stori

jeevan a carole

jeevan a carole

Mae’r pâr priod, Jeevan a Carole, yn ofalwyr maeth yng Nghaerdydd.

y teulu maeth

Mae Carole a Jeevan wedi bod yn maethu ers pum mlynedd. Ffrindiau wnaeth eu hysbrydoli i ddechrau maethu. Ar ôl iddyn nhw benderfynu cymryd y cam cyntaf, roedd tîm eu Hawdurdod Lleol yn eu helpu i baratoi ar gyfer yr hyn y byddai maethu yn ei olygu.

“Roedden nhw’n glir iawn ynghylch sut beth yw maethu mewn gwirionedd, ond yn gefnogol iawn ar yr un pryd. Roedd eu hyfforddiant o gymorth mawr i ni – roedden nhw’n gwneud i ni gredu y gallen ni ymdopi.”

“alla’ i aros yma?”

Ac yntau’n naw oed, ymunodd Jamie â’u teulu ar sail tymor byr. Er ei fod yn ofnus ac yn agored i niwed i ddechrau, fe ddaethon nhw o hyd i ffordd o ddechrau chwalu rhwystrau – gwneud pitsa. Yna, dros amser, daeth yr hyn a ddechreuodd fel rhywbeth tymor byr yn rhywbeth newydd.

“Wna i byth anghofio’r diwrnod y dywedodd ‘alla i aros yma?’ Daeth i’r amlwg, ar ôl siarad â’r tîm maethu yng Nghaerdydd, mai dyma’r opsiwn gorau i Jamie mewn gwirionedd, ac mae wedi bod gyda ni ers hynny.”

teulu sy’n tyfu

Yn ddiweddarach, croesawodd Jeevan a Carole Seren, sy’n 8 oed, i’w cartref. Mae ei gorffennol yn teimlo’n bell yn ôl wrth edrych ar sut mae hi erbyn hyn, diolch i gariad a chefnogaeth – mae hi’n hapus, yn ddiogel ac mae ei phersonoliaeth unigryw yn disgleirio.

“Pan aethon ni i noson rieni yn weddol ddiweddar, dywedodd ei hathrawon wrthyn ni sut mae hi wedi datblygu cymaint, a sut mae hi’n eu swyno gyda’i phersonoliaeth.”

“rydyn ni’n cael cymaint o hwyl”

I Jeevan a Carole, mae maethu yn golygu helpu plant i deimlo’n rhan o’u teulu. Mae’n golygu cynhesrwydd, amynedd a chariad.

“Mae yna ddiwrnodau anodd, ond wedyn rydyn ni’n cael cymaint o hwyl ac yn teimlo cymaint o falchder. Mae’r teimlad hwnnw mor werthfawr – rydych chi eisiau ei roi dan glo a’i gadw am byth.”

hoffech chi ddechrau eich stori faethu eich hun?

Os yw darllen stori Jeevan a Carole wedi eich ysbrydoli chi i gymryd y cam cyntaf tuag at faethu, gadewch i ni ddechrau arni. Dewch o hyd i’ch Awdurdod Lleol a chychwyn ar eich taith heddiw.

hoffech chi ddysgu mwy?

Rhagor o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi.

Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn