stori

jack, cam a mags

jack, cam a mags

Mae’r partneriaid Jack a Cam, ynghyd â mam Jack Mags, yn ofalwyr maeth sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

y teulu maeth

I Jack a’i fam Mags, roedd maethu bob amser yn teimlo fel rhywbeth yr oeddent am ei wneud. 

“Rwy’n cofio, byddai hysbysebion yn y papur ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth a bydden ni bob amser yn siarad am bwy gallen ni eu helpu.”

Maen nhw wedi bod yn maethu gyda’i gilydd ers chwe blynedd bellach ac ymunodd partner Jack, Cam, â’u teulu maethu bedair blynedd yn ôl. Maen nhw’n gofalu am Sam sy’n 10 oed.

Rydyn ni eisiau i Sam wybod nad oes rhaid iddo fod y gorau; y cyfan mae angen iddo’i wneud yw ceisio gwneud ei orau glas.

“mae maethu yn ffordd o fyw”

I Mags, Jack a Cam, nid rhan o’u bywyd yn unig yw maethu – dyma eu holl fywyd. Maent yn gwybod bod dewis bod yn ofalwr maeth yn golygu gwneud ymrwymiad. Mae’n heriol, ond mae’n werth chweil hefyd. Maen nhw’n gwybod pa mor bwysig yw e, ac yn gallu gweld y newidiadau cadarnhaol yn Sam. 

Rydyn ni’n ei helpu drwy roi iddo’r holl bethau rydyn ni’n credu y mae plant yn eu haeddu: pobl sy’n eu caru a lle i deimlo’n ddiogel.

“rydyn ni’n un tîm mawr”

Mae gwaith tîm yn bwysig. Nid yw Jack, Cam a Mags yn gwneud hyn ar eu pennau eu hunain – maent yn rhan o’n tîm Maethu Cymru lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rydyn ni bob amser ar gael, boed hynny am gyngor, hyfforddiant neu fel rhywun i siarad ag e.

“Mae ein gweithiwr cymdeithasol mor dda am wrando ac am roi amser i ni stopio a chymryd anadl ddofn cyn i ni fynd ymlaen eto.”

Rydyn ni gyd yn gweithio gyda’n gilydd.

hoffech chi ddechrau eich stori faethu eich hun?

Os yw darllen stori Jack, Cam a Mags wedi’ch ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf tuag at faethu, rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych. Cysylltwch â ni heddiw, a gadewch i ni ddechrau arni. Dewch o hyd i’ch Awdurdod Lleol, a gadewch i ni ddechrau arni.

hoffech chi ddysgu mwy?

Rhagor o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi.

Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn