jo

Mae gennym gymuned amrywiol o ofalwyr maeth, gan gynnwys gofalwyr maeth sengl fel Jo.

y teulu maeth

Dewisodd Jo faethu am nifer o resymau, ond un peth a ddylanwadodd yn fawr ar ei phenderfyniad oedd ei ffrind gorau pan oedd hi’n ferch fach, a oedd mewn gofal maeth.

“Byddai hi bob amser yn dod draw i’n tŷ ni, ond un diwrnod, es i draw i weld a oedd hi eisiau chwarae a dywedodd ei rhieni maeth ei bod hi wedi gadael. Welais i mohoni hi fyth eto. Fe wnaeth hynny gael effaith fawr arnaf i.”

I Jo, mae ymuno â thîm Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn golygu helpu plant i aros yn yr ardaloedd lleol y maen nhw’n eu hadnabod ac yn dwlu arnyn nhw, a chynnal y bondiau pwysig hynny gyda ffrindiau a theulu.

Mae mor gefnogol. Mae’n ymwneud â chymuned, rhoi rhywbeth yn ôl a dod yn rhan o gymuned eang a chefnogol o ofalwyr maeth.”

“does dim y fath beth â ‘gofal maeth nodweddiadol’”

Dechreuodd Jo trwy faethu babanod a phlant ifanc, ond erbyn hyn mae wedi rhoi cartref i bob math o blant o wahanol oedrannau a chydag anghenion gwahanol. Mae hi’n gwybod o brofiad personol pa mor amrywiol yw maethu.

Dwi wedi dysgu does dim shwt beth â ‘maethu nodweddiadol’. Mae cynifer o blant mewn gwahanol sefyllfaoedd ag anghenion gwahanol. Dwi wedi meithrin brodyr a chwiorydd, pobl ifanc yn eu harddegau, plant ag anghenion cymhleth a babanod.”

“maen nhw’n fy synnu’n gyson”

Ar hyn o bryd mae Jo’n gofalu am Jenny, 17 oed, a oedd yn byw gyda’i diweddar fam-gu.

Roedd yn gyfnod trawmatig iawn i Jen. Rydyn ni wedi datblygu bond hyfryd. Dywedodd ei bod yn hapus iawn ac na fyddai am fod yn unman arall

Breuddwyd Jenny yw bod yn feddyg. Fel ei gofalwr maeth, mae Jo yn ei helpu ar ei thaith gyda llawer o anogaeth a chymorth.

Mae hi’n astudio i fynd i’r coleg ac yn dysgu sut i yrru, a dwi’n mwynhau ei helpu gyda’i hadolygu a mynd â hi allan am ymarfer gyrru ychwanegol

Mae Jo hefyd yn gofalu am y brodyr Alex a Ben, sydd wedi bod mewn gofal maeth ers yn ddwy ac yn bedair oed.

Roedd popeth rydyn ni’n ei gymryd yn ganiataol fel amser gwely, amser bath, hyd yn oed amser te yn anodd ar y dechrau. Ond maen nhw’n fechgyn gwahanol erbyn hyn, yn llawn hwyl ac egni. Maen nhw wrth eu boddau gyda’u gwersi nofio a’u clwb pêl-droed.  Maen nhw’n fy synnu’n gyson ac yn gwneud pethau newydd bob dydd

hoffech chi gychwyn ar eich taith faethu eich hun?

Os yw darllen stori Jo wedi eich ysbrydoli chi i gychwyn ar eich taith tuag at fod yn ofalwr maeth, yna rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi. Dewch o hyd i’ch Awdurdod Lleol heddiw a chymryd y cam cyntaf.

hoffech chi ddysgu mwy?

Rhagor o wybodaeth am faethu a holl fanteision hynny.

Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn