn Fardd Plant Cymru, Connor Allen, i gynhyrchu cerdd yn rhannu eu profiadau o fod yn bobl ifanc mewn gofal maeth.

Yma, mae Ben*, 14, un o’r bobl ifanc a fu’n rhan o greu’r gerdd, yn rhannu ei obeithion ar gyfer creu cymdeithas sy’n rhydd o gamsyniadau am bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

cymryd rhan

Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn yr ymgyrch hon oherwydd rydw i eisiau i bobl weld sut beth yw bod yn arddegau mewn gofal a chlywed ein gwirionedd; mae gormod o ragdybiaethau ynghylch pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ac rwyf am newid hynny.

Drwy newid stereoteipiau, rwy’n gobeithio newid barn pobl, yn enwedig mewn ysgolion, ac yna mae mwy o bobl yn dechrau deall maethu.

Roedd y gweithdy y gwnaethom gymryd rhan ynddo yn wych. Fe wnes i fwynhau gwneud rhywbeth creadigol gyda’n grŵp, gan gyfuno ein holl brofiadau a syniadau.

Roedd Connor yn anhygoel – roedd yn ddoniol ac yn meddu ar bersonoliaeth gref, ac roedd ei brofiadau bywyd go iawn ei hun yn ei gwneud yn hawdd uniaethu â nhw. Roeddem yn teimlo fel ei fod yn gwrando ar ein straeon a’n profiadau ac yn ein harwain i droi’r rheini’n syniadau ar gyfer y gerdd, yn hytrach na rhoi geiriau yn ein cegau.

ysgol a chyfoedion

Un o’r pethau mwyaf rhwystredig yr ydym yn dod ar ei draws yw pobl yn drysu mabwysiadu gyda maethu; mae gwahaniaeth rhyngddynt. Rwy’n ypsetio pan fydd pobl yn cymryd fy mod wedi fy mabwysiadu oherwydd bod gennyf rywun nad yw’n edrych fel fi yn gofalu amdanaf.

Yn aml dwi ddim yn dweud yn agored wrth bobl am fy ngofalwyr maeth oni bai fy mod yn gyfforddus gyda nhw.

Ni biau ein stori a mater i ni yw ei rhannu â phobl rydyn ni’n eu hadnabod. Dywedodd un o fy athrawon wrth bawb yn y dosbarth fy mod mewn gofal maeth, heb unrhyw rybudd, ac roeddwn yn teimlo cymaint o embaras a gofid.

Maent yn ein gwahaniaethu oddi wrth bawb arall, fel pe bai bod mewn gofal maeth yn ein gwneud yn wahanol i weddill ein cyd-ddisgyblion. Dim ond un agwedd ar ein bywydau ydyw.

portreadau negyddol yn y cyfryngau

Mae teledu a ffilmiau yn chwarae rhan fawr wrth greu’r naratif amdanom ni – pobl ifanc mewn gofal. Fel arfer cawn ein portreadu fel pobl ifanc anodd, aflonyddgar sydd ar lwybr negyddol mewn bywyd.

Mae llawer o bobl yn meddwl bod pobl ifanc mewn gofal yn achosi trwbwl, rydym yn cymryd cyffuriau, yn mynd yn feichiog dan oed ac nid oes gennym unrhyw freuddwydion, ac nid yw hynny’n wir.

Rydyn ni’n normal fel pobl eraill. Weithiau efallai y byddwn yn ymateb yn gryf i athrawon neu oedolion eraill, ond mae hynny fel arfer oherwydd y problemau dyfnach sy’n ein hwynebu neu’n ei chael yn anodd ymdopi â nhw.

Mae ein hamgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, yn aml o ganlyniad i gamgymeriadau a wneir gan oedolion yn ein bywydau, felly mae’n ddealladwy y gallem deimlo’n ddig.

lle diogel

Nid yw ein gofalwyr maeth yn cymryd lle ein rhieni – maen nhw’n darparu cartref diogel ac arweiniad i ni yn ystod cyfnod heriol o’n bywyd – llencyndod.

Gall yr ysgol fod yn heriol i ni, felly mae’n bwysig bod gennym amgylchedd sefydlog gartref gyda system gymorth dda i’n helpu i oresgyn unrhyw rwystrau.

Weithiau, mae ein gofalwyr maeth yn ein hannog i ymgymryd â hobïau newydd neu roi cynnig ar brofiadau newydd – rydw i hyd yn oed yn gwerthfawrogi cael tasgau o gwmpas y tŷ i’w gwneud; mae’n gwneud i mi deimlo fel rhan o’r teulu a bod fy mhresenoldeb yn cael ei werthfawrogi.

Rwy’n meddwl bod pobl weithiau’n cael eu digalonni rhag maethu pobl ifanc yn eu harddegau, ond mewn gwirionedd rydym yn dda i’n cael o gwmpas y tŷ, efallai y bydd ein synnwyr digrifwch digywilydd hyd yn oed yn gwneud i chi chwerthin. Mae babi neu blentyn iau angen llawer mwy o ofal ond gallwn fod yn eithaf annibynnol a throi at ein gofalwyr maeth am arweiniad a chymorth.

Mae’r prosiect yn rhan o’n hymgyrch i ddileu camsyniadau negyddol am bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a chynyddu nifer y gofalwyr maeth i bobl ifanc 11+ oed.

Dysgwch fwy am ddod yn ofalwr maeth yma.

*Mae enw Ben wedi cael ei newid at ddibenion diogelu.

Story Time

Stories From Our Carers