2023

pythefnos gofal maeth

Admiral yn dod yn gyflogwr Maethu Cyfeillgar wrth i Faethu Cymru alw ar gyflogwyr Cymru i wneud mwy i gefnogi gofalwyr maeth.

Bob dydd yng Nghymru mae pump o blant angen gofal maeth.

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth™, mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr i ddod yn Gyfeillgar i Faethu, yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth y gallwch barhau i weithio os byddwch yn dod yn ofalwr maeth.

Ar hyn o bryd mae tua 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno eu cyfrifoldeb gofalu â gwaith arall.

Un cwmni sydd wedi gwneud yr ymrwymiad yw cwmni gwasanaethau ariannol o Gymru, Admiral. Mae wedi dod yn gyflogwr Maethu-Gyfeillgar i gefnogi cydweithwyr sydd eisoes yn ofalwr maeth, neu’n dymuno bod yn ofalwr maeth.

Mae Admiral yn cyflogi mwy na 7000 o bobl yn y DU, y mwyafrif yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Mae’r Pythefnos Gofal Maeth hwn gan Admiral yn codi ymwybyddiaeth o’r polisïau cyfeillgar i deuluoedd sydd gan y cwmni ar waith, gan gynnwys Polisi Gofalwyr Maeth sy’n rhoi amser i ffwrdd â thâl i gydweithwyr Admiral i fynychu unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant yn ystod y broses gymeradwyo, a gwyliau â thâl i setlo plentyn pan maent yn cyrraedd gyntaf.

Mae’r polisi’n cydnabod pwysigrwydd cael amser i’w dreulio gyda phlentyn neu berson ifanc, er mwyn meithrin perthynas lwyddiannus.

Dywedodd Rhian Langham, Pennaeth Pobl yn Admiral:

“Rydym yn falch iawn o gefnogi ein cydweithwyr sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth a newid bywyd plentyn, ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi a chadw ein pobl werthfawr a allai fel arall fod yn wynebu’r penderfyniad anodd i ddewis rhwng gwaith a gofal maeth.

 

Mae gofalwyr maeth yn gwneud cyfraniad hynod werthfawr i fywydau plant a phobl ifanc mewn gofal, ac rydym yn gweithio’n galed i greu amgylchedd gwaith sy’n cefnogi ac yn deall eu hanghenion o’r camau cyntaf un a thrwy gydol y daith gofal maeth. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cydweithwyr ac yn falch o fod yn gyflogwr sy’n ystyriol o deuluoedd sy’n edrych yn barhaus ar ein cynigion i sicrhau eu bod yn berthnasol i bawb.”

 

“Ni fyddem yn gallu gofalu am y plant pe na bai gan Admiral y polisi hwn yn ei le”

 

Mae Anthony Hopkins a’i wraig Nichola wedi gweithio i Admiral ers dros 20 mlynedd. Yn ddiweddar maent wedi dod yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Abertawe ac mae ganddynt blant yn byw gyda nhw ar sail hirdymor.

Dywed Anthony:

“Mae ein plant genedigol wedi tyfu i fyny, ond roedden ni dal eisiau plant o gwmpas y tŷ a dyna pam yr oeddem yn ystyried dod yn ofalwyr maeth. Roeddem am faethu gydag awdurdod lleol oherwydd ei fod yn helpu i osgoi amhariad pellach ar fywydau’r plant drwy helpu i gynnal eu perthnasoedd yn ystod cyfnod a oedd fel arall yn bryderus. Mae tîm Maethu Cymru Abertawe wedi rhoi cyngor arbenigol i ni drwy gydol y broses.

 

“Fe wnaethon ni ddweud wrth ein rheolwyr llinell yn Admiral, ac maen nhw wedi ein cefnogi’n llawn trwy ein cais maethu a’n taith hyfforddi, ac maen nhw’n parhau i’n cefnogi ni fel gofalwyr maeth.”

 

“Roedd yn newid cyflym i ni, ar ôl y panel rydych chi fel arfer yn aros tua 2-3 wythnos cyn i chi gael plentyn gyda chi, ond fe ddaeth sefyllfa o argyfwng i fyny a chawsom ein cymeradwyo a’u croesawu o fewn 48 awr!

 

“Mae Admiral wedi bod yn wych ac yn gwbl gefnogol, gan ddarparu’r ddealltwriaeth a’r hyblygrwydd yr oedd ei angen arnom i ymgartrefu’r plant, gan ein galluogi i gael yr ystafelloedd gwely’n barod fel bod y plant yn teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel yn ein cartref, ac i dreulio amser gyda nhw hefyd.

 

“Mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil i ni, er mai dim ond am gyfnod byr y gwnaethon ni ei wneud hyd yn hyn. Pe bawn i byth yn newid swydd, yna byddai polisi maethu cefnogol neu bolisi gweithio hyblyg 100% yn rhywbeth y byddwn yn edrych amdano mewn cwmni. Ni fyddem yn gallu gofalu am y plant a bod yno iddynt pe na bai gan Admiral y polisi hwn.”

 

‘Mae angen i’n cymuned yng Nghymru gamu ymlaen’

 

Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw, sy’n cynnwys y 22 o dimau awdurdodau lleol yng Nghymru. Maent yn cefnogi gofalwyr maeth i barhau i weithio, gan ddeall nad yw rhoi’r gorau i’w gyrfa bresennol yn opsiwn i lawer o bobl.

Caerdydd, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr yw’r awdurdodau lleol diweddaraf i gynnig gwyliau ychwanegol ac oriau gwaith hyblyg i staff sy’n maethu, gan ymuno â Phowys, Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae llawer mwy o awdurdodau lleol, sydd eisoes yn cynnig oriau gwaith hyblyg, yn adolygu eu polisïau neu’n bwriadu cyflwyno polisïau maethu tebyg yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope:

“Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae angen i’n cymuned yng Nghymru gamu ymlaen.

“Rydyn ni’n gwybod pan fydd plant yn aros yn gysylltiedig, yn aros yn lleol a bod ganddyn nhw rywun i gadw atyn nhw am y tymor hir, rydyn ni’n gweld canlyniadau gwell.

“Felly, os gall cyflogwyr yng Nghymru gefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, gall awdurdodau lleol helpu mwy o blant i gadw mewn cysylltiad â’u gwreiddiau ac yn y pen draw, eu cefnogi tuag at ddyfodol gwell.”

Er mwyn hybu safle Cymru fel Cenedl Maethu Cyfeillgar, heddiw mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi ei statws Maethu Cyfeillgar. Bydd gweithwyr Llywodraeth Cymru yn gallu cymryd yr amser sydd ei angen arnynt i groesawu a setlo plentyn o’r awdurdod lleol i’w cartref, a’i gefnogi’n llawn drwy gydol eu hamser yn eu gofal.

I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru ewch i maethucymru.llyw.cymru

I ddod yn gyflogwr Maethu Cyfeillgar, cysylltwch â The Fostering Network [email protected] i gael gwybod mwy.